Jenner yn debygol o fod yn arweinydd newydd Reform yng Nghymru - ffynonellau

Helen JennerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Helen Jenner ydy llefarydd Reform ar addysg a'r iaith Gymraeg ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Helen Jenner yw'r ffefryn i fod yn arweinydd newydd Reform yng Nghymru, mae'r BBC ar ddeall, gyda disgwyl i'r blaid gyhoeddi eu harweinydd dros y dyddiau nesaf.

Ymddiswyddodd Dan Thomas ddydd Mawrth fel arweinydd ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall.

Mae ffynhonnell wedi dweud wrth BBC Cymru mai Helen Jenner, AS Bangor Conwy Môn, yw'r ffefryn ar gyfer y swydd, a bod "uwch swyddogion" yn Reform wedi rhoi eu cefnogaeth iddi.

Byddai dyrchafiad Jenner yn golygu bod pob arweinydd grŵp yn y Senedd yn dod o ogledd Cymru am y tro cyntaf yn hanes datganoli.

Yn y cyfamser, mae prif chwip y blaid, Llŷr Powell, wedi cadarnhau i'r BBC na fydd yn sefyll ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Roedd aelodau blaenllaw eraill o'r blaid - Cai Parry-Jones, Jason O'Connell a James Evans - eisoes wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n ceisio olynu Dan Thomas.

Mae enwebiadau yn cau ddydd Iau.

Pe byddai mwy nag un ymgeisydd, byddai pleidlais gudd gan Aelodau o'r Senedd Reform – ond dim pleidlais gan aelodau llawr gwlad.

Jenner yw'r arweinydd dros dro, gan mai hi yw dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru.

Yn sesiwn holi'r prif weinidog ddydd Mawrth, hi gymerodd lle Dan Thomas wrth holi Rhun ap Iorwerth.

Fis diwethaf dywedodd ei bod wedi wynebu beirniadaeth am fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol oherwydd ei bod yn aelod o Reform.

Pwy yw Helen Jenner?

Cafodd ei geni yng Nghastell-nedd a'i magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ym Malltraeth, Ynys Môn.

Dysgodd Gymraeg yn ysgolion cynradd Bodorgan a Llanfairpwll.

Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.

Pan oedd hi'n ifanc, roedd yn gantores mewn band o'r enw The Mephs – talfyriad o Mephistophelean Engines of Pleasure.

Bu'n gweithio yn y Brit School, sy'n arbenigo mewn celfyddydau a pherfformio, yn Croydon.

Yn Llundain y gwnaeth hi gyfarfod ei gŵr, Emmett Jenner, a fu'n ymgeisydd Reform yn Ynys Môn yn etholiad cyffredinol 2024.

Mae'r ddau wedi magu eu plant ar Ynys Môn.

Treuliodd hi flynyddoedd fel athrawes Saesneg yn Ysgol David Hughes yn Llanfairpwll.

Safodd dros y Brexit Party yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019, ac roedd yn aelod o UKIP yn flaenorol, pan oedd y blaid yn cael ei harwain gan Nigel Farage, arweinydd presennol Reform UK.

Yn ôl cofrestr buddiannau'r Senedd mae'n treulio hyd at 5 awr yr wythnos yn diwtor Saesneg i fyfyrwyr tramor ar-lein. Dywedodd bod y "rôl yn fy helpu i gadw fy ngwybodaeth am y proffesiwn addysgu a phrofiadau pobl ifanc yn gyfredol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.