'Bydd enillion cynnar, ond y trawsnewid sy'n bwysig' - Rhun ap Iorwerth

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol yn brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud bod "y gwaith yn gorfod dechrau'n syth" ond bod yna "elfennau" y maen nhw am eu deall yn well.
Cafodd arweinydd Plaid Cymru ei ethol yn brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth, ar ôl i'r Brenin gymeradwyo pleidlais gan ASau yn Senedd Cymru.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd ei fod yn gobeithio cyhoeddi pwy fydd gweinidogion ei lywodraeth cyn nos Fercher.
"Allen ni ddisgwyl bydd hwn yn lywodraeth fydd yn llawn talentau," meddai, ond "hefo popeth mae'r llywodraeth yma'n ei wneud - y canlyniad a sut byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n bwysig".
'Braint fy mywyd': ASau yn ethol Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog
- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl
Tad Rhun ap Iorwerth 'methu credu' llwyddiant Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Yn ystod eu hymgyrch fe gynigiodd Plaid Cymru ganllaw 100 diwrnod yn nodi eu blaenoriaethau pe bai nhw mewn grym.
Gyda Mr ap Iorwerth yn brif weinidog bellach fe holodd Kate Crockett beth oedd diben y canllaw yma.
"Pwrpas hwnnw oedd nid yn unig cynnig canllaw i ni ar y camau gweithredu ond hefyd cynnig canllaw i chi [y cyfryngau] a'r cyhoedd i allu mesur a'n dal ni i gyfrif," meddai Mr ap Iorwerth.
"Mae yna nifer o gamau penodol 'da ni wedi'i ddweud y byddwn yn eu cymryd, er enghraifft ar sefydlu canolfannau llawfeddygol, ar benodi 100 o feddygon teulu ychwanegol - pethau fydd yn gwneud gwahaniaeth dwi'n siŵr.
"Ond ma' yna elfennau o waith 'da ni yn bwriadu ei wneud o gwmpas llywodraethiant yr NHS er enghraifft lle da ni rŵan jest eisiau deall ychydig yn well i wneud yn siŵr bod y camau sydd ganddon ni mewn golwg yn mynd i gael effaith yn y ffordd fwyaf effeithiol."
'Ffyddiog bod modd canfod yr arian'
Un o flaenoriaethau'r blaid yn ystod eu hymgyrch oedd ehangu'r cynnig gofal plant am ddim, a dywedodd Mr ap Iorwerth fod "yna sawl elfen i'r her".
Mae'n "brosiect ar gyfer oes y llywodraeth yma," meddai, gan ychwanegu nad yw'n credu mai disgwyliad y cyhoedd oedd y byddai'r newidiadau'n barod erbyn mis Medi.
"Y trawsnewid sydd yn bwysig," meddai ac mae hi am "gymryd ychydig bach o amser".
"Bydd, mi fydd yna enillion cynnar iawn, ond 'da ni'n mynd i edrych ar rywbeth sy'n mynd i drawsnewid y darlun - o gael rhieni 'nôl yn y gwaith, cefnogi disgyblion ac wrth gwrs mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw dros gyfnod y llywodraeth yma."
Dywedodd y bydd y "gost yn sylweddol" ond "mae hyn yn fuddsoddiad sydd yn werth ei wneud a 'da ni yn ffyddiog bod modd canfod yr arian".
Yr ail elfen yw "canfod y staff er mwyn gweithredu hyn".
"Dyna'r her ymarferol wedyn lle byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i 'neud iddo fo weithio."

"Dwi dal i fod yn ystyried fy hun i fod yn newyddiadurwr sydd yn digwydd bod yn brif weinidog dros ein gwlad," meddai Rhun ap Iorwerth
Roedd yr economi'n bwnc trafod mawr yn ystod yr ymgyrch yn ôl y disgwyl, ac roedd Plaid Cymru'n addo sefydlu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol.
"Mae o am gymryd amser o bosib i ddod i fewn yn llwyr," meddai Mr ap Iorwerth fore Mercher, "ond eto mae hwn yn rhan o'r cynllun 100 diwrnod cyntaf".
Pwysleisiodd bod rhai pethau mae'n rhaid iddo gyflawni - yn eu plith, "cynnig llewyrch" i bob rhan o Gymru, ac nid rhai mannau yn unig.
"Gadewch i ni rŵan sgwennu a pharatoi manylder y cynllun gweithredu - ac eto o fewn y 100 diwrnod mae hwn [y gwaith o sefydlu'r asiantaeth] yn dechrau'n syth."
Mae Mr ap Iorwerth yn croesawu pobl i graffu ar gynllun a gwaith ei lywodraeth "pe bai hynny'n dod o Reform UK, neu'r wasg," meddai.
"Dwi'n gwahodd y wasg yng Nghymru ac o'r tu allan i fynd â chrib mân drwy'r hyn 'da ni'n cynnig fel llywodraeth.
"Mae o'n rhan allweddol o'n democratiaeth ni a 'da ni angen bod yn cryfhau plwraliaeth newyddiaduriaeth yng Nghymru.
"Dwi dal i fod yn ystyried fy hun i fod yn newyddiadurwr sydd yn digwydd bod yn brif weinidog dros ein gwlad."
Cabinet i'w ddewis
Dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru arwain llywodraeth yng Nghymru, a Llafur oedd wedi bod wrth y llyw yng Nghaerdydd ers datganoli yn 1999 - 27 mlynedd yn ôl.
Mae'r Senedd estynedig newydd - gyda 96 AS yn hytrach na 60 - yn golygu y bydd 17 o swyddi gweinidogol - pump yn fwy nag o'r blaen.
Bydd y tîm gweinidogol newydd yn cael ei ddatgelu ym mhencadlys Llywodraeth Cymru yng nghanol Caerdydd.
Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Rhun ap Iorwerth yn creu unrhyw swyddi ychwanegol o fewn y llywodraeth, ond mae'r blaid wedi addo penodi gweinidog Iechyd y Cyhoedd er mwyn gweithio ar atal salwch.
Nid yw Plaid Cymru wedi datgelu o flaen llaw pa bortffolios llywodraethol y bydd eu llefarwyr presennol yn eu cymryd.
Yn y Senedd ddiwethaf, Mabon ap Gwynfor a Heledd Fychan oedd yn gyfrifol am iechyd a chyllid - portffolios allweddol.
Bydd angen i'r prif weinidog ystyried a fydd yn rhoi swydd i'r cyn-Lywydd, Elin Jones - yr unig un o'r 43 AS Plaid Cymru sydd â phrofiad gweinidogol.
Fe wnaeth hi wasanaethu fel gweinidog materion gwledig yng nghlymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn negawd gyntaf y ganrif.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.