Dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Môn wedi'i enwi'n lleol

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5025 am 18:57 nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn wedi'i enwi yn lleol fel Sean Chamberlain.
Mae'r BBC ar ddeall fod Mr Chamberlain, 60, yn rheolwr ar fwyty a garej ceir yng Nghemaes.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod dyn wedi cael arestio ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad gyda char.
Mewn neges ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol y bwyty, dywedodd tad Mr Chamberlain: "Gyda thristwch mawr rwy'n cadarnhau colled drasig fy mab Sean, gŵr annwyl Debbie a thad ymroddedig Katy, Emma, Jack a Ceri."
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5025 yn Llanfachraeth am 18:57 nos Fawrth.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Jaguar I-Pace llwyd a beic modur Triumph gwyn.
Bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r beic modur yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.
Cafodd dyn ei arestio yn y fan a'r lle ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y cynghorydd Aled Morris Jones sy'n cynrychioli ward Twrcelyn fod y newyddion yn "drist a thrychinebus" a'i fod yn "meddwl am y teulu yn eu galar".
Ychwanegodd fod Mr Chamberlain "yn uchel iawn ei barch yn ardal Cemaes ac ardal Twrcelyn" a bod y gymuned yn meddwl am y teulu oll ar yr "adeg trist yma".
Dywedodd y Sarjant Alun Jones o'r Uned Plismona'r Ffyrdd fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â lluniau teledu cylch cyfyng, dashcam neu o gamera cloch drws, i gysylltu â nhw.