Murlun newydd Pontrhydyfen i'r actor Ivor Emmanuel

Murlun Ivor Emmanuel ar ochr tafarn The Colliers Arms ym MhontrhydyfenFfynhonnell y llun, Dave Nash Gnasher Murals
  • Cyhoeddwyd

Mae murlun newydd wedi ei greu ar dafarn The Colliers Arms ym Mhontrhydyfen fel teyrnged i'r actor Ivor Emmanuel.

Cafodd seren y ffilm Zulu (1964) a gaiff ei gofio am chwarae rhan Private Owen yn y ffilm ei fagu yn y pentref. Un arall a fagwyd yno oedd seren Hollywood a chyfaill i Ivor, Richard Burton.

Ddwy flynedd yn ôl aeth yr artist Dave 'Gnasher' Nash i Bonthrhydyfen i beintio murlun i Richard Burton yn y pentref fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant ei eni.

Fe benderfynodd pwyllgor cymunedol y pentref bod angen murlun i Ivor hefyd, ac ar gais y pwyllgor, mae Dave newydd orffen y gwaith.

Mae un o'r trefnwyr, Andrea Edwards, sy'n dod o Bontrhydyfen ac yn cofio Ivor wrth ei bodd gyda'r murlun iddo.

Dywedodd: "Rydyn ni gyd yma wedi dotio gyda'r gwaith. Mae'n arbennig."

Ychwanegodd Dave, yr artist sy'n byw ger Caergrawnt: "Do'n i ddim yn gwybod dim byd am Bontrhydyfen nes dod yma ddwy flynedd yn ôl.

"Mae'r croeso mor gynnes a phawb mor gyfeillgar, a gymaint o dalent wedi dod o'r pentref. Mae'n unigryw iawn."

Fe beintiodd Dave y murlun dros ddau ddiwrnod hirFfynhonnell y llun, Dave Nash Gnasher Murals
Disgrifiad o’r llun,

Fe beintiodd Dave y murlun dros ddau ddiwrnod hir

Bywyd a gyrfa Ivor Emmanuel

Mae'r murlun yn anfarwoli'r olygfa yn y ffilm Zulu lle mae Private Owen yn dechrau canu Men of Harlech ac yn arwain ei gyd-filwyr ym myddin Prydain i wneud yr un fath, wrth iddynt ddod wyneb yn wyneb â byddin llawer mwy o ryfelwyr Zulu.

Er ei lwyddiant, roedd bywyd cynnar Ivor Emmanuel yn un llawn tristwch.

Cafodd ei rieni a'i chwaer dair blwydd oed eu lladd ar 11 Mai 1941 ar ôl i awyren Almaenig ollwng bomiau ar gartref ei deulu yn y pentref. Roedd Ivor yn 14 oed ar y pryd.

Yn dilyn hynny bu'n byw gyda'i fodryb, Flossie, chwaer ei fam. Tra'n tyfu i fyny bu'n aelod o dri chôr, dwy gymdeithas opera, a hefyd y gymdeithas ddrama ym Mhontrhydyfen.

Cafodd gymorth Richard Burton yn ei yrfa fel actor, ac roedd yn ddyledus i Burton am ei ran yn Oklahoma! yn Llundain. Aeth ymlaen i dderbyn y brif ran yn y rhaglen deledu gerddorol Gwlad y Gân, cyn actio yn y ffilm Zulu am hanes brwydr Rorke's Drift yn 1879.

Yr olygfa enwog yn Zulu gydag Ivor EmmanuelFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa enwog yn Zulu gydag Ivor Emmanuel

Atgofion o Ivor ym Mhontrhydyfen

Yn ôl Andrea Edwards, roedd calon Ivor ym Mhontrhydyfen a'i hiraeth am gymuned y pentref yn ddwfn.

Meddai: "Roedd fy nhad yn ffrind agos i'w frawd John ac rwy'n cofio pan oedd Ivor yn serennu mewn pantos Nadolig yn Abertawe bydde'r mamau yn trefnu bwsys i fynd i wylio Ivor yn y Grand Theatre.

"Oedd e wastad yn gwybod os oedd criw o Bontrhydyfen yn y gynulleidfa a bydde fe'n arfer gweiddi, 'I know you're there Aunt Flossie', neu 'I know you're there Aunt Val'.

"Roedd ganddo fe hiraeth a bydde fe wastad yn dod yn ôl i weld ei deulu.

"Mae rhai o'i deulu yma o hyd, ac fe wedon nhw bod grŵp WhatsApp y teulu wedi bod yn brysur iawn wrth i luniau gael eu rhannu o'r murlun."

"Gobeithio y bydd ei ferch sy'n byw yn Sbaen yn dod gartref i'w weld yn fuan a fe wnawn ni barti bach iddi."

Ivor EmmanuelFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Ivor Emmanuel

Atgof melys arall sydd gan Andrea o sêr Pontrhydyfen yw gweld Richard Burton ac Elizabeth Taylor yn y siop gornel pan oedd hi'n blentyn.

"Ro'n i wedi mynd i'r siop gornel ar fy ffordd i'r ysgol ac oedd Elizabeth Taylor yno yn prynu bacwn i frecwast. Doedd dim clem 'da fi pwy oedd hi!"

Gobaith Andrea a'r pwyllgor cymunedol yw y bydd murlun Ivor yn dod â hanes y pentref yn fyw i'r to ifanc, ac yn dwyn atgofion melys i do hŷn y pentref, a'r trigolion sy'n cofio'n annwyl am Ivor o Bontrhydyfen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: