Barnwr yn mynnu atebion ar ôl rhyddhau dyn 'peryglus iawn' ar fechnïaeth

Martin EdwardsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfaddefodd Martin Edwards i wneud bygythiadau i ladd, ymddwyn yn dreisgar, a bod â chyllell mewn man cyhoeddus, ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach yn dilyn y cyhuddiad o dreisio

  • Cyhoeddwyd

Mae barnwr wedi mynnu esboniad gan Heddlu Gogledd Cymru ar ôl i ddyn "peryglus iawn", wedi'i gyhuddo o dreisio menyw, gael ei ryddhau ar fechnïaeth er iddo fygwth ei "thorri'n ddarnau bach".

Cafodd Martin Edwards, 41 oed, ei arestio ym mis Mawrth, a dywedodd wrth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi ddim yn mynd i adael iddi ddweud fy mod i wedi ei threisio", cyn bygwth y byddai'n "dod o hyd iddi" ac yn ei "chladdu".

Ar ôl cael ei ryddhau ar fechnïaeth, fe aeth ymlaen i fygwth llofruddio'r fenyw tra oedd ganddo gyllell yn Llandudno cyn i gyn-filwr ymyrryd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison fod yr heddlu'n "ymwybodol o sylwadau'r barnwr yn yr achos hwn, sy'n amlwg yn peri pryder, ac rydym wrthi'n adolygu'n llawn yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad".

'Methiant llwyr' yn yr achos hwn

Tra oedd yn y ddalfa, ailadroddodd Martin Edwards, sydd heb gyfeiriad sefydlog, y bygythiadau gan ddweud: "Cyn gynted ag y bydda i'n cael fy rhyddhau ar fechnïaeth, dwi'n mynd i ddod o hyd iddi a'i thorri'n ddarnau bach", ac y byddai'n ei "chladdu".

Yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd y Barnwr Simon Mills: "Mae angen amddiffyn rhywun sy'n honni iddi gael ei threisio ac ni ddylai pobl fod yn rhydd i gerdded allan o orsaf heddlu ar ôl dweud wrth swyddog heddlu 'Dwi'n mynd i'w lladd hi'."

Ychwanegodd: "Mae'n ymddangos bod methiant llwyr wedi bod yn yr achos hwn.

"Alla i ddim deall sut y cafodd y dyn yma ei ryddhau o'r ddalfa ar ôl dweud ei fod yn mynd i lofruddio rhywun oedd yn honni iddi gael ei threisio."

Dywedodd y barnwr fod yr heddlu wedi rhybuddio Martin Edwards i beidio â gwneud y bygythiadau, ond iddo ymateb "Does dim ots gen i", cyn mynd allan gyda chyllell gegin fawr o fewn "cyfnod byr ar ôl gwneud y bygythiadau".

Yn ystod y digwyddiad, ymyrrodd cyn-filwr drwy gymryd y gyllell oddi ar Martin Edwards er mwyn tawelu'r sefyllfa.

Cysylltodd y cyn-filwr â'r heddlu i roi gwybod am "fygythiad i fywyd", ond dywedodd ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei "anwybyddu".

'Angen sicrwydd na all rhywbeth fel hyn ddigwydd eto'

Dywedodd yr erlynydd, Selda Krasniqi, fod oedi o fwy na 24 awr cyn i swyddogion gyrraedd, a bod y cyn-filwr yn dal i fod ag "arf llofruddiaeth posibl" yn ei feddiant.

Dywedodd y Barnwr Simon Mills fod y tyst wedi dangos "ysbryd cyhoeddus arbennig" ac y gallai "o bosibl fod wedi achub targed ymddygiad Edwards rhag niwed difrifol".

Dywedodd yr erlyniad fod y cyn-filwr, oherwydd difrifoldeb y sefyllfa a'r diffyg ymateb, wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i Heddlu Gogledd Cymru ac wedi cysylltu â'i Aelod Seneddol.

Dywedodd fod y digwyddiad wedi "effeithio ar fy hyder i ddibynnu ar y gwasanaethau brys pan fo bygythiad uniongyrchol i fywyd".

Cyfaddefodd Martin Edwards iddo wneud bygythiadau i ladd, ymddwyn yn dreisgar, a bod â chyllell mewn man cyhoeddus.

Dywedodd y barnwr na chymerwyd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â'r honiad o dreisio.

Dywedodd yr amddiffyniad fod gan Martin Edwards anaf i'r ymennydd a sgitsoffrenia paranoiaidd, a bod ei gyflwr meddyliol yn effeithio ar y ffordd yr oedd yn ymateb pan oedd yn teimlo ei fod wedi cael cam.

Dywedodd y Barnwr Simon Mills: "Mae angen i mi gael rhyw sicrwydd na all rhywbeth fel hyn ddigwydd eto."

Cafodd Martin Edwards ei garcharu am dair blynedd ac wyth mis.

Gan ei ddisgrifio fel dyn "peryglus iawn", ychwanegodd y barnwr bum mlynedd at gyfnod ei drwydded.

Cafodd gorchymyn atal am 15 mlynedd hefyd ei osod.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Harrison: "Byddwn yn ymateb yn uniongyrchol i'r llys maes o law, ac felly ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."