Lowri Morgan: 'Y gwersi dwi wedi dysgu drwy redeg'

Lowri yn rasio yn Ras y Ddraig
- Cyhoeddwyd
"Dwi nawr yn 52 oed a dwi'n teimlo'n gryf 'mod i ishe profi i fy hun mod i'n gallu cystadlu ochr yn ochr â menywod proffesiynol sy' hanner fy oedran i."
Un o'n rhedwyr Ultra mwyaf llwyddiannus yng Nghymru yw'r athletwraig Lowri Morgan, sy' wrth ei bodd fod mwy o fenywod Cymreig yn cymryd rhan mewn rasys dros bellter hir erbyn hyn.
Bu Lowri'n rhannu ei hangerdd am redeg gyda Cymru Fyw a'n sôn am fuddiannau'r gamp i fenywod o ran iechyd meddwl a chorfforol a pham fod menywod yn rhagori dros bellteroedd hir.
Mae Lowri, sy' newydd ddod yn gyntaf yn ras Ultra y Fro (yn y categori menywod), yn dweud mai mwynhau yw'r peth pwysig: "Does dim cyfrinach i redeg – mae fe jest yn lot o waith caled, lot o waith paratoi ond mae'n rhaid bod chi'n mwynhau beth chi'n neud.
"Os chi ddim yn mwynhau e byddwch chi ddim yn cyrraedd y llinell derfyn.
"Fel rhywun sy'n rasio dwi wedi gweld pobl yn dechrau rasys sy' jest ishe galw eu hunain yn redwyr Ultra. Dyw hynny ddim yn ddigon. Y ffordd dwi'n disgrifio rhedeg ras Ultra yw fod e'n rollercoaster o emosiynau.
"Ar un llaw gallwch chi feddwl mai dyma'r peth gorau a ry' chi yn un gyda'ch enaid. Wedyn 'newch chi fwrw wal anweledig a'r peth nesa' chi'n teimlo bob cam a chi'n cwestiynu pam chi'n neud e.
"Dyna pam mae'n rhaid i chi fod yn onest gyda'ch hun – maen rhaid i'ch reswm chi am redeg fod yn gryf."
Cymhelliant
I Lowri, sy' wedi cwblhau rai o rasys Ultra mwya' heriol y byd gan gynnwys ras y 6633 Ultra yn yr Arctig ac hefyd cyflwyno rhaglenni fel Ralïo+ a Ras yn erbyn Amser ar S4C, mae ei chymelliant hi i redeg yn newid dros amser: "Dwi'n aml yn gwneud e oherwydd yr elusen, y gefnogaeth dwi'n cael o'r teulu, yr aberth maen nhw'n gorfod neud er mwyn i fi fynd mas i hyfforddi fel edrych ar ôl fy mab Gwilym pan dwi mas ar y mynyddoedd am bump y bore.
"Dwi'n teimlo bod fi'n freintiedig iawn yn cael y cyfle i neud hynny.
"A dwi'n neud e dros Gwilym hefyd. Mae mor bwysig iddo fe sylwi fod pobl gyffredin yn gallu neud y pethe mwya' anghyffredin – y pobl mwya' cyffredin sy'n gallu neud y pethe rhyfedda', os ti'n gweithio'n galed.
"Dwi'n credu'n gryf mai un bywyd ni'n cael a dwi wedi cael y cyfle 'ma i fyw bywyd llawn antur a dwi ddim ishe methu ar y cyfle yna."

Lowri a'i mab Gwilym
Gwersi bywyd
Pan gychwynodd Lowri redeg eto ar ôl anaf ar ei phen-glin yn 18 oed mi ymunodd gyda chlwb rhedeg. Hi oedd yr unig fenyw yn y clwb – ond mae pethau wedi newid yn fawr yn y maes erbyn hyn, meddai: "Beth dwi'n gweld nawr a beth oedd ddim 'na pan o'n i'n rhedeg yn fy 20au yw mae 'da ti'r chwaeroliaeth ac mae grwpiau rhedeg sy' dim ond i fenywod.
"Allen i fynd ymlaen am yr hyn mae rhedeg wedi rhoi i fi tan fory, y gwersi dwi wedi dysgu drwy redeg sy' wedi helpu fi 'da bywyd fel cael amynedd, cymryd un cam ar ôl y llall.
"Mae'n rhoi hyder i fenywod hefyd."

Lowri yn rasio yn Ras y Ddraig
'Dygymod gyda phoen'
Gyda pheth tystiolaeth fod menywod yn perfformio'n well na dynion dros bellteroedd Ultra, mae Lowri'n angerddol am ddawn menywod yn y maes: "Beth fydden i'n dweud yw bod y canran o fenywod sy'n dechrau ac yn gorffen ras Ultra yn dueddol o fod yn uwch na'r cyfran o ddynion.
"Dwi'n credu bod menywod yn dueddol o feddwl ac ymchwilio yn ofalus cyn gwneud y math yma o ras – ydy nhw'n gallu gadael teulu, ydy nhw'n gallu aberthu digon o amser i hyfforddi?
"Mae'r ffisioleg yn wahanol hefyd. Mae menywod yn gallu cymryd poen oherwydd ni'n cael misglwyf bob mis, ni'n gyfarwydd gyda phoen. Ni'n dueddol o ddygymod gyda phoen yn ystod y ras a delio gyda fe'n well."
Mae Lowri'n dueddol o godi am bump o'r gloch y bore i fynd i redeg. Erbyn hyn mae wedi rhedeg rasys ar draws y byd ond mae'n taeru taw Cymru yw'r lle gorau i redwyr: "Ar ddiwedd y dydd mae 'da ni feysydd chwarae gwyrdd ffantastig fan hyn.
"Mae rhedwyr profesiynol yn dweud 'you've got the best trails ever'. Ti'n gallu rhedeg ar yr arfordir a rhedeg yn y mynyddoedd o fewn cwpl o oriau. Ti ddim yn gallu profi hynna mewn lot o lefydd."

Cyngor i'r rhai sy' eisiau dechrau rhedeg
Ysgrifenwch restr o'r rhesymau pam chi eisiau dechrau rhedeg a rhoi'r rhestr mewn dyddiadur neu ar y ffrij. Bob tro chi'n danto cofiwch am y restr yna.
Ewch mas am ychydig funudau i ddechrau gan redeg, yna cerdded am gyfnod ond gan leihau yr amseroedd cerdded bob tro.
Anelwch am filltir, wedyn dwy filltir. Mae popeth yn raddol.
Mae'n bwysig cael gôl realistig. Cyrraedd y gôl yna, yna ymlaen at y gôl nesa.
Cofiwch – mae'n cymryd chwe wythnos i gorff gyfarwyddo gyda arfer newydd.
Mae ymuno gyda chlwb redeg neu Parkrun yn syniad da er mwyn cwrdd â phobl o'r un meddylfryd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2024

- Cyhoeddwyd17 Hydref 2016
