Cyfanswm o bron i 140 o flynyddoedd o garchar yn dilyn terfysg Trelái

Car ar dân yn ystod terfysg Trelái yn 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn

GanDavid Grundy
Gohebydd BBC CymruYn gohebu oLlys y Goron Caerdydd
  • Cyhoeddwyd

Mae 30 o bobl wedi cael eu dedfrydu am gymryd rhan mewn terfysg yn ardal Trelái yng Nghaerdydd dair blynedd yn ôl.

Fe fydd yn rhaid i 26 dreulio cyfanswm o bron i 140 mlynedd dan glo, tra bod pedwar unigolyn arall, oedd o dan 18 oed ar y pryd, wedi cael gorchmynion cymunedol.

Cafodd heddlu terfysg eu galw i'r ardal ar 22 Mai 2023 ar ôl i rhwng 100 a 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol ym mis Mai 2023.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn y gwrthdrawiad.

Dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke fod "galar ofnadwy" teuluoedd y bechgyn yn cael ei deimlo gan gymuned Trelái hefyd.

Car wedi llosgi ar ôl y terfysg yn Nhrelái ym mis Mai 2023
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr anrhefn yn Nhrelái ym mis Mai 2023 yn un o'r digwyddiadau mwyaf treisgar yn hanes diweddar y brifddinas

Roedd lluniau CCTV yn dangos un o gerbydau Heddlu'r De yn gyrru y tu ôl i'r bechgyn yn gynharach y noson honno.

Ond adeg y gwrthdrawiad, roedd y fan tua hanner milltir i ffwrdd o'r lleoliad, ar ffordd gwbl wahanol.

Fe ledodd sibrydion ynglŷn â'r hyn oedd wedi digwydd a beth oedd wedi achosi'r gwrthdrawiad yn gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn fuan fe ddechreuodd torf ymgasglu ger cordon yr heddlu oedd wedi'i sefydlu i ddechrau ymchwiliad ac i ddiogelu tystiolaeth yn ogystal â chyrff y bechgyn.

Fe dyfodd y dorf dros gyfnod o oriau, gyda drwgdeimlad tuag at yr heddlu yn cynyddu.

Fe drodd hynny yn drais gyda cheir yn cael eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys cerrig, ffrâm gwely, drysau a thân gwyllt yn cael eu taflu at yr heddlu.

Fe gafodd 31 o heddweision ac un aelod o'r cyhoedd eu hanafu yn ystod y terfysg.

Swyddogion a faniau heddlu yn ystod y terfysg yn Nhrelái Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod cost plismona'r terfysg yn dros £1m i Heddlu'r De

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod cost plismona'r terfysg dros £1m i Heddlu'r De, cost sydd wedi cynyddu ers yr amcangyfrif.

Mae'r broses o ddedfrydu 30 o bobl wedi cymryd tri diwrnod yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae 'na weiddi a rhegi wedi bod yn y llys wrth i densiynau barhau ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd ar un o'r nosweithiau mwyaf treisgar yn hanes diweddar y brifddinas.

Mae plismyn wedi bod y tu allan a thu mewn i'r llys bob diwrnod, ar ôl i aelodau o'r oriel gyhoeddus weiddi sylwadau sarhaus tuag at y barnwr.

(O'r chwith i'r dde o'r top) Malaki McQuade, Gemma Virgin, Callum O'Sullivan, Liam Black, Lee-Martin McQuade, Connor O'Sullivan.Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

(O'r chwith i'r dde o'r top) Malaki McQuade, Gemma Virgin, Callum O'Sullivan, Liam Black, Lee-Martin McQuade, Connor O'Sullivan

Y deg olaf i gael eu dedfrydu ddydd Gwener am derfysg (riot) oedd:

Connor O'Sullivan 27, o Gaerau – 5 mlynedd

Erbyn 21:47 roedd o ar flaen y dorf yn taflu nifer sylweddol o daflegrau tuag at yr heddlu gan gynnwys brics.

Fe waeddodd: "Dewch, dewch bois", cyn taflu drws at swyddogion.

Aeth at ddyn oedd yn ffrydio'r terfysg yn fyw, ac fe'i clywyd yn dweud: "Ely Gang. Ely Gang."

Bu'n annog eraill i gymryd rhan ac fe geisiodd guddio'i wyneb.

Roedd y llys yn gwbl dawel wrth iddo fynd i lawr o'r doc.

Callum O'Sullivan, 25, o Drelai – 3 blynedd a 9 mis

Roedd yn bresennol ers dechrau'r digwyddiad, ac er ei fod yn gwylio ar y dechrau, fe ymunodd yn y trais gan daflu taflegrau.

Fe'i gwelwyd yn ddiweddarach yn mynd â bag at griw oedd wedi cynnau tân, a rhoi cynnwys y bag ar y tân.

Roedd yn ceisio cuddio'i wyneb gyda'i grys-T.

Mae'r barnwr yn dweud iddi ystyried ei anawsterau dysgu wrth gyflwyno'r ddedfryd.

Lee-Martin McQuade, 30, o Drelai – 6 blynedd 4 mis

Ar Heol Snowden, fe wnaeth McQuade sylwadau sarhaus at swyddogion.

Fe'i gwelwyd yn rhan o grŵp fu'n paratoi bomiau petrol.

Fe gafodd un ei daflu tuag at yr heddlu a tharo PC Zoe Lea, a dechreuodd losgi ei dillad.

Dywedodd wrth eraill i "godi brics" ac annog y dorf i ymosod ar yr heddlu.

Mi ddywedodd wrth y dorf i "daro gorsaf heddlu Trelái" gyda bomiau petrol a thargedu coesau swyddogion a bod angen cicio'u tariannau.

Roedd yna ochneidiau o'r oriel gyhoeddus pan gafodd y ddedfryd ei chyhoeddi.

"Tawelwch," dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke, gan ychwanegu nad oedd unrhyw aelod o'r oriel gyhoeddus yn cael dod i'r llys yn gwisgo mwgwd "heb dystiolaeth feddygol i brofi bod ei angen."

Gemma Virgin, 45, o Drelai – 3 blynedd ac 8 mis

Fe daflodd y fam-gu sawl taflegryn at yr heddlu.

Roedd hi'n gweiddi sylwadau sarhaus tuag at swyddogion.

Fe ddywedodd hi wedyn ei bod hi dan ddylanwad alcohol ar y pryd a'i bod hi wedi neidio ar y "band wagon."

Fe wnaeth aelod ifanc o'r oriel gyhoeddus adael yn ei dagrau wrth i Virgin fynd i lawr o'r doc.

Malaki McQuade, 19 o Drelai – 6 blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc

Roedd o'n 16 oed ar y pryd.

Ar y noson fe'i gwelwyd yn cerdded oddi wrth y dorf pan gafodd y botel gyntaf ei thaflu.

Erbyn 21:00 roedd wedi gorchuddio'i wyneb gyda balaclafa, ac fe helpodd eraill i guddio'u hwynebau hefyd.

Fe daflodd ddau daflegryn tuag at swyddogion.

Fo oedd un o'r grŵp a drodd gar ei do.

Fe gafodd ei ddedfrydu hefyd am drywanu merch dair gwaith mewn digwyddiad ar wahân, ar ei ben-blwydd yn 17 oed, ac am werthu a dosbarthu cyffuriau gan gynnwys cocên a heroin.

Mae'r barnwr wedi'i ddedfrydu am yr holl droseddau.

Gan ei fod wedi cyflawni troseddau pellach tra'i fod ar fechnïaeth am ei ran yn y terfysg, mae'i ddedfryd yn uwch.

Roedd ei fam yn ei dagrau wrth glywed hyd y ddedfryd.

Liam Black, 21, o Drelai – 6 blynedd 9 mis

Fe daflodd nifer o daflegrau a phaled pren at yr heddlu.

Ar ôl gwneud hynny fe aeth i'w nôl er mwyn ei daflu eto.

Fe daniodd dân gwyllt tuag at swyddogion, ac fe daflodd ddarn o bren oedd yn llosgi tuag atyn nhw.

Fe fu yn ffilmio car yn cael ei droi ar ei ochr.

O'r chwith: Cameron Carter, Kyle Telemaque, Mathew Evans, Ryan KnightFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Cameron Carter, Kyle Telemaque, Mathew Evans, Ryan Knight

Matthew Evans, 22, o Drelai - 6 mlynedd a 4 mis

Fe gyrhaeddodd am 18:34 fel roedd y dorf yn dechrau taflu taflegrau, ond fe adawodd am 21:02 a dychwelyd 21:18 wedi newid ei ddillad ac yn gorchuddio'i wyneb.

Fe daflodd nifer o daflegrau tuag at yr heddlu a thorri rhai eitemau mawr yn llai er mwyn eu gwneud yn haws i'w taflu.

Fe daflodd ffrâm wely oedd yn llosgi tuag at yr heddlu, cyn chwalu ffenest car a defnyddio aerosol i "daflu" fflamau er mwyn rhoi car ar dân.

Fe helpodd droi car ar ei ben i lawr.

Roedd yn gwrando ar y barnwr gyda'i ben yn ei ddwylo wrth glywed y byddai'n mynd i'r carchar.

Cameron Carter, 20, o Drelai – 5 mlynedd a 3 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc

Roedd o'n 17 oed ar y pryd.

Fe gyrhaeddodd gyda Matthew Evans ac roedd o'n rhan o'r dorf ar Heol Stanway cyn mynd i newid ei ddillad a gorchuddio'i wyneb.

Fe daflodd nifer fawr o daflegrau, gyda'r barnwr yn ei ddisgrifio fel "taflwr toreithiog o daflegrau" (prolific thrower of missiles).

Roedd yr eitemau gafodd eu taflu ganddo yn cynnwys drws, monitor, cadair babi a gorchudd draen metel.

Fe giciodd ffenest y car oedd yn llosgi cyn troi car arall ar ei ben i lawr.

Dywedodd Tracey Lloyd-Clarke bod ei droseddau yn fwy difrifol o lawer na rhai o'r troseddwyr eraill oedd tua'r un oed.

Fe wnaeth hanner dwsin o aelodau o'r oriel gyhoeddus godi'u dwylo wrth i Carter adael y llys.

Ryan Knight, 21, o'r Sblot – 5 mlynedd a 4 mis

Clywodd y llys ei bod hi'n amlwg fod Knight yn "rhagweld trwbwl" ac yn "bwriadu cymryd rhan".

Fe daflodd daflegrau at yr heddlu am oriau.

Fo oedd un o'r dynion aeth i nôl rhagor o gerrig a rwbel o ardd, cyn nôl troli siopa i gludo rhagor o rwbel a cherrig.

Fe daflodd un darn mawr o goncrid, arweiniodd un swyddog heddlu i ddweud: "Rydym angen tariannau."

Roedd ar flaen y criw oedd yn achosi terfysg, ac fe ddefnyddiodd aerosol i gynnau tân cyn cicio'r eitem oedd yn llosgi tuag at yr heddlu.

Fe daflodd sawl fom petrol at yr heddlu hefyd.

Fe wenodd wrth gael ei arwain i lawr o'r doc.

Kyle Telemaque, 21, o Drelai - 5 mlynedd

Telemaque yw'r olaf un o'r 30 i gael ei ddedfrydu.

Fel sawl un o'i flaen, fe ddaeth â bag o eitemau personol gyda fo i'r doc - arwydd ei fod yn disgwyl treulio cyfnod o dan glo.

17 oed oedd o ar y pryd.

Fo oedd un o'r cyntaf i gyrraedd y terfysg, ac un o'r rhai cyntaf i nôl cerrig o ardd.

Ar ôl taflu carreg, fe wnaeth ddangos yr ardd i nifer o droseddwyr eraill.

Fe daflodd Telemaque nifer fawr o daflegrau – ac fe wnaeth o gynnau tân ar ffrâm wely cyn ceisio ei daflu tuag at yr heddlu.

Fe wnaeth y barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei ddedfrydu hefyd am fod â chanabis yn ei feddiant - canabis yr oedd yn bwriadu ei gyflenwi.

Canmol dewrder yr heddlu

Ar ddiwedd y broses ddedfrydu, fe wnaeth y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ganmol dewder y cannoedd o swyddogion heddlu oedd yn gweithio ar noson y terfysg.

"Fe wnaethon nhw roi eu diogelwch eu hunain yn y fantol mewn sefyllfa hynod o beryglus a chyfnewidiol - rwy'n eu cymeradwyo am eu hymroddiad i'r ddyletswydd."

Bydd y rhai sydd wedi cael eu dedfrydu i gyfnodau o dan glo yn treulio hyd at 40% o'u dedfryd mewn carchar, gyda gweddill y ddedfryd yn y gymuned.

Roedd 10 o bobl ifanc eisoes wedi'u dedfrydu am eu rhan yn yr aflonyddwch, ac fe gafodd pob un orchymyn atgyfeirio - math o ddedfryd gymunedol.

Galwadau am atebion yn parhau

Er bod y broses ddedfrydu wedi dod i ben, mae rhai o bobol Trelái yn dal eisiau atebion.

Does dim cwest llawn wedi bod eto i farwolaethau Kyrees a Harvey, ac mae'n debygol na fydd un yn dechrau eleni.

Mae penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio erlyn y plismyn oedd yn y fan oedd yn dilyn y bechgyn yn cael ei ailystyried o dan gynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.

Mae un swyddog o Heddlu'r De yn dal i wynebu camau disgyblu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.