Ymgyrchwyr yn lansio her gyfreithiol yn erbyn bwriad i gau ysgol gynradd

Ysgol Meidrim
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn ceisio achub Ysgol Gynradd Meidrim

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sy'n ceisio achub ysgol wledig yn Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno her gyfreithiol i gynlluniau'r cyngor sir yn yr Uchel Lys.

Fe gyflwynwyd achos am adolygiad barnwrol ynghylch y bwriad i gau Ysgol Meidrim yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Cynllun Cyngor Sir Gâr ydy cau Ysgol Meidrim ddiwedd y flwyddyn, yn bennaf oherwydd "nifer isel" y disgyblion.

Mae'r ymgyrchwyr yn honni fod y broses ymgynghori yn annheg, ac nad yw'r cyngor wedi bod yn barod i ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol yr ysgol.

Gwrthododd y cyngor wneud unrhyw sylw tan y bydd y dyfarniad yn cael ei gyhoeddi mewn tua thair wythnos.

Mae'r ysgol yn un o bedair allai orfod cau dan gynlluniau'r cyngor.

Yn Hydref 2025, penderfynodd Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yng Nghyngor Sir Caerfyrddin i barhau ag ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer Ysgol Pontiets, Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro, ynghyd â chyhoeddi hysbysiad statudol ar Ysgol Llansteffan.

Bwriad y cynigion gafodd eu hadolygu gan y pwyllgor oedd siapio darpariaeth ysgolion yn y sir ymhellach.

Ym mis Tachwedd pleidleisiodd cynghorwyr yng Nghaerfyrddin o blaid ymgynghori ar y posibilrwydd o gau Ysgol Gynradd Meidrim erbyn diwedd 2026.

Dadl y cyngor oedd bod nifer isel o ddisgyblion yno yn golygu costau uchel.

Ysgol MeidrimFfynhonnell y llun, Google

Mewn diweddariad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ymgyrchwyr fod cynrychiolwyr o'r ysgol wedi mynychu Llys Sifil Caerdydd ddydd Mawrth.

Dywedodd: "Ni chafodd dyfarniad ei roi heddiw. Rydym wedi cael gwybod bod disgwyl penderfyniad ymhen tair wythnos.

"Roedd heddiw yn gam pwysig ymlaen.

"Roedd y tîm cyfreithiol oedd yn cynrychioli'r ysgol yn falch bod y barnwr wedi ymgysylltu'n agos â'r materion yr oedd gennym, yn enwedig o ran y broses ymgynghori ac ystyried opsiynau amgen a gafodd eu cyflwyno gan y gymuned.

"Cyflwynodd y ddwy ochr eu dadleuon yn llawn ac rydym yn teimlo bod ein pryderon wedi'u cynrychioli'n glir ac yn gryf yn y llys."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig