Cynghorau i rannu £5m o 'gymorth bwyd brys' wrth i gostau byw godi

AS Sioned Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Williams fod teuluoedd yn wynebu "gaeaf caled" wrth i chwyddiant godi

  • Cyhoeddwyd

Bydd cynghorau Cymreig yn derbyn £4.8m er mwyn darparu "cymorth bwyd brys" a chefnogaeth arall i bobl sy'n wynebu heriau yn sgil costau byw.

Bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru yn cael ei rannu rhwng y 22 o awdurdodau lleol, gyda'r rhai mewn ardaloedd gwledig yn derbyn premiwm oherwydd "yr heriau ychwanegol" sy'n dod law yn llaw gyda chludo cymorth i ranbarthau sydd â phoblogaeth ar wasgar.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams fod costau tanwydd ac ynni cynyddol yn golygu bod llawer o deuluoedd yn wynebu "gaeaf caled" arall, a'i bod hi'n "targedu cymorth ble mae'r angen fwyaf".

Yn ôl Reform UK Cymru, er bod cefnogaeth at bwysau costau byw yn cael ei groesawu, gallai'r llywodraeth wneud mwy.

Prisiau'n saethu i fyny

Mae'r rhyfel rhwng America ac Iran a phwysau ar ffynonellau olew yn Saudi Arabia wedi achosi i gostau tanwydd saethu i fyny yn y dyddiau diwethaf.

Gyda disgwyl i chwyddiant a chostau ynni godi fis nesaf, gallai nifer o bobl deimlo'r esgid yn gwasgu.

Bydd awdurdodau lleol yn medru rhoi pres argyfwng i sefydliadau cymunedol fel banciau bwyd, clybiau cinio a darparwyr cyngor.

Gareth Banks
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Banks yn gwirfoddoli hefo prosiect Down to Zero ers dwy flynedd

Mae prosiect Down to Zero yn tyfu llysiau ar dir ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf, maen nhw wedi derbyn arian yn y gorffennol.

Mae'r llysiau am ddim i deuluoedd ar incwm isel, ac mae tanysgrifiadau ar gost is i aelwydydd eraill yn y sir.

Mae Gareth Banks wedi gwirfoddoli hefo'r grŵp ers dwy flynedd ac mae'n "caru e".

"Ry'n ni'n medru cynnig llysiau a ffrwythau rhesymol ac wedi'u tyfu'n organig, i bobl leol na fydde' bob amser yn medru fforddio'r math yna o beth," meddai.

Angharad Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Mae teuluoedd sydd ag incwm yn dod i mewn yn dal methu â thalu am fwyd medd Angharad Rogers

Y darparwr tai cymdeithasol, Cynon Taf, sy'n rhedeg y prosiect.

Yn ôl Angharad Rogers o Cynon Taf, roedd diffyg bwyd yn broblem oedd yn cynyddu i denantiaid.

"Ry'n ni wedi gweld dipyn o newid yn ddiweddar yn y bobl... sydd fwyaf mewn angen ac yn defnyddio banciau bwyd," meddai.

"Mae teuluoedd gydag incwm yn dod gartref yn dal methu â thalu am fwyd a phethau fel 'na, felly ry'n ni'n gweld llawer o deuluoedd yn dod atyn ni ac yn gofyn am help."

Prisiau 'eithriadol o uchel'

Mae pris tanwydd cerbydau wedi codi'n sylweddol o gymharu ag Awst y llynedd, a dywedodd gyrwyr oedd yn llenwi eu ceir yn Ystradowen eu bod yn poeni bod prisiau am godi ymhellach.

Yn ôl Ron Jones o'r Bont-faen nid yw'n gyrru mor aml, ond mae disgwyl prisiau uwch "o ystyried y byd fel y mae e'".

Dywedodd Joy Thomas fod prisiau yn "eithriadol o uchel" a'i bod hi wedi chwilio am yr orsaf betrol rhataf cyn llenwi.

Dywedodd Lewis Wall, 28, fod prisiau'n "hurt": "Ond be' allwn ni wneud am y peth? 'Allwch chi ddim rheoli'r prisiau ac mae pawb angen tanwydd."

Joy Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joy Thomas yn gweld prisiau tanwydd yn "eithriadol o uchel"

Dywedodd Sioned Williams AS y bydd y llywodraeth yn gwneud "popeth fedrwn ni i gefnogi teuluoedd sy'n mynd i gael amser caled y gaeaf yma".

"Ond rydyn ni angen gweld mesurau ehangach ac mae llawer o'r rheiny yn San Steffan," meddai.

Galwodd Ms Williams ar Lywodraeth y DU i ddod â system o brisiau ynni rhatach i aelwydydd incwm isel - sy'n cael ei adnabod fel tariff cymdeithasol.

"Mae tariff cymdeithasol ar ynni yn un o'r prif bethau dwi'n meddwl allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl," meddai.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi torri TAW ar filiau ynni o fis Hydref, ar ben torri £150 o filiau yn gynharach eleni, a byddan nhw'n "parhau i edrych ar beth allwn ni wneud i amddiffyn teuluoedd rhag biliau anfforddiadwy".

Dywedodd Reform UK Cymru y "dylid croesawu pob cymorth at bwysau costau byw, os caiff ei ddarparu yn y ffordd gywir".

Ond ychwanegon nhw y "gallai Plaid Cymru wneud mwy i'r rheiny mewn angen os na fydden nhw'n gwastraffu arian" ar gynlluniau fel "plannu coed yn Uganda".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.