'Byddwn yn cofio nhw i gyd' - Diffoddwyr tân yn teithio i'r UDA 25 mlynedd ers 9/11

Caer TimothyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caer Timothy (yr ail o'r dde) yn un o drefnwyr y daith i Atlanta

  • Cyhoeddwyd

Bron i chwarter canrif ers ymosodiadau terfysgol 9/11 ar yr Unol Daleithiau, mae Cymro yn un o gannoedd o ddiffoddwyr tân sy'n teithio draw i goffau'r ymatebwyr brys fu farw wrth geisio achub bywydau.

Bydd nifer fawr o ddigwyddiadau ar draws yr UDA i gofio'r miloedd o bobl a gafodd eu lladd yn 2001 ar ôl i derfysgwyr gipio awyrennau a tharo'r World Trade Center yn Efrog Newydd a'r Pentagon, Virginia. Daeth awyren arall i lawr mewn cae ar ôl i deithwyr oedd arni ymladd yn ôl yn erbyn y terfysgwyr.

Ymhlith y digwyddiadau, bydd dros 200 o ddiffoddwyr tân o Brydain yn dringo 110 rhes o risiau yn Truit Park, Atlanta - sy'n gyfartal ag uchder y World Trade Centre - i gofio'r rhai fu farw a chodi arian.

Un o drefnwyr y daith yw Caer Timothy, sy'n wreiddiol o ardal Pontypridd, ond sydd bellach yn ddiffoddwr tân ym Maes Awyr Cernyw.

Bwriad Caer, a'r 231 o ddiffoddwyr eraill ydy gwneud rhywbeth i gofio'r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw wedi'r ymosodiadau, a'r rhai eraill a fu farw yn y blynyddoedd a ddilynodd o ganser a chlefydau eraill.

Caer TimothyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Caer Timothy (dde) ar ei ffordd i Atlanta gyda dros 200 o ddiffoddwyr tân o Brydain

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Caer, sydd bellach yn Atlanta, fod y daith wedi cymryd dwy flynedd i'w threfnu a'i fod yn disgwyl diwrnod "emosiynol iawn".

"Mae 'na gysylltiad 'da ni ag Atlanta trwy'r Terry Farrell Memorial Fund so 'da ni'n codi arian ar gyfer hwnna, y Firefighters Charity ac y Blue Light Charity," meddai.

"Roedd Terry Farrell yn un o'r diffoddwyr tân aeth i mewn hefo'i griw i helpu yn 9/11 a dwi newydd gyfarfod ei frawd o."

9/11Ffynhonnell y llun, Jose Jimenez/Primera Hora/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 343 o ddiffoddwyr tân wrth ymateb i'r ymosodiadau terfysgol yn Efrog Newydd ar 11 Medi, 2001

Dywedodd fod yr ymosodiadau wedi gadael marc arno yn blentyn a'i fod yn gallu uniaethu i raddau â'r diffoddwyr tân a oedd yn ymateb y diwrnod hwnnw yn y lludw a'r llwch.

"Mae'n anhygoel i fi, ro'n i mond yn saith neu wyth pan wnaeth o ddigwydd a dwi'n cofio gweld o ar y newyddion," meddai.

"Dwi heb wneud unrhyw beth yn agos i beth wnaethon nhw wneud ond 'da ni [fel diffoddwyr tân] yn deall rhannau ohono fo - y miloedd o bobl oedd wedi mynd i mewn oedd ddim hyd yn oed ar shifft ar draws yr UDA i gyd."

Raymond E. MurphyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Raymond E. Murphy yn un o'r diffoddwyr tân fu farw ar 9/11

Bydd pob un o'r 232 o ddiffoddwyr tân ar y daith i Atlanta yn cofio diffoddwr tân penodol fu farw wedi'r ymosodiadau.

"'Da ni gyd wedi cael un person i gofio ar y trip 'ma a Raymond E. Murphy dwi 'di cael. Roedd e'n rhif 235, Lieutenant o Ladder 16," meddai.

"Doedd e ddim ar shifft yn ystod y digwyddiad ond wnaeth o gael criw at ei gilydd a mynd i mewn i helpu a wnaeth o golli ei fywyd."

Bydd pob un o'r diffoddwyr yn cario llun o unigolyn fu farw yn 9/11 wrth gwblhau'r herFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pob un o'r diffoddwyr yn cario llun o unigolyn fu farw yn 9/11 wrth gwblhau'r her

Mae'r daith wedi bod yn un i'w chofio yn barod i Caer a'r gweddill, gan bod diffoddwyr tân Maes Awyr Heathrow wedi ffarwelio â nhw wrth adael.

"Roedden ni gyd ar yr un awyren, roedd y diffoddwyr tân yn Heathrow wedi rhoi'r goleuadau glas ar a mynd ar y taxi way hefo ni - roedd yn sbeshal iawn," meddai.

"Fydd o'n emosiynol iawn dydd Sadwrn, ond 'da ni gyd yn gwybod dim just y 343 oedd wedi marw yna ond y rhai sydd wedi marw ers hynny o ganser hefo gymaint o salwch gwahanol - fyddwn ni'n cofio nhw i gyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig