'Fy nhaith yn dod dros dorcalon ac ysgrifennu nofel'

Rhiannon Lloyd Williams ar ôl ysgrifennu pennod o XOXO
- Cyhoeddwyd
Mae profiad personol o dorcalon wedi ysbrydoli'r awdures Rhiannon Lloyd Williams i ysgrifennu ei nofel gyntaf i oedolion.
Eglurodd yr awdures, sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol: "Addewais i fy hun y byddwn yn ysgrifennu nofel Gymraeg y byddwn i wedi gwerthfawrogi ei darllen ar ôl tor-perthynas – llyfr digon pytiog fyddai'n dilysu'r teimladau.
"Un fyddai'n atgoffa pwy bynnag oedd angen clywed hynny bod 'na olau ar ddiwedd twnnel torcalon ac anturiaethau i'w cael."
Ag XOXO ar fin cyrraedd y siopau, mae'n dweud mai nid nofel am dorcalon yn unig mohoni, ond "stori am chwaeroliaeth, am y ffrindiau a'r teulu sy'n gefn, ac am ddod i nabod dy hunan yn iawn yn dy ugeiniau".
Yma mae Rhiannon yn rhoi cipolwg i ni ar ei thaith bersonol a wnaeth ei hysbrydoli wrth ysgrifennu.

Torcalon
Daw gwir ysbrydoliaeth XOXO o brofiad personol o dorcalon. Mewn ymgais i drio deall fy nheimladau, ac i drio teimlo'n llai unig, fe wnes i droi at lyfrau am dorcalon a'r broses o ddod dros rywun.
Cefais drafferth i ddod o hyd i lyfrau Cymraeg ysgafn a oedd yn trafod gorfod dechrau eto a dod i nabod dy hun yn iawn ar ôl tor-perthynas. Doedd gen i ddim y capasiti i ddarllen unrhyw beth dwys ar y pryd, felly 'nes i droi at nofelau Saesneg.
Yn y llun yma, dwi ar fy ngwyliau - fy solo trip cyntaf - yn Lisbon, rhyw fis a bach ar ôl gorffen gyda fy nghyn-gariad.

Er roeddwn i yno ar ben fy hun roedd nofel Dolly Alderton, Ghosts, yn gwmni i fi pobman es i - gan wneud y profiad o fwyta mewn bwytai ar ben fy hun yn llawer llai unig (a rhywsut, llai awkward?!).
Hon oedd machlud olaf y penwythnos hir o wyliau, a'r diwrnod cyntaf i fi beidio poeni, crio, damio neu sgrechian am y ffaith bod fy nyfodol wedi newid yn llwyr.
Hefyd, dyma oedd y diwrnod 'nes i addo i fy hun y byddwn i'n sgwennu nofel Gymraeg y buasai'r fersiwn yma ohonof wedi gwerthfawrogi ei darllen - llyfr digon pytiog a fyddai'n dilysu'r teimladau cymhleth hynny, gan gynnig cysur i'r darllenydd ar yr un pryd.
Teithio
Ddes i ar draws y sticer yma sy'n dweud, "What you bring in your backpack when you travel is the weight of your fears," ar gefn drws tŷ bach mewn caffi ym Madrid.
Dyma oedd un o fy stopovers niferus yn ystod fy chwe mis o deithio'r byd ar ben fy hun - ar ôl cael blas ohono yn Lisbon.
Roeddwn i ar y ffordd i Gosta Rica i gwrdd â chriw newydd o bobl ar ôl bod yn hwylio o amgylch Croatia gyda chriw gwahanol o bobl, ac, am y tro cyntaf ers dros bythefnos, roeddwn i yng nghwmni fy hun unwaith eto.

Yn wahanol i'r llun cyntaf, erbyn hyn doeddwn i ddim angen geiriau rhywun arall i gadw cwmni i fi - roeddwn i, o'r diwedd, yn fodlon yng nghwmni fy hun.
Yn lle, roeddwn i wedi hen ddechrau rhoi fy ngeiriau i ar bapur.
Erbyn y llun yma, roedd XOXO wedi'i ffurfio, roedd yr ofn o deimlo'n unig wedi diflannu, a doeddwn i heb boeni am y dyfodol (er pa mor annelwig) ers misoedd.
Felly, mae'n rhaid roedd fy backpack yn drwm oherwydd y gor-bacio!
Tyfu
Yr hyn sy'n pontio'r torcalon a'r teithio, sef un o brif themâu'r nofel, yw chwaeroliaeth.
Er bod y nofel yn cychwyn gyda sws sy'n chwalu bywyd Loti (y prif gymeriad), nid nofel am dorcalon yn unig mohoni.

Mae'n stori am y ffrindiau a theulu sy'n barod i drwsio'r galon nethon nhw ddim hyd yn oed ei thorri.
Ynghanol y tyfu mae torcalon yn dy orfodi i'w wneud, mi oedd torf o ffrindiau a theulu yn fy nghynnal - rhywbeth dwi'n hynod o ddiolchgar amdano hyd heddiw.

O ganlyniad, roeddwn i'n benderfynol o ddefnyddio'r nofel fel ffordd i archwilio'r gwahanol fathau o gariad sydd o'n cwmpas, a'r ffordd y gall ffrindiau (hen a newydd) a theulu ein cario ni drwy gyfnodau anodd.

Yn anffodus, does gen i ddim yr un llun o bawb gyda'i gilydd, felly dyma rai o'r teulu a ffrindiau sydd wrth wraidd ysbrydoliaeth y nofel - y bobl a wnaeth wneud i mi sylweddoli mai un o'r pethau pwysicaf y gallwn i roi i Loti oedd pobl a fyddai yno iddi, beth bynnag fyddai'n digwydd.

Ydy, mae XOXO yn stori am dorcalon, teithio a thyfu, ond yn bennaf oll, mae'n stori am y bobl sy'n ein helpu ni i ddarganfod pwy ydyn ni pan mae bywyd yn ein gorfodi i ddechrau eto.

Bydd XOXO yn cael ei lansio'n swyddogol ar y 1 Hydref yn Llofft, y Felinheli am 19:00.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Medi 2025

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

