Oriel Penrhyn Gŵyr: 70 mlynedd o harddwch

Castell Pennard gyda Llathen Fair yn yr awyr. Adeiladwyd y castell yn wreiddiol o bren yn y 12fed ganrif, ond cafodd ei ailadeiladu o gerrig yn ystod y 13eg a'r 14eg ganrif cyn cael ei orchfygu gan y tywod yn fuan wedyn
- Cyhoeddwyd
Mae 2026 yn nodi carreg filltir arbennig iawn yn hanes tirwedd Cymru. 70 mlynedd yn ôl, gwnaeth Penrhyn Gŵyr hanes drwy ddod y lle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Ers y foment arwyddocaol honno ym 1956, mae'r ardal wedi cael ei gwarchod fel trysor cenedlaethol. Golygai hyn fod ei chlogwyni calchfaen, ei thraethau euraidd, a'i threftadaeth gyfoethog yn cael eu diogelu i genedlaethau'r dyfodol.
I ddathlu'r pen-blwydd arbennig yma, rydym wedi comisiynu cyfres o ddelweddau sy'n cyfleu hud a lledrith yr ardal. Mae'r 12 llun isod yn ffrwyth gwaith rhywun sydd wedi treulio dau ddegawd yn dod i adnabod pob cilfach ac ogof ar yr arfordir hwn.
Y ffotograffydd Dan Santillo
Cyn ymsefydlu yn ne Cymru, treuliodd Dan Santillo, dolen allanol chwarter canrif cyntaf ei fywyd yng Nghernyw, gan feithrin cariad dwfn at fynyddoedd Dartmoor a'r arfordir. Er iddo raddio mewn Chyfathrebu Lloeren a gweithio fel Peiriannydd Meddalwedd, daeth tro ar fyd yn 2003 yn ystod taith i Ganada. Yno, o dan yr awyr agored, sylweddolodd na allai dreulio ei fywyd mewn swyddfa o flaen sgrîn gyfrifiadurol.
Gadawodd ei yrfa ym myd technoleg yn 2005, ac ers hynny mae wedi bod yn ffotograffydd proffesiynol llawn amser, gan arbenigo mewn tirluniau ac astroffotograffiaeth.
Mae ei wybodaeth am hanes, daeareg a daearyddiaeth Gŵyr yn treiddio drwy ei waith, gan drawsnewid delwedd syml yn stori di-amser.

Y ffotograffydd Dan Santillo
Wrth ddisgrifio ei angerdd dros y Penrhyn, dywedodd Dan: "Mae Gŵyr yn ardal gymharol fach ond mae cymaint ynddi!
"Mae rheswm da pam mai hi oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Mae'r ardal gyfan mor amrywiol, o draethau tlws a chilfachau unig i glogwyni calchfaen garw, corsydd heli, ac ucheldiroedd sy'n gartref i siambrau claddu Neolithig."
Er ei fod wedi bod yn crwydro'r ardal ers 21 mlynedd, mae'r tir hwn yn dal i lwyddo i'w synnu: "Ar ôl 21 mlynedd o archwilio Penrhyn Gŵyr, dwi'n dal i ddarganfod mannau newydd - er enghraifft, yr wythnos hon ddes i o hyd i ogof fôr nad oeddwn yn gwybod dim amdani ym Mae Oxwich!"
Y lluniau

Pen Pyrod a Bae Rhosili. Daw'r enw Saesneg ar Pen Pyrod, 'Worm's Head', o air Llychlynaidd/Hen Saesneg 'Wurm'... sy'n golygu sarff neu ddraig

Bae Oxwich ar fachlud haul gyda thraeth Crawley a thwyni Nicholaston yn y blaen

Plancton ymoleuol yn goleuo dyfroedd Bae y Tri Chlogwyn a'r Llwybr Llaethog yn goleuo'r awyr

Ben bore ym Mae Pwlldu. Mae gan Pwlldu hanes cloddio calchfaen, ac mae modd gweld yr olion o hyd heddiw

Machlud haul ym Mae Mewslade. Mae Mewslade yn hynod boblogaidd ar gyfer syrffio

Mae machlud haul yn hyfryd ym Mae Rhosili drwy gydol y flwyddyn

Mae'n amhosib curo'r olygfa hon... machlud ym Mae Three Cliffs

Llewyrch yr Arth i'w weld uwchben cytiau Bae Langland

Machlud haul ym Mae Cas-wellt. Traeth arall sy'n wych ar gyfer syrffio a diwrnod allan gyda'r teulu

Bae Fall. Un o draethau llai cyfarwydd y Gŵyr sy'n gofyn am dipyn o sgrialu i gyrraedd ato. Dyma'r Llwybr Llaethog uwchben y bae

Llongddrylliad yr Helvetia a Phen Pyrod yn y pellter. Rhosili yw un o'r mannau gorau i weld y sêr ar Benrhyn Gŵyr. Llong o Norwy oedd yr Helvetia a ddrylliwyd ym 1887
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
