'Diwrnod hanesyddol' wrth i gyffur canser gael ei gymeradwyo - Mari Grug

Mari Grug
GanGwyn Loader
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd teledu ac ymgyrchydd canser Mari Grug wedi dweud ei fod yn "ddiwrnod hanesyddol" ar ôl i gyffur canser gael ei gymeradwyo i gleifion newydd.

Dwy flynedd yn ôl, cafodd cyffur Enhertu - ar gyfer cleifion a math Her2-isel o ganser y fron nad oes modd ei wella - ei wrthod gan y corff sy'n cymeradwyo cyffuriau i'r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd NICE nad oedd yn cynnig gwerth am arian.

Ond ddydd Iau, cafodd tro pedol ei gyhoeddi fydd yn rhoi mynediad at y cyffur i gleifion yn Lloegr. Bydd Cymru yn dilyn o fewn deufis.

Dyw Enhertu ddim yn gwella cleifion, ond mae'n gallu ymestyn bywyd am sawl blwyddyn.

'Dangos gwerth codi llais'

Fel un sy'n byw gyda chanser Her2-positif nad oes modd ei wella, mae Mari Grug eisoes wedi bod yn derbyn Enhertu.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd bod y cyffur "yn galluogi fi i fyw bywyd llawn".

Mae'n derbyn y cyffur bob tair wythnos, gan ei galluogi i "fod yn wraig, yn fam, yn gyflwynydd teledu".

Yn ddiolchgar am gael derbyn y cyffur ei hun drwy'r Gwasanaeth Iechyd, mae'n croesawu y bydd eraill hefyd yn gallu manteisio.

"Yn anffodus, ni yn gwybod mai diwedd y gân yw'r geiniog. Ond mae'n dangos gwerth codi llais.

"Mae 'na ddwy flynedd wedi bod o ymgyrchu gyda miloedd o bobl. Mae 'na werth codi llais, cadw herio. Dwi'n meddwl bod e'n newyddion arbennig heddiw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r newyddion bod NICE wedi dod i gytundeb gyda'r gweithgynhyrchwyr i sicrhau bod Enhertu ar gael.

"Unwaith y bydd y gweithgynhyrchydd yn cadarnhau bod telerau'r cytundeb yn berthnasol i GIG Cymru fel y disgwyliwn, dylai pob bwrdd iechyd sicrhau bod Enhertu ar gael i'r rhai sy'n gymwys i'w gael."

Yr amcangyfrif yw y bydd tua 1,000 o bobl bob blwyddyn yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad.

Wrth ddisgrifio'r diwrnod fel un "hanesyddol", dywedodd Mari bod "31 o fenywod yn marw gyda chanser y fron metastatig bob dydd ym Mhrydain, felly mae unrhyw beth sydd yn gallu cael ei gymryd i helpu ac ymestyn bywyd yn beth i'w ddathlu".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.