'Teimlo'n grac' ac 'yn dwp': Sgamwyr AI yn targedu gwyliau bwyd i dwyllo busnesau

Mae Rachel yn gweithio llawn amser yn ogystal â chynnal ei busnes creu mêl
- Cyhoeddwyd
Mae degau o fusnesau bychain ledled Cymru sy'n arfer mynychu gwyliau bwyd wedi eu heffeithio gan sgamwyr sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI).
Fe wnaeth y busnesau dderbyn e-byst sy'n edrych yn broffesiynol i gynnig stondin iddyn nhw mewn gŵyl fwyd, gyda'r nod o ddwyn cannoedd o bunnoedd.
Mae gwyliau bwyd ar draws y DU wedi cael eu heffeithio gan sgamwyr ac yn eu plith mae gwyliau yn Sain Ffagan, Yr Wyddgrug, Arberth ac Y Fenni.
Yn ôl un cwmni o Sir Benfro a gollodd arian, dywedodd bod ei "chalon wedi suddo" pan sylweddolodd yr hyn ddigwyddodd. Mae'n galw ar fusnesau bychain i fod yn fwy gwyliadwrus wrth dderbyn ac ymateb i e-byst.
Dywed ymchwilwyr na fyddai'r math yma o sgam wedi bod yn bosibl bum mlynedd yn ôl, gyda theorïau bod y sgamwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddod o hyd i dargedau a chyfathrebu â nhw.

Bu bron i Rachel golli dros £200 wrth gredu'r e-bost
Un oedd ar fin colli cannoedd o bunnoedd oedd Rachel Reith o Sir Gâr, sy'n berchen ar gwmni creu mêl.
Fe dderbyniodd neges e-bost yn ei gwahodd i gael lle yng ngŵyl fwyd Arberth, a bu bron iddi golli dros £200.
"Ces i wahoddiad, o'n i'n gwybod bod e'n dda i fynd fan 'na, so nes i'r application.
"O'n i wedi cael e-bost i ddweud bo' fi wedi bod yn llwyddiannus a mynd trwy e i dalu, ond oedd e wedi dweud wedyn mai private account oedd e.
'Ti'n meddwl bo' ti'n fwy savvy na hwnna'
"So o'n i ddim yn mynd i dalu am rywbeth mawr fel 'na oedd yn £220 i private account a dim un busnes."
Dywedodd iddi edrych ar y wê a gweld bod sgam yn digwydd.
Ar ôl sylwi iddi bron â cholli £200 ar y sgam, dywedodd ei bod yn "teimlo'n grac, a tamed bach yn dwp achos ti'n meddwl bo' ti'n fwy savvy na hwnna."
Ychwanegodd nad oedd yr e-bost yn edrych yn wahanol, "ond o feddwl 'nôl nawr oedd y logos ddim arno, ond os chi eisiau 'neud e [cael lle yn yr ŵyl] a chi'n eager i neud e, chi'n mynd i edrych y tu hwnt i hynny."
Mae BBC Cymru wedi gweld cyfres o e-byst sydd wedi eu gyrru at y busnesau bychain yn eu gwahodd i'r gwyliau bwyd.

Cafodd Harriet Thomas ei thwyllo a chollodd gannoedd o bunnau
Yn wahanol i Rachel o Sir Gâr, fe wnaeth Harriet Thomas fynd gam ymhellach, a arweiniodd at golli cannoedd o bunnau.
Gyda Harriet wedi bod yn mynychu gŵyl fwyd Y Fenni ers blynyddoedd, dywedodd ei bod yn teimlo "embaras" o fod wedi cael ei thwyllo.
"Ges i'r e-bost [ffug] a ro'n i mor gyffrous," meddai.
"Ro'n i'n awyddus i sicrhau fy lle, felly 'nes i wirio'r cyfeiriad e-bost ac roedd yn edrych yn hollol ddilys.
"Roedd yna daflen Jotform, rhywbeth ni gyd yn defnyddio o hyd. Llenwi'r ffurflen ac roedd popeth, y brandio, fonts, popeth yn ddilys, a dim byd yn edrych allan o le.
"Nes i lenwi'r ffurflen, a gyrru ambell e-bost yn ôl ac ymlaen."
'Gwnaeth fy nghalon suddo'
Dywedodd ei bod wedi rhannu'r newyddion da o gael lle yn yr ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol, ond yn fuan wedyn fe ddaeth ar draws neges ar dudalen Facebook yr ŵyl yn rhybuddio pobl am y sgam.
"Fe wnaeth fy nghalon i suddo.
"'Nes i ddarllen y neges, a gweld beth ddigwyddodd a gweld bod y cyfeiriad e-bost nes i e-bostio yn cynnwys 'gmail' a bod hwnna yn ffactor enfawr [i'r sgam]."
Wedi'r profiad, dywedodd: "Bydda i'n sicr yn fwy gofalus nawr."
Fe wnaeth Gŵyl Fwyd y Fenni roi gwybod i wasanaeth Report Fraud am yr e-byst twyllodrus i, ond cafodd y grŵp rybudd ei bod hi'n annhebygol y bydd canlyniad, oherwydd y niferoedd enfawr sy'n ymwneud â'r mater.

Dywedodd Bethany Williams-Potter bod y datblygiad yn "bryder"
Gyda gwyliau bwyd ar draws y DU megis Sain Ffagan, Yr Wyddgrug, Arberth, Y Fenni, Efrog a Llwydlo wedi eu heffeithio gan y sgamwyr, mae'n broblem sy'n cynyddu, fel esbonia Bethany Williams-Potter, sydd wedi gwneud ymchwil o fewn y maes.
"Mae'r sgamwyr 'ma yn gallu targedu busnesau bach, unrhyw berson â bod yn onest gan ddefnyddio AI i gribo'r rhyngrwyd am unrhyw fanylion all dwyllo rhywun i feddwl bod yr e-bost yn un go iawn."
Ychwanegodd fod technoleg wedi datblygu cymaint yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf fel ei bod yn "anodd iawn gwybod os taw AI neu dwyllwr yw e neu e-bost go iawn".
"Y ffaith bod 'na gymaint o ddatblygiad wedi bod mewn AI mewn amser mor fach, mae e yn bryder."
Ei chyngor hi felly yw i bobl "edrych ar y cyfeiriad e-bost.. mae rhai sy'n dod o rywbeth personol fel gmail yn arwydd eithaf clir bod rhywbeth ddim cweit yn iawn.
"Hefyd os oes 'na lincs o fewn yr e-bost, ac maen nhw'n gofyn i chi glicio ar y lincs, peidiwch gwneud hynny," ac i ddefnyddio 2 step authenticator os yn gyrru arian.

Mae Alaw wedi bod ynghlwm â gweithgarwch Gŵyl fwyd yr Wyddgrug ers tair blynedd
Mae trefnu gŵyl fwyd yn dipyn o waith i ddechrau ond roedd yn rhaid i'r timau eleni fod yn ymwybodol o'r sgam yma hefyd.
Dywedodd Alaw o Ŵyl Fwyd Yr Wyddgrug: "'Da ni ddim wedi cael y profiad yma o'r blaen, methu credu bod rhywun yn gallu bod mor gas i wneud hynny, mae'n dipyn o sioc, hyd yn oed gŵyl fwyd yn cael ei sgamio."
Dywedodd iddi dderbyn dwy neges gan gwmnïau oedd wedi derbyn e-byst yn eu gwahodd i'r ŵyl, ond e-byst gan sgamwyr oedd y rhain.
"Beth os mae pum person arall yn mynd i droi rownd ar y diwrnod, 'da ni'm yn mynd i allu ffitio nhw fewn.
"Dydy neb isho bod y person 'na sy'n dweud dy' nhw'm yn gallu dod."
'Mae o'n greulon'
Dywedodd fod y sgamwyr wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud poster ffug a'i bostio mewn grŵp Facebook lleol.
"Oedda' ni'n gweld bo' nhw'n targedu busnesau lleol a dwi'm yn meddwl oeddan nhw even yn dilyn ni.
"'Da ni ddim yn mynd i wybod beth fydd yr effaith nes y penwythnos dwi'm yn meddwl.
"Mae'n greulon rili, mae rhywun yn cymryd mantais ar y busnesau yma, a 'da ni efo lot o fusnesau bach lleol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst

- Cyhoeddwyd15 Awst

- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2024
