Llio Angharad: Pam fod tafarndai yn bwysig

- Cyhoeddwyd
"Y peth sy' mwyaf trist ydy, 'dan ni ddim yn colli llefydd jest i fynd am beint. 'Dan ni'n colli llefydd i gwrdd, i siarad, i gyfathrebu. A hwnna sy'n hynod o drist achos does 'na ddim llawer o lefydd allwn ni neud hwnna."
Gyda tua 14 o dafarndai yn cau bob wythnos yn y Deyrnas Unedig, mae'r blogiwr bwyd Llio Angharad o Ynys Môn wedi troi ei sylw at ymweld â thafarndai yng Nghymru.
Bu'n rhannu pam fod tafarndai mor bwysig i gymunedau a sut maen nhw wedi ei helpu i ddygymod gyda unigrwydd mewn oes digidol:
Mae tafarn yn rhywle lle dwi'n teimlo fatha bod fi'n perthyn.
Does dim angen cael noson fawr na gwario lot. Alli di fynd am beint, alli di fynd am goffi, cael bwyd, cwrdd â rhywun, mynd ar ben dy hun, mynd â'r ci. Jest rhywle saff i deimlo fatha bod chdi'n rhan o rwbath.
Dwi'n meddwl bod tafarn mewn cymuned yn andros o bwysig. Os wyt ti'n symud mewn i gymuned, mae'n ffordd dda i gymysgu, i gyfathrebu, i ddod i 'nabod pobl ac i deimlo fel bod chdi'n perthyn i'r gymuned.
Dyma'r unig le lle mae pobl o bob oedran yn cwrdd.
Unigrwydd
Mae hefyd yn bwysig os ti jest isio mynd i rywle i gael llonydd neu os ti isio cwrdd â rhywun newydd, yn enwedig os ti'n symud mewn i gymuned.
Mae'n gallu bod yn eitha' unig os ti ddim yn 'nabod neb. A dw i'n teimlo fatha mae hwn yn rwbath dw i'n deimlo fel rhywun sy'n 39 oed, hefo dim plant. Mae'n anodd iawn i neud ffrindiau a dod i 'nabod pobl.
Mae'r byd wedi newid hefyd, so dw i'n teimlo fel ti'n methu mynd at rywun a deud, 'ga i number chdi, awn ni am goffi'. Dyw o ddim yn rwbath sy'n dod yn naturiol.
O'n i'n edrych ar stats ONS [Office for National Statistics] yn ddiweddar ar unigrwydd a'r nifer uchaf o bobl sy'n teimlo yn unig o fewn y Deyrnas Unedig ydy'r oedran rhwng 30 a 49, gyda 28 y cant.
Dw i yn y grŵp yna, gan mod i'n 39 oed. A mae 'mywyd i mor brysur a dw i'n neud stwff o hyd ond wedyn mae'r ochr cymdeithasol yn eitha' unig.
So dw i'n gweld y dafarn fel rhywle lle dw i'n gallu mynd i jest gwrando ar bobl a chael sgwrs. Os oes rhywun efo ci, dw i'n mynd atyn nhw i gael chat.
Ac mae o jest yn codi ysbryd rhywun.

Mae Llio a'i phartner Nicky yn ymweld gyda nifer o dafarndai yng Nghymru
Tom Jones a Stereophonics
Fel blogiwr bwyd dwi'n mynd o gwmpas ac yn edrych ar lefydd bwyd a llefydd i aros yng Nghymru a dw i'n teimlo fatha bod ni ddim rili'n rhoi digon o sylw i dafarndai a 'dan ni'n colli nhw wrth iddynt gau.
Ac maen nhw mor bwysig i'n cymunedau ni ac i ni fel pobol, yn enwedig yn y byd digidol o fod ar-lein drwy'r adeg.
Mae na reswm arall pam bod ni wedi cychwyn edrych mewn i dafarndai.
Roedd nain a taid fy mhartner i, Nicky, yn rhedeg tafarn y Thorn yn Abercynon ac oedd o'n gweld y pwysigrwydd a'r gwahaniaeth oedd tafarn yn gwneud o fewn cymdeithas.
Roedd y tafarn oedd ei nain a'i daid o'n rhedeg yn lle oedd Tom Jones yn ymarfer cyn iddo hitio'r big time. Ac oedd y Stereophonics yn dod i'r dafarn yna hefyd.
Doedd o ddim jest yn lle oedden nhw'n mynd i gael cwis, parti a chynhebrwng.
Oedd o hefyd yn le oedd lot o bobl yn dod i gael sgyrsiau dwys a sgyrsiau anodd. A weithiau oedd y pobl oedd yn gweithio tu ôl i'r bar yn teimlo fatha bod nhw'n therapydd hefyd, ddim jest yn tynnu peints.
Hanes
Un o'r pethau dw i wedi mwynhau mwya' ydy dod i 'nabod hanes y tafarndai yma.
'Naethon ni fynd i un yng Nghasnewydd lle oedd 'na arfer bod jail o dan y dafarn. Ac os oeddech chdi yn camfihafio, oeddan nhw jest yn mynd â chdi lawr grisie a rhoi chdi yn y jail. A mae 'na jyst gymaint o storis gwahanol.
Mae tafarndai yn cau yn hynod o drist, ond dw i hefyd yn gweld pam. Achos ti'n gallu mynd i'r siop gornel a phrynu pedwar can o gwrw am bum punt. Ond wedyn ti dal yn mynd adra a ti'n teimlo'n unig.
Mae lot o dafarndai rŵan yn esblygu i fod yn siop gymunedol, i gael gweithdai gwahanol yn digwydd yna, yn dod yn fwy o neuadd bentre, yn ogystal â thafarn.
Ond mae o'n drist achos mae 'na gymaint o hanes i'r tafarndai yma a mae 'na gymaint ohonyn nhw'n cau.
Beth sy'n gwneud tafarn dda (yn ôl Llio Angharad)?
Mae gen i restr o bethau rydan ni'n edrych am:
y bobl a'r awyrgylch.
dewis o gwrw a bod y dafarn yn gweithio efo cwrw lleol fel ein bod ni'n cael blas o'r ardal.
snacks felly dy scampi fries a dy gnau. A dw i'n mynd yn hynod o excited os dw i'n gweld ŵy 'di piclo mewn jar achos prin anaml ti'n gweld nhw.
croeso i gŵn. Mae lot o bobl yn cerdded a stopio am beint, so mae hwnna'n rili bwysig.
ansawdd y bwyd ac a ydy y bwyd yn dathlu'r ardal hefyd.
hanes a chymeriad y dafarn.
Mae tafarndai'n hynod o bwysig ac efallai esblygu sydd angen er mwyn cadw nhw'n fyw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2024

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
