Carcharu dyn 74 oed o Wynedd am feddu ar heroin gwerth £33,600

Arthur HughesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr wrth Arthur Hughes ei bod yn "drist gweld dyn 74 oed sydd ddim yn iach iawn" yn ymwneud â masnach heroin

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 74 oed o Wynedd wedi cael ei garcharu am feddu ar heroin gyda gwerth honedig o tua £33,600, gyda'r bwriad o'i gyflenwi.

Cafodd Arthur Hughes o Rachub ger Bangor ddedfryd o 38 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caernarfon.

Fe blediodd yn euog hefyd o feddu ar bron i £20,000 mewn eiddo troseddol.

Dywedodd y barnwr ei bod yn "drist gweld dyn 74 oed sydd ddim yn iach iawn" yn ymwneud â masnach heroin.

'Mynd yn rhy hen'

Dywedodd y Barnwr Simon Mills wrth Hughes: "Rydych bellach yn mynd yn rhy hen i fod yn ymwneud â throseddu mor ddifrifol â hyn."

Ychwanegodd ei bod yn anarferol gweld rhywun o oedran Hughes, sy'n cyn-adeiladwr, yn dewis cymryd rhan mewn troseddau o'r fath.

Nododd y barnwr hefyd fod Hughes wedi derbyn dedfryd wedi'i gohirio am drosedd gyffuriau yn 2019.

"Ni wnaeth hynny eich dysgu i gadw draw oddi wrth gyflenwi'r cyffuriau ofnadwy yma," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.