Sut mae'r BBC yn adrodd ar yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae etholiadau yn cael eu cynnal ar gyfer seneddau Cymru a'r Alban, a rhai cynghorau lleol a meiri yn Lloegr, ddydd Iau 7 Mai, gyda'r blychau pleidleisio yn cau am 22:00.
Pa etholiadau mae'r BBC yn adrodd arno?
Mae gwasanaeth canlyniadau'r BBC yn adrodd ar etholiadau ar gyfer seneddau Cymru a'r Alban, ac etholiadau cyngor a meiri yn Lloegr.
Mae'n bosib bod etholiadau cymuned, plwyf neu gyngor tref, isetholiadau cyngor neu refferenda lleol yn eich ardal chi. Dyw canlyniadau'r etholiadau hynny ddim yn cael eu hadrodd gan y BBC. Gallwch ganfod gwybodaeth amdanyn nhw ar wefan eich cyngor lleol, ynghyd â chanlyniadau mwy manwl ar lefel wardiau.
Mae'r BBC yn casglu canlyniadau llawn yr etholiadau yn uniongyrchol o'r canolfannau cyfrif yng Nghymru a'r Alban.
Cymru
Mae system bleidleisio a ffiniau newydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer yr etholiad yma i Senedd Cymru.
Mae 16 etholaeth newydd wedi cymryd lle'r hen system oedd yn cynnwys cymysgedd o etholaethau a rhanbarthau. Mae etholwyr yn dewis plaid neu ymgeisydd annibynnol, ac mae chwe aelod yn cael eu hethol i gynrychioli pob etholaeth. Mae hyn yn golygu y bydd 96 Aelod o'r Senedd - o'i gymharu â 60 yn 2021.
Sut mae'r system bleidleisio yn gweithio?
Mae Senedd Cymru yn defnyddio system o'r enw cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig, sy'n defnyddio dull D'Hondt i droi pleidleisiau'n seddi.
Ym mhob etholaeth, mae etholwyr yn dewis un blaid neu un ymgeisydd annibynnol. Mae pob plaid yn llunio rhestr o ymgeiswyr maen nhw eisiau eu gweld yn cael eu hethol, ac yn eu rhoi mewn trefn, gyda'r rhai sy'n cael eu blaenoriaethu ar y brig.
Yn y rownd gyntaf o gyfrif, mae'r blaid gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn ennill sedd ar gyfer yr ymgeisydd sydd ar frig eu rhestr
Yn yr ail rownd mae pleidlais y blaid sydd ar y brig yn cael ei haneru, ac mae'r blaid sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau wedi'r aildrefnu hynny yn ennill sedd ar gyfer un o'u hymgeiswyr
Mae'r broses yn ailadrodd, gyda phleidlais wreiddiol y blaid sy'n ennill pob sedd yn cael ei rhannu gydag un, a'r nifer o ASau maen nhw wedi sicrhau hyd yma yn yr etholaeth, nes bod y chwe sedd wedi cael eu llenwi.
Pryd mae disgwyl y canlyniadau?
Bydd pleidleisiau'n cael eu cyfrif yng Nghymru yn ystod y dydd, ddydd Gwener 8 Mai, ac mae disgwyl y canlyniadau yn ystod y prynhawn.
Sut fyddwn ni'n gwybod pwy sydd wedi ennill?
Er mwyn ennill yr etholiad yn llwyr byddai angen i un blaid ennill digon o seddi yn y Senedd i ffurfio llywodraeth gyda'u haelodau eu hunain yn unig. I wneud hynny, byddai angen i un blaid ennill mwy o seddi na phob plaid arall gyda'i gilydd. Ond am fod y system bleidleisio yn un o gynrychiolaeth gyfrannol, mae hyn yn anodd. Mae 96 sedd yn y Senedd, ac mae'n bosib y bydd y blaid fwyaf yn ennill llai na'r 49 o seddi sydd eu hangen ar gyfer mwyafrif.
Beth os na fydd unrhywun yn ennill mwyafrif?
Mewn achos ble does yr un blaid wedi ennill digon o seddi i ffurfio mwyafrif, mae gan y blaid fwyaf opsiynau. Gall ffurfio llywodraeth trwy gael cytundeb gyda phlaid lai er mwyn creu clymblaid er mwyn ffurfio mwyafrif.
Gallai hefyd geisio dod i gytundebau gyda phleidiau llai er mwyn cefnogi'r blaid fwyaf yn y Senedd, pe bai pleidlais o hyder yn cael ei galw gyda'r nod o ddisodli'r llywodraeth.
Posibilrwydd arall yw y gallai'r blaid fwyaf ffurfio llywodraeth leiafrifol, a cheisio sicrhau cefnogaeth pleidiau eraill ar bob mesur penodol maen nhw eisiau pasio.
Mae hi hefyd yn bosib i'r pleidiau llai ffurfio clymblaid os oes ganddyn nhw ddigon o aelodau am fwyafrif yn y Senedd, fyddai'n golygu mai'r blaid fwyaf fyddai'r wrthblaid.
Mewn sefyllfa ble does yr un blaid yn barod i wneud yr un o'r rhain uchod, fe allai arwain at etholiad o'r newydd.
Sut mae'r newid yng nghyfran y bleidlais yn cael ei benderfynu?
Mae'r newid yng nghyfran y bleidlais ar gyfer pob plaid yn cael ei gyfrifo trwy gymharu'r canlyniad yn yr etholiad yma gyda'r canlyniad yn yr etholiad diwethaf. Yn achos Cymru, roedd ffiniau gwahanol yn yr etholiad diwethaf, a system etholiadol wahanol.
Mewn achosion fel hyn, mae'r BBC yn defnyddio "amcangyfrif o'r canlyniadau" er mwyn cyfrifo beth fyddai'r canlyniad wedi bod y tro diwethaf pe bai'r ffiniau a'r system bresennol mewn lle bryd hynny. Mae mwy o wybodaeth am sut mae'r BBC yn gwneud hyn yn yr adran 'Sut mae amcangyfrif o'r canlyniadau yn cael eu penderfynu?'.
Sut mae amcangyfrif o'r canlyniadau yn cael eu penderfynu?
Pan fo ffiniau a systemau etholiadol yn newid, mae'n bwysig cael syniad o sawl pleidlais y byddai pob plaid wedi'i derbyn pe bai'r ffiniau newydd mewn grym ar adeg yr etholiad diwethaf.
Fel hyn, mae modd cyfrifo'r newid yng nghyfran y bleidlais ar gyfer pob plaid yn fwy dibynadwy.
Nid yw'n berffaith - pan fo ffiniau yn newid, a rhywle yn symud o un etholaeth i etholaeth arall, does dim record swyddogol o sut y pleidleisiodd etholwyr yn y lle penodol hwnnw. Dyma ble mae profiad ac arbenigedd dadansoddwyr yn chwarae rhan.
I benderfynu ar amcangyfrif y canlyniadau, mae dadansoddwyr yn defnyddio mapiau'r hen ffiniau a'r rhai newydd, a sut y gwnaeth pobl bleidleisio yn yr etholiad diwethaf. Maen nhw'n edrych ar yr ardal ac yn defnyddio gwybodaeth leol a'u barn broffesiynol i benderfynu, fwy na thebyg, sut y byddai pobl wedi pleidleisio.
Gan ddefnyddio'r wybodaeth yma, maen nhw'n ailgyfrifo canlyniadau'r etholiad diwethaf i gael amcangyfrif o gyfran y bleidlais ar gyfer pob plaid pe bai'r ffiniau newydd mewn grym.
Y ffigwr yma mae'r BBC yn ei ddefnyddio i gyfrifo'r newid yn yr ardaloedd yma.
Dyw hyn ond ar gyfer y pleidiau mwyaf yn yr etholiad diwethaf: Llafur, Ceidwadwyr, Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol, Abolish the Welsh Assembly, y Blaid Werdd, Reform UK, UKIP a rhai annibynnol. Ni fydd cyfran y newid ar gael ar lefel etholaeth ar gyfer unrhyw blaid neu grŵp arall a oedd yn ymgeiswyr yn 2021.
Sut mae trefn y baneri a'r sgorfwrdd yn cael ei benderfynu?
Mae baneri yn ymddangos ar frig prif dudalen gwefan BBC News, neu dudalennau gwleidyddol, llifau byw a straeon sy'n ymwneud â'r etholiad.
Mae'r sgorfwrdd yn ymddangos mewn llifau byw a straeon yn ymwneud â'r etholiad, ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Maen nhw yn nhrefn nifer y seddi mae plaid wedi ennill. Bydd hyn yn newid yn ystod y cyfrif wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.
Pan fo dwy blaid wedi ennill yr un nifer o seddi, mae'r drefn yn cael ei phenderfynu ar sail nifer y pleidleisiau i bob plaid.