Clywed am ddynion ifanc a'r manosphere 'wedi torri nghalon i' - Sara Manchipp

Sara Manchipp yn cyfweld dyn ifanc sydd yn cyfaddef fod ganddo deimladau negyddol tuag at ferched ar I Mewn i'r Manosphere
- Cyhoeddwyd
Mae'r gair manosphere wedi dod i amlygrwydd yn ddiweddar gan gael sylw yn y gyfres ddrama Adolescence a rhaglen ddogfen Louis Theroux, Into the Manosphere.
Dyma derm sy'n disgrifio gwefannau a grwpiau trafod ar-lein sydd yn gysylltiedig â diddordebau dynion a'u hawliau, ond sydd yn aml yn annog syniadau ac agweddau negyddol tuag at ferched, ymhlith dynion ifanc.
Un sydd wedi cael cipolwg tu ôl i'r llen ar y byd tywyll yma, a'i ddylanwad peryg ar bobl ifanc yw Sara Manchipp, ar gyfer dwy raglen ar blatfformau digidol S4C, dolen allanol, I Mewn i'r Manosphere.
Cafodd Sara, sy'n gyn-Miss Cymru, ei stelcian ar-lein yn 2011. Gwnaeth y profiad yna, a'r ffaith ei bod nawr yn fam i fachgen bach, Tomos, ei hysbrydoli i edrych ar sut mae cynnwys negyddol ar-lein yn arwain at deimladau niweidiol ymhlith bechgyn ifanc - nid yn unig tuag at fenywod, ond hefyd tuag at eu hunain a'u dealltwriaeth o sut beth yw bod yn ddyn.
Dros Ginio
Sara Manchipp yn trafod ei rhaglen ddogfen "I Mewn i'r Manosphere" ar S4C
Manosphere, incels a looksmaxxing
Yn y rhaglen, cafodd Sara sgwrs ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe sy'n gwneud gwaith ymchwil arloesol ar incels (involuntary celibates), yn ogystal â dyn sydd yn cyfaddef fod ganddo ddaliadau negyddol tuag at ferched, a chlywed profiadau tri dyn ifanc o gael eu dylanwadu gan gynnwys negyddol ar y we.
"Fi'n credu mai un o'r pethau 'naeth synnu fi ac ypsetio fi fwyaf o'dd clywed gan un bachgen 16 oed, Abishek," eglurodd Sara.
"Pan oedd e'n 14 oed, o'dd e ar-lein a wedi ffeindio cymuned o'r enw looksmaxxing – do'n i erioed wedi clywed amdano fe.

Siaradodd Sara gyda thri dyn ifanc sydd yn ceisio helpu eraill, ar ôl profi cynnwys niweidiol ar-lein
"O'dd e wedi esbonio bod e mor anhapus gyda ffordd o'dd e'n edrych ar ôl cael damwain rygbi, o'dd e'n sefyll o flaen y drych yn y bathroom efo morthwyl yn ei law, ac o'dd e'n barod i guro'i wyneb e mewn i siâp un o'r dynion 'ma sydd yn y gymuned.
"Fel mam, o'dd hwnna wedi torri nghalon i; o'n i bron â chrio yn gwrando arno fe."
Rhannu casineb ar fforwm gyhoeddus
Yn ôl un arbenigwr, y manosphere yw'r "argyfwng mwyaf" sy'n wynebu pobl ifanc heddiw.
Mae Dr Ashley Morgan, uwch-ddarlithydd Astudiaethau Cyfryngau a Diwylliannau Gweledol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn dweud ei bod yn poeni bod y manosphere a chynnwys sy'n cael ei dargedu at bobl ifanc ar-lein "wir yn niweidio bechgyn ifanc".
"Mae'n anferth, anferth o broblem," meddai.

Mae Dr Ashley Morgan yn trefnu digwyddiad rhedeg blynyddol yng Nghaerdydd, er cof am Sarah Everard, a gafodd ei lladd gan swyddog heddlu'r Met tra'n cerdded adref yn Llundain yn 2021
A ninnau'n byw mewn oes ddigidol, â'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan enfawr o hynny, mae hi'n anodd cadw rheolaeth dros y mathau o gynnwys sydd yn cael ei greu a'i rannu, ac yna'n cael ei weld gan bobl ifanc.
Mae Dr Morgan yn gweld fod y cyfryngau cymdeithasol yn cymryd lle sgyrsiau oedd yn arfer digwydd mewn tafarndai neu mewn gemau chwaraeon, a bod "llawer o gasineb tuag at fenywod o fewn y gymdeithas yn gyffredinol", ond nawr ei fod yn cael ei roi ar fforwm gyhoeddus.
"Beth sydd wedi digwydd yw bod pocedi o grwpiau o ddynion wedi cysylltu efo'i gilydd, llawer ohonyn nhw'n rhai sy'n teimlo wedi eu gorthrymu.
"Ac wrth sgwrsio efo'i gilydd, maent wedi dod i'r casgliad anghywir mai menywod a ffeministiaeth sydd i'w beio am eu gormes."

Mae Geiriadur Caergrawnt yn diffinio manosphere fel gwefannau a grwpiau trafod ar y rhyngrwyd ynglŷn â diddordebau dynion a'u hawliau (yn hytrach na rhai menywod) sy'n aml yn gysylltiedig â gwrthwynebiad i ffeministiaeth, ac anhoffter o fenywod
Yn ôl Dr Morgan, mae rhai agweddau sy'n cael eu hannog ar gyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar y ffordd mae bechgyn ysgol yn trin menywod, yn arbennig athrawon a phlant eraill.
'Bod yn fodel rôl positif i ddynion ifanc'
Enw cyfarwydd yn y byd yma yw'r dylanwadwr Andrew Tate, sydd yn agored iawn am ei agweddau misogynistaidd, a sydd â miliynau o ddilynwyr ledled y byd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Un peth sy'n cael ei grybwyll ar raglen Sara fel un rheswm posib dros ddibyniaeth dynion ifanc ar farnau dylanwadwyr digidol, yw'r diffyg modelau rôl go iawn sy'n bodoli i fechgyn ifanc heddiw.
Mae George Hobbs, athro sy'n dysgu ym Mro Morgannwg, yn ceisio bod yn fodel rôl positif i ddynion ifanc yn ei ardal.
Yn ogystal â'i waith dysgu, mae gan George mwy na 40,000 o ddilynwyr ar ei gyfrif Instagram lle mae'n rhannu ei brofiadau o fod yn athro, a'i waith yn ceisio lleihau effaith y manosphere ar fechgyn ifanc.

Disgrifia George Hobbs ei hun fel eiriolwr (advocate) ar gyfer addysgu dynion ifanc ar fod yn aelod positif o gymdeithas
"'Dy ni wedi uwcholeuo'r broblem bod llawer o ddynion, yn anffodus, ddim yn cyfrannu'n bositif i'n cymdeithas," eglura.
"Modelu beth hoffen ni weld ydy'r ffordd orau o gynhyrchu dynion ifanc sy'n gwneud cyfraniad positif ac yn herio misogynedd a gwrywdod tocsig."
Penderfynodd o oed ifanc iawn mai dysgu oedd ei alwedigaeth mewn bywyd, a hynny oherwydd fod ei dad yn athro.
Mae yntau nawr eisiau bod yn ddylanwad positif ar ei ddisgyblion ac wedi cychwyn menter sy'n "cynnig datrysiad i wrywdod tocsig" trwy gyfuno ei angerdd am addysgu, gyda'i gariad tuag at chwaraeon.

Pan nad yw'n dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae George yn dysgu allan ar y cae chwaraeon
Trwy gynnal sesiynau chwaraeon, fel rygbi, mae'n anelu i "uwcholeuo'r gwerthoedd a nodweddion positif" sydd gan y bobl ifanc yn barod a "phrofi iddyn nhw bod ganddyn nhw'r gallu a'r capasiti" i fod yn unigolion parchus a phositif.
"Beth 'dy ni eisiau gwneud ydy dangos i'n dynion ifanc gymaint o fodelau rôl positif â 'dy ni'n gallu, er mwyn eu hysbrydoli nhw a helpu nhw weld bod nhw'n gallu cyflawni hwnna hefyd."
Datrysiad i'r dyfodol
Addysg ydy'r ffordd orau o oresgyn yr agweddau niweidiol sydd gan fechgyn ifanc, yn ôl Dr Morgan a George.
Tra bod George yn gwneud ei orau i addysgu bechgyn a dynion ifanc, creda Dr Morgan mai'r genhedlaeth hŷn sy'n rhaid canolbwyntio arno.
Teimla bod cyfrifoldeb ar ddynion i herio agweddau nad ydyn nhw'n eu gweld yn addas, a dechrau sgwrs efo dynion eraill am eu hymddygiad.
Ar ôl gwneud ei rhaglenni, mae Sara Manchipp yn cydnabod ei bod hi'n teimlo'n fwy positif am y dyfodol, yn sgil y bobl y cafodd eu cyfarfod sydd yn trio gwneud gwahaniaeth; mae'r tri dyn ifanc y siaradodd hi â nhw am eu profiadau negyddol ar-lein, bellach yn trio helpu bechgyn ifanc eraill i fod yn agored am eu teimladau a rhannu problemau.
Ond gyda chyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog, Keir Starmer ar waharddiad i blant dan 16 oed o'r prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, oes digon yn cael ei wneud?
Sara Manchipp: Cyfrifoldeb arnom ni i helpu pobl ifanc ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
Cam i'r cyfeiriad cywir yn unig yw hyn, meddai Sara Manchipp: "Fi'n credu fod cyfrifoldeb gyda ni fel oedolion – fel rhieni, athrawon, y gymuned – i drio gwneud mwy i addysgu'r bobl ifanc am fod yn saff ar-lein, a bod yn barchus i'w gilydd.
"Ond yn fwy na 'na, eu dysgu fel i agor lan a siarad gyda'i gilydd, achos mae gymaint o bobl ifanc yn gwario gymaint o oriau ar-lein, fi'n credu maen nhw'n anghofio sut i siarad wyneb-i-wyneb, a falle bod nhw'n stryglan yn eu bywydau go iawn.
"Er bod [y gwaharddiad] mynd i fod yn dda, dwi hefyd yn credu ma' pobl ifanc wastad am ffeindio ffyrdd o'i gwmpas e, felly mae cyfrifoldeb 'da ni fel oedolion i helpu nhw ac i addysgu nhw sut i navigatio'r byd digidol."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd8 Ebrill

- Cyhoeddwyd14 Mai 2025
