Kate Bush ar restr fer gŵyl ffilm yn Llanelli

Kate Bush yn 1983
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm fer gan y gantores Kate Bush wedi ei henwebu ar gyfer Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin eleni.
Mae Little Shrew (Snowflake) yn un o dros 800 o enwebiadau yn yr ŵyl sydd wedi tyfu ers cael ei sefydlu yn 2011, pan oedd dim ond 35 enwebiad.
Dywedodd cynhyrchydd creadigol yr ŵyl Stifyn Parry ei fod o'n ffan enfawr o Kate Bush, sy'n un o artistiaid mwyaf dylanwadol Lloegr ers iddi ryddhau ei halbwm gyntaf yn 1978.
"Yr unig berson dw i'n ffan ohono ydy hi," meddai. "Dw i 'di gweithio efo lot o fawrion fel Shirley Bassey a Catherine Zeta-Jones a phob mathau o bobl. Ond mae Kate Bush yn rhywbeth arall.

Kate Bush yn perfformio Wuthering Heights ar raglen Top of the Pops yn 1978, pan oedd hi'n 19 oed
"Mi ddylwn i fod yn cŵl fel y cynhyrchydd creadigol... ond alla' i jyst ddim coelio bod 'na ŵyl sydd 'di bod yn rhedeg am 15 mlynedd yng Nghymru, lle mae 'na hyd yn oed pobl falle yn Llanelli ddim yn gwybod bod o'n digwydd, ond mae Kate Bush wedi rhoi ffilm i mewn i gystadlu efo ffilmiau pobl eraill."
Mae Little Shrew (Snowflake), sydd wedi ei gyfarwyddo gan Kate Bush, yn ffilm wedi ei animeiddio o un o'i chaneuon oddi ar ei halbwm Fifty Words for Snow. Mae'r fideo, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, yn dweud stori llŷg sy'n ofnus wrth i fomiau rhyfel ddisgyn.
Y Baftas
Mae ffilmiau sy'n cael eu henwebu i'r ŵyl, fydd yn cael ei chynnal yn y Ffwrnes, Llanelli rhwng 18-21 Mai, yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer Bafta.
Meddai Stifyn Parri ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru: "Mae hwn yn anrhydedd mawr ac yn bluen yn het yr ŵyl, a 'dan ni'n gobeithio'r flwyddyn nesa fyddwn ni'n accredited i fod yn rhan o'r Oscars hefyd.
"Dw i wedi cynhyrfu'n llwyr am Kate Bush, ond mae 'na enwau mawr eraill. Mae Stephen Fry, er enghraifft, wedi rhoi ffilm i mewn.
"Mae 'na enwogion mawr fatha Ian Pulston Davies sy'n gyfarwyddwr, yn sgriptiwr ac yn actor - mae o 'di rhoi dwy ffilm i mewn ac mae un o'r films efo Matthew Horne, sef Gavin o Gavin and Stacey, a fy ffrind gorau i, Mark Lewis Jones ynddo fo. So mae 'na, mae 'na lot fawr o enwau."
Ond y cwestiwn mawr ydi, a fydd Kate Bush yn dod i'r ŵyl yn Llanelli?
Meddai Stifyn Parri: "Dw i'n poeni'n fawr, dwi'm yn gwybod os ydi hi'n mynd i droi fyny, achos dwi ddim yn gwybod os dwi ishe ei chyfarfod hi.
"Mae'n well gen i ddychmygu fy Kate Bush i am weddill fy mywyd i. Ond os ydi hi isio troi fyny, fydd yna groeso mawr iddi, wrth gwrs."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021

- Cyhoeddwyd14 Mawrth
