Sêr Star Wars Cymraeg ar y carped coch wrth ddangos ffilm am y tro cyntaf

Cafodd Star Wars: Gobaith Newydd ei dangos am y tro cyntaf mewn première arbennig yng Nghaerdydd nos Iau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Star Wars: Gobaith Newydd ei dangos am y tro cyntaf mewn première arbennig yng Nghaerdydd nos Iau

GanIolo Cheung
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae sêr fersiwn Gymraeg newydd o Star Wars wedi bod ar y carped coch wrth i'r ffilm gael ei dangos am y tro cyntaf nos Iau.

Cafodd 'Star Wars: Gobaith Newydd' – fersiwn o ffilm wreiddiol Star Wars o 1977 – ei dangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd.

Bydd y ffilm Gymraeg, sy'n cynnwys lleisiau actorion fel Matthew Rhys a Rhys Ifans, yn cael ei darlledu'n gyhoeddus am y tro cyntaf ddydd Nadolig ar S4C.

Cyn y digwyddiad, cyfaddefodd un actor, Llyr Ifans bod y syniad o Star Wars Cymraeg yn un "reit od" i ddechrau, cyn deall bod y stiwdio ryngwladol y tu ôl iddi yr un mor frwdfrydig amdani ag S4C.

Yn ôl un o'r actorion eraill ar y carped coch, Osian Morgan - llais cymeriad Luke Skywalker, mae'n "anrhydedd llwyr" lleisio cymeriad mor eiconig.

Stormtroopers ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026 adeg cyhoeddi fersiwn Gymraeg o Star WarsFfynhonnell y llun, S4C

Bron i hanner can mlynedd ers i 'Star Wars: A New Hope' gael ei rhyddhau, mae'r bydysawd ffuglen-wyddonol a greodd George Lucas yn parhau i fod yn un o'r cyfresi ffilm mwyaf adnabyddus yn fyd-eang.

Dyma fydd y tro cyntaf i ffilm Star Wars gael fersiwn yn y Gymraeg, gydag actorion yn lleisio rhannau'r cymeriadau gwreiddiol.

"Mae mor gyffrous, hefyd i bobl ifanc a phobl sy'n dysgu Cymraeg, bod gyda nhw rywbeth fel Star Wars i allu uniaethu efo, ac uniaethu gyda'r cymeriadau mor eiconig," meddai Osian.

Osian Morgan, sy'n chwarae rhan Luke Skywalker
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "anrhydedd llwyr" lleisio cymeriad mor eiconig â Luke Skywalker, meddai Osian Morgan

Ychwanegodd: "Dwi'n cofio'r effaith gafodd Luke Skywalker ar fy mywyd i pan o'n i'n fach.

"Felly do'n i ddim yn teimlo bod rhaid i fi drio bod yn unigryw fel Osian, y cyfrifoldeb oedd i drio efelychu Mark Hamill gymaint â phosib.

"Ac o'n i wastad yn teimlo'n reddfol bod acen [Luke Skywalker] yn mynd i ddod o'r de, ac acen Darth Vader [cymeriad Mark Lewis Jones] yn mynd i swnio'n well yn ogleddol!"

Mark Lewis Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mark Lewis Jones sy'n lleisio'r dihiryn Darth Vader yn fersiwn Gymraeg Star Wars

Mae Mark Lewis Jones, sy'n lleisio Darth Vader, yn dweud bod cael chwarae un o ddihirod mwyaf eiconig y sinema yn brofiad gwahanol iawn i'r arfer.

"Mae'n braf gallu recordio'r llais heb orfod treulio oriau yn cael gwneud fy ngholur," meddai.

Ychwanegodd fod acen Rhosllannerchrugog yn addas iawn ar gyfer ochr dywyll y Grym.

"Mae rhywbeth am yr acen sy'n siwtio'r ochr dywyll," meddai. "O'n i hefyd yn cymryd tipyn o ysbrydoliaeth o lais gwreiddiol James Earl Jones wrth greu fy fersiwn i o Darth Vader."

Mae enwau adnabyddus eraill yn chwarae rhai o'r prif gymeriadau, gan cynnwys Matthew Rhys (Han Solo), Rhys Ifans (Obi-Wan Kenobi), ac Aimee-Ffion Edwards (Y Dywysoges Leia).

Ymhlith y cast lleisio ehangach mae'r actorion Nia Roberts, Ioan Hefin, Richard Harrington, Owain Arthur, Rhodri Meilir, Richard Elfyn a Steffan Donnelly, tra bod yr addasiad wedi'i gyfarwyddo gan Ellyn Stern.

Ella Griffiths, Cadi Gwyn, mai ambler
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ella, Cadi a Mai wedi dod o Abertawe i wylio

"O'n i'n meddwl gynta pam bod S4C isio 'neud Star Wars yn y Gymraeg, mae hyn yn reit od," cyfaddefodd Llyr Ifans, sy'n lleisio cymeriad C-3PO.

"Ond wedyn dim nhw sydd wedi ariannu fo i gyd, mi naeth Lucasfilm ddau fersiwn draw yn America gydag ieithoedd brodorol.

"Felly fe benderfynon nhw 'neud un mewn iaith frodorol arall, a dyma rhywun Cymraeg oedd yn gweithio'n reit uchel i fyny yn Lucasfilm yn troi rownd a deud 'pam wnawn ni ddim 'neud o'n Gymraeg?'

"Felly dyma nhw'n cysylltu efo S4C, a dyma ni."

Poster arbennig wedi cael ei greu gan y dylunydd graffeg o Gaerdydd, Matt Needle, i ddathlu fersiwn Gymraeg Star WarsFfynhonnell y llun, Matt Needle/S4C/Lucasfilm/Cymru Greadigol
Disgrifiad o’r llun,

Mae poster arbennig wedi cael ei greu gan y dylunydd graffeg o Gaerdydd, Matt Needle, i ddathlu fersiwn Gymraeg Star Wars

Cafodd cyhoeddiad am fersiwn Gymraeg y ffilm ei gwneud yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac yn ôl cyd-lywydd Lucasfilm Lynwen Brennan, roedd y cwmni'n awyddus i ehangu darpariaeth ieithyddol bydysawd Star Wars.

"Fel rhywun gafodd ei geni a'i magu yng Nghymru, roedd gweld ymateb y gynulleidfa i eiliadau eiconig Star Wars yn cael eu hadrodd yn y Gymraeg yn foment o falchder mawr," meddai.

Ychwanegodd prif weithredwr S4C, Geraint Evans fod partneru gydag "un o'r masnachfreintiau ffilm fwyaf eiconig a dylanwadol erioed yn fraint aruthrol".

"Mae'n gyfle unigryw i gyflwyno'r Gymraeg i gynulleidfaoedd ledled y byd, gan arddangos Cymru a'i doniau creadigol eithriadol ar lwyfan byd-eang," meddai.

Llyr Ifans, sy'n lleisio cymeriad C-3PO, gyda'r StormtroopersFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Llyr Ifans gyda'r Stormtroopers yn nigwyddiad cyhoeddi'r ffilm ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst

Fyddai Osian Morgan yn "sicr ddim yn dweud na" i leisio Luke Skywalker os oedd rhagor o gynyrchiadau Star Wars Cymraeg yn cael eu comisiynu yn y dyfodol.

Ond oes unrhyw ffilmiau eraill o fyd ffuglen-wyddoniaeth neu ffantasi yr hoffai weld yn y Gymraeg hefyd yn y dyfodol?

"Falle Lord of the Rings? Byddai'n ffansïo fy hun bach fel Gandalf ond 'sa i'n credu mod i'n ddigon hen a doeth i chwarae Gandalf - falle Bilbo Baggins yn lle!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.