Y BBC yn canslo rhifyn Nadolig eleni o'r gyfres Doctor Who

Roedd bwriad i ddarlledu rhifyn arbennig o Doctor Who y Nadolig yma ond mae penderfyniad nawr i'w ganslo er mwyn buddsoddi yn nyfodol y gyfres
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi dweud bod pennod Nadolig cyfres Doctor Who eleni, oedd eisoes wedi ei chyhoeddi, wedi cael ei chanslo.
Dywed y gorfforaeth fod y penderfyniad wedi ei wneud "yn dilyn ystyriaeth ofalus" ar y cyd ag arweinydd creadigol y gyfres - y Cymro Russell T Davies - a'r cwmni cynhyrchu o Gaerdydd, Bad Wolf.
Fe ddaw'r cyhoeddiad yn dilyn dyfalu ynghylch dyfodol y gyfres, a ddaeth i fodolaeth yn 1963.
Fe fydd yn cael ei rhoi allan i dendr cystadleuol eleni fel rhan o ofynion siarter y gorfforaeth.
Caerdydd yw cartref y rhaglen ers 2005.

Billie Piper yn yr olygfa yn rhifyn ddiwethaf y gyfres wedi ailffurfiad diweddaraf y cymeriad Doctor Who
Dywedodd y BBC mewn datganiad: "Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad yma, a gwyddwn y bydd yn siomedig i wylwyr selog...
"Er mwyn trefnu'r rhaglen ar gyfer cyfresi'r dyfodol, penderfynwyd yn hytrach nac i lenwi'r bwlch gyda rhifyn unigol arbennig, rydym yn dewis i fuddsoddi yn nyfodol hir dymor y rhaglen sy'n sicrhau pryd bynnag y bydd y TARDIS yn glanio unwaith yn rhagor fe fydd yn gwneud yn ei holl ysblennydd."
Ychwanegodd fod y gyfres "yn parhau yn rhan bwysig o'r BBC" a bod y broses dendro newydd "yn tanlinellu ymroddiad parhaus y BBC i Doctor Who gan sicrhau y bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau'r rhaglen am flynyddoedd i ddod".
Fe fydd manylion y broses dendro'n cael ei chyhoeddi maes o law.
Mae gwaith cynhyrchu yn mynd ymlaen ar hyn o bryd yn achos cyfres animeiddiedig newydd o Doctor Who ar gyfer y sianel deledu i blant CBeebies.

Russell T Davies sy'n cael ei ystyried yn bennaf gyfrifol am roi bywyd newydd i'r gyfres ers ei dyfodiad yn 2005 wedi bwlch o dros ddegawd
Ddydd Mercher, fe gyhoeddodd Russell T Davies ei fod yn gadael y rhaglen.
Wrth nodi ar ei gyfrif Instagram, fe ddywedodd: "Ac felly HWYL FAWR i Doctor Who gen i a HELO i ddyfodol mawr newydd i'r sioe, wrth i'r BBC gyhoeddi bod y sioe yn mynd allan i dendr.
"O ganlyniad, fydd dim sioe Nadolig arbennig - wnaethon ni ond ddyfeisio honno i sicrhau dyfodol pan doedd neb yn gwybod beth fyddai'n digwydd, ond nawr ein bod, does dim mo'i hangen.
"Bydd yn rhaid i chi aros am ychydig yn hirach am Doctor Who newydd... ond byddwch chi'n aros am FWY na rhaglen one-off felly mae'n werth e.
"Er mwyn i bawb gael gwybod, doedd dim sgript... a dim cais i unrhyw actor fod y Doctor Who nesaf.
"Rwy' mor gyffrous ag unrhyw un i weld be ddaw nesaf..."
Doctor Who wedi cyfrannu'n sylweddol i economi Cymru
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
Actor o Fôn yn gwireddu breuddwyd ar Doctor Who
- Cyhoeddwyd11 Mai 2024
Dywedodd yr adolygydd ffilmiau, ac un o ddilynwyr Dr Who, Gary Slaymaker fod y newyddion yn "ergyd fawr i Gaerdydd i ddechrau".
"Mae [Caerdydd] wedi bod yn rhan hanfodol o lwyddiant Dr Who ers iddo ddod 'nôl yn 2005.
"Mae pobl yn ei wylio ddwywaith - yn gyntaf i adnabod y lleoliadau yng Nghaerdydd ac yna'r stori.
"Mae'r rhain yn gynyrchiadau sy'n rhedeg trwy'r flwyddyn, ac yn sydyn does dim gwaith arnoch chi.
"Mae'n anodd iawn i bobl yn y diwydiant teledu yn barod. Mae colli cyfres a franchise fel hyn am fod yn ergyd fawr.
"Mae yn gwneud i chdi bryderu am ddyfodol y brifddinas."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.