Adnewyddu camperfan i yrru draw i fyw yn Cyprus

Ed a Liss EdwardsFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Ed a Liss Edwards

GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae bywydau Liss ac Ed Edwards o Abertawe ar fin newid, wrth iddyn nhw symud i Cyprus i fyw am ddwy flynedd, gyda'u dau blentyn, Leyla a Charlie.

Fel tasai paratoi at symud dramor ddim yn gyfnod digon prysur, penderfynodd y cwpl roi her ychwanegol iddyn nhw eu hunain; adnewyddu camperfan er mwyn i'r teulu yrru ynddi draw i'w cartref newydd.

A hynny er nad oes ganddyn nhw ddim profiad o wneud y fath beth erioed o'r blaen, ac amserlen dynn!

'Pam ddim ni?!'

Mae Ed yn y Gwarchodlu Cymreig, felly dyna sydd yn symud y teulu i Cyprus ddiwedd Mehefin, a hynny i fyw yn llety'r fyddin.

Syniad Liss oedd hi i deithio draw yno dros y tir yn hytrach na hedfan. Un o'r rhesymau am hyn oedd i'w gwneud hi'n haws i gludo eu ci Floki draw.

Â'r teulu wedi mwynhau gwyliau mewn camperfan yn y gorffennol, roedd teithio draw mewn un yn gwneud synnwyr, meddai.

Leyla, Ed a Charlie gyda'u hen fanFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Leyla, Ed a Charlie gyda'u hen fan; maen nhw wedi prynu un mwy ar gyfer eu hantur draw i Cyprus

"Prynon ni fan T5 ychydig o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y plant yn fach, ac roedden ni'n ei ddefnyddio ar y penwythnosau. Pan ffeindion ni mas ein bod ni'n mynd i Cyprus, roedden ni'n gwybod bod rhaid gwerthu'r ceir, ond feddyliais i, pam 'nawn ni ddim cyfnewid y fan am un mwy?

"Wrth gwrs, roedd rhai mwy yn llawer rhy ddrud, felly tua mis Medi, ges i'r syniad i addasu'r fan yn gamperfan. Mae 'na lot o ffyliaid ar TikTok sy'n ei wneud e, felly pam ddim ni?!

"Doedd Ed ddim yn siŵr o gwbl; dim ond ar benwythnosau mae e gartre, ac mae wedi bod yn brysur iawn yn y gwaith wrth iddo baratoi i symud i Cyprus. Ond 'nes i ei berswadio fe – 'fydd e'n iawn.... fydd e'n hwyl!'"

Felly, ers mis Rhagfyr, mae'r cwpl wedi bod ar ras wyllt yn gweithio ar drawsnewid y fan i'w gwneud yn addas i deulu o bedwar a cockapoo allu teithio a chysgu ynddo, a hynny dros yr 14 diwrnod maen nhw am ei gymryd i yrru drwy Ewrop cyn dal fferi i gyrraedd eu cartref newydd.

Ed yn gwneud gwaithFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i Ed ddysgu sgiliau newydd yn eithaf cyflym er mwyn cwblhau'r prosiect

Ed yn gosod y llawrFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Ed yn drilio yn y cypyrddauFfynhonnell y llun, Liss Edwards

Rhannu camgymeriadau ar Instagram

Roedd y pâr yn gwbl ddi-glem ar ddechrau'r her, ond gyda help fideos ar y cyfryngau cymdeithasol o brosiectau tebyg pobl eraill, mae'r fan wen wedi ei thrawsnewid yn gartref symudol clud, gyda seddau ychwanegol, pedwar gwely, digon o le storio a lloriau a waliau newydd. Roedd yn fedydd tân go iawn, meddai Liss!

"Doedd gennyn ni ddim y sgiliau, a doedd ganddon ni ddim hanner y tŵls! Dydyn ni erioed wedi gwneud dim fel hyn o'r blaen.

"Roedd hi reit scary torri tyllau yn y fan. Rydyn ni wedi torri chwech ar gyfer y ffenestri, ac un yn y to i osod ffan. Roedden ni'n chwerthin... 'sa ti ddim yn torri to haul dy hun yn dy gar, na faset?!"

Liss drwy dwll yn y toFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid bod yn ddewr wrth fyd ati i wneud tyllau yn y fan - ond mae popeth wedi gweithio yn y pendraw, diolch byth!

Ond er eu bod nhw wedi dechrau'r broses heb fawr o syniad beth oedd o'u blaenau, maen nhw wedi dysgu llawer, ac yn ffodus, dydy gymaint â hynny ddim wedi mynd o'i le, meddai.

"Mae e'r bluff mwya erioed! Mae Dad wedi bod yn dod i ymweld, ac roedd ein gwylio ni wrthi yn eithaf poenus iddo, achos mae e wedi hen arfer gyda thŵls, a roedd e'n aml yn gweiddi arnon ni i stopio, achos bod e'n dweud bod ni am ddifetha'r fan!

"Sgriwiodd Ed drwy ochr y fan un tro, achos roedd e wedi anghofio bod wal y fan yn deneuach na wal tŷ!

"Ac wrth greu'r ffenestri, defnyddion ni ryw stwff anghywir 'naeth olygu fod y ffenest ddim wedi ei ludo i mewn yn iawn.

"Wedyn cawson ni dwll mewn ffenest arall, a doedd dim modd cael un newydd am bythefnos, felly dros y Nadolig, roedd ganddon ni ddau dwll mawr yn y fan ac roedd hi'n tywallt y glaw. Felly roedd hynny'n eithaf stressful!

Y fan fel yr oedd, a fel mae hi nawrFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fan wen wedi ei thrawsnewid yn llwyr y tu mewn

"Ond wir, fel arall, mae popeth wedi mynd yn eithaf llyfn ar y cyfan."

Ac mae'r pâr wedi cofnodi'r cwbl - y da a'r drwg - ar y cyfryngau cymdeithasol, a bellach mae gan eu cyfrif Instagram WelshVanLife, dolen allanol dros 13,000 o ddilynwyr, ac o bosib yn ysbrydoli eraill i ymgymryd â her debyg.

Antur gyffrous

Ynghyd â byw mewn gwlad newydd, bydd y plant yn dechrau mewn ysgol newydd hefyd, a fydd yn dipyn o newid byd iddyn nhw, gan eu bod yn mynychu ysgol Gymraeg ar hyn o bryd.

Ond mae'r teulu yn gyffrous am yr antur sydd o'u blaenau, ac am y cyfle i gael teithio yn eu camperfan newydd a dod i adnabod eu cartref dros dro.

Leyla, Liss, Charlie ac EdFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu yn edrych 'mlaen at eu hantur newydd

"Dim ond dwy flynedd fydd e, a bydd hynny'n mynd heibio mor gyflym," meddai Liss.

"Dwi eisiau crwydro'r ynys, mynd oddi ar y beaten track a gweld y Cyprus go iawn, felly bydd y fan yn handi iawn ar gyfer hynny. Gallwn ni fynd am y penwythnos i Ayia Napa neu Paphos neu dros y ffin i Dwrci ac aros yn y fan.

"Dydyn ni erioed wedi gyrru yn Ewrop o'r blaen, felly 'dy'n ni'n edrych 'mlaen i weld beth sydd i'w weld."

Tu mewn y fanFfynhonnell y llun, Liss Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Y fan yn barod am yr antur!

Mae'r fan bellach wedi ei chwblhau, a dim ond ychydig o baratoadau munud olaf sydd ar ôl i'w gwneud i'r teulu cyn ffarwelio â Chymru fach.

Mae rhan fwyaf o eiddo'r teulu – fel dillad, sosbenni, rhewgell a beics y plant – ar y ffordd i Cyprus yn barod, wedi cael eu cludo yno ar long.

Ond fydd honno ddim yn cyrraedd pen ei thaith am rai wythnosau ar ôl i'r teulu gyrraedd, felly mae angen pacio hanfodion a dillad i bara'r cyfnod teithio ac ychydig hirach.

Wrth gwrs, mae'r lle yn gyfyng ar y fan, ac mae angen lle i ddillad milwrol Ed hefyd, felly mae llawer o waith jig-sô, ond mae'r cyfan werth o, meddai Liss.

"Mae'r mental load wedi bod yn enfawr, i sortio hyn i gyd mewn pryd, a byddai pob teulu arall jest yn mynd ar awyren; byddai hynny wedi bod yn symlach!

"Ond dwi'n hoffi her – clywed bod ni methu gwneud rhywbeth, a phrofi y gallwn ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.