Cais i herio cau Ysgol Meidrim wedi ei wrthod gan yr Uchel Lys

Ysgol Meidrim
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Cyngor Sir Caerfyrddin ydy cau Ysgol Meidrim fis Rhagfyr 2026

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn Sir Gâr sydd yn ceisio atal eu hysgol wledig rhag cau wedi clywed bod eu cais am adolygiad barnwrol wedi cael ei wrthod.

Bwriad Cyngor Sir Caerfyrddin ydy cau Ysgol Meidrim ddiwedd 2026, yn bennaf oherwydd "nifer isel" y disgyblion.

Cafodd cais am adolygiad barnwrol ei gyflwyno i'r Uchel Lys yng Nghaerdydd ym mis Mai, gydag ymgyrchwyr yn honni fod y broses ymgynghori yn annheg, ac nad yw'r cyngor wedi bod yn barod i ystyried dewisiadau eraill ar gyfer dyfodol yr ysgol.

Ond mae'r Uchel Lys wedi penderfynu nad oes sail i gynnal adolygiad o'r fath.

Ymgyrchwyr y tu allan i bencadlys Cyngor Sir CaerfyrddinFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrchwyr sy'n ceisio achub Ysgol Meidrim wedi cyflwyno her gyfreithol ym mis Mai

Roedd y Barnwr Jarman KC wedi cytuno i dderbyn her ar ddwy sail, sef nad oedd y penderfyniad yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018, gan y symudwyd ymlaen at y cam ymgynghori heb roi ystyriaeth fanwl iawn i'r mater ar ôl i bob dewis rhesymol arall gael ei ystyried, ac ar ôl cynnal asesiad clir o'u rhinweddau.

Yr ail sail oedd na roddwyd gwrandawiad teg i gorff llywodraethu Ysgol Meidrim ac na ofynnwyd iddyn nhw gyflwyno unrhyw ddewisiadau amgen pellach.

Ar ôl ystyried y mater, penderfynodd y Barnwr Jarman bod y Cod Trefniadaeth Ysgol yn caniatáu i gynigion amgen gael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori, sydd yn golygu nad oedd y broses ei hun yn "ddiffygiol mewn ffordd dyngedfennol."

Yn ôl y barnwr, doedd yna ddim annhegwch o ran y broses.

Dywedodd y gall y broses ymgynghori ar gyfer cau barhau, ac mae angen i'r cyngor ystyried pob opsiwn.

Y bwriad ar hyn o bryd yw cau'r ysgol ar ddiwedd mis Rhagfyr 2026.

Wrth ymateb dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith: "Nid oedd y Gymdeithas yn rhan o'r her cyfreithiol, ond deallwn yn iawn pam bod rhiant plentyn sydd ag anghenion dwys iawn, a thystiolaeth feddygol y byddai cau'r ysgol yn niweidiol iawn, yn defnyddio unrhyw ddull agored i wrthwynebu.

"Gwerthfawrogwn fod yr ysgol gyfan a'r gymuned yn sefyll yn gryf yn eu gwrthwynebiad i gau'r ysgol.

"Nodwn fod y Barnwr wedi gwneud sylwadau beirniadol iawn o Gyngor Sir Gâr o ran diffyg ymwneud â'r llywodraethwyr ac nad ystyriwyd eto yr opsiynau amgen heblaw am gau'r ysgol, ond nad yw'r dystiolaeth yn ddigon i gyrraedd trothwy uchel iawn ymyrraeth gyfreithiol, gan fod cyfle o hyd i'r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol i'r opsiynau amgen wrth ystyried gwrthwynebiadau i'r Hysbysiad Cau.

"Mae dau ddewis felly gan y Cyngor. Gall barhau i ddiystyru barn llywodraethwyr a'r gymuned leol, rhoi ystrydeb am "ddysgu gwersi at y dyfodol" a dal ymlaen gyda'r bwriad o geisio cau'r ysgol.

"Neu gall nodi'r feirniadaeth a chychwyn cyfnod newydd trwy dynnu nol yr hysbysiad i gau'r ysgol a mynd ati i drafod yn syth gyda llywodraethwyr eu cynlluniau cyffrous i ddatblygu Hyb Cymunedol ac ysgol ochr yn ochr, allai fod yn gynllun peilot fyddai'n sail i adfywiad ein cymunedau gwledig Cymraeg."

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cael cais i ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig