Saith yn rhagor yn cael eu carcharu am eu rhan yn nherfysg Trelái

Jamie Jones, Zayne Farrugia a Jordan WebsterFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Jones, Zayne Farrugia a Jordan Webster yn wynebu cyfnodau sylweddol o garchar

  • Cyhoeddwyd

Mae saith o bobl yn rhagor wedi cael eu carcharu ddydd Iau am eu rhan mewn terfysg yng Nghaerdydd ym Mai 2023 a ddechreuodd yn dilyn marwolaethau dau fachgen.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn dilyn gwrthdrawiad beic trydan, wnaeth arwain at oriau o olygfeydd treisgar yn ardal Trelái.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau roedd ebychiadau a dagrau yn yr oriel gyhoeddus wrth i'r ail gasgliad o ddiffynyddion gael eu dedfrydu.

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke y dylai aelodau'r cyhoedd wrando "yn dawel" ac y dylen nhw adael y llys os nad oedd modd iddyn nhw reoli eu hymddygiad.

Roedd 10 diffynnydd yn cael eu dedfrydu ddydd Iau, gyda saith o'r rheiny wedi cael eu carcharu.

Roedd gweiddi a rhegi yn y llys wrth i 10 person arall gael eu dedfrydu ddydd Mercher.

Jayden Westcott a James ChappellFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jayden Westcott a James Chappell ymhlith y saith a gafodd eu carcharu ddydd Iau

Y rhai a gafodd eu dedfrydu ddydd Iau am derfysg (riot) oedd:

Jamie Jones, 25 o Lanrhymni - pum mlynedd a dau fis.

Roedd yn un o nifer o bobl a aeth i ardd er mwyn casglu eitemau i daflu at yr heddlu.

Taflodd dair eitem cyn iddo gasglu bin gwastraff bwyd a thaflu hwnnw at swyddogion.

Zayne Farrugia, 26 o Gaerau - chwe blynedd.

Roedd yn un o'r cyntaf i fynd i'r ardd i gasglu cerrig i'w taflu at yr heddlu, ac fe daflodd chwe eitem.

Roedd ebychiadau o'r oriel gyhoeddus wrth iddo gael ei ddedfrydu i gyfnod sylweddol o garchar.

Jordan Webster, 30 o Drelái - pum mlynedd a saith mis.

Pan gafodd gar Audi du ei symud i ganol y ffordd er mwyn atal yr heddlu, fe waeddodd bod angen "rhedeg nhw i gyd drosodd".

Bu'n taflu cerrig at yr heddlu ac fe wthiodd droli siopa i mewn i'r ffordd er mwyn i bobl eraill ei lenwi gydag eitemau i'w taflu.

Jayden Westcott, 21 o Drelái - pum mlynedd a dau fis.

Bu'n ffilmio swyddogion heddlu gyda'i ffôn tra'n eu sarhau, ac fe daflodd eitemau hefyd.

Roedd hefyd yn annog y dorf i ymuno ag ef wrth iddo wthio'r droli siopa tuag at yr heddlu.

Pan gafodd ei arestio dywedodd y byddai heddwas "yn marw heno".

James Chappell, 31 o'r Barri - pedair blynedd a phedwar mis.

Fe wnaeth Chappell a dyn arall yrru i'r lleoliad, ac fe gafodd ei glywed yn dweud ei fod yn "gobeithio y bydd heddweision yn cael eu hanafu y tro yma".

Bu hefyd yn taflu sawl eitem tuag at swyddogion.

Jamie Bateman a Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jamie Bateman a Liam Williams eu dedfrydu i gyfanswm o ddegawd dan glo

Jamie Bateman, 27 o Gaerau - pum mlynedd a naw mis.

Fe wnaeth Bateman regi ar swyddogion a bu'n chwerthin wrth i frwydro ddechrau.

Bu'n taflu eitemau ac yn annog eraill i'r ardd ble roedd pobl wedi ymgasglu i gael rhagor o eitemau.

Fe wnaeth hefyd dorri carreg balmant fawr i ddarnau llai er mwyn i eraill eu taflu at yr heddlu.

Liam Williams, 21 o Dredelerch - pedair blynedd a thri mis.

Fe gyrhaeddodd y lleoliad gyda chaniau o danwydd a'u dosbarthu i eraill, ac fe gafodd y caniau yma eu defnyddio i losgi car.

Jumana Fouad, 19 o Drelái - gorchymyn cymunedol 24 mis.

Roedd yn 16 oed ar y pryd, ac fe daflodd sawl carreg.

Pan roedd heddwas oedd wedi'i anafu angen cymorth, cafodd ei gweld yn dathlu.

Lianna Tucker, 20 o Drelái - gorchymyn cymunedol 24 mis.

Yn 17 oed ar y pryd, roedd ar flaen y dorf yn taflu eitemau at yr heddlu a bu'n gweiddi a rhegi ar swyddogion.

Jasmine Smith, 21 o'r Mynydd Bychan - gorchymyn cymunedol 24 mis.

Roedd yn 17 oed ar y pryd, fe daflodd ddau eitem at yr heddlu yn ystod y terfysg, a bu'n gwawdio swyddogion.

Bydd y saith sydd wedi cael eu dedfrydu i gyfnodau dan glo yn treulio hyd at 40% o'u dedfryd mewn carchar, gyda gweddill y ddedfryd yn y gymuned.

Mae disgwyl i 10 o bobl eraill gael eu dedfrydu ddydd Gwener.

Roedd 10 o bobl ifanc eisoes wedi'u dedfrydu am eu rhan yn yr aflonyddwch, ac fe gafodd pob un orchymyn atgyfeirio - math o ddedfryd gymunedol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.