Ben Davies yn arwyddo cytundeb newydd gyda Tottenham

Ben Davies i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyrhaeddodd Ben Davies 100 o gapiau i Gymru ym mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro, Ben Davies, wedi ymrwymo i glwb pêl-droed Tottenham Hotspur am dymor arall.

Ar ôl arwyddo cytundeb newydd blwyddyn o hyd, bydd yr amddiffynnwr profiadol yn aros yn Llundain tan ddiwedd y tymor nesaf.

Roedd ei gytundeb presennol yn dod i ben ar ddiwedd y mis ac roedd disgwyl iddo adael y clwb.

Bellach yn 33 oed, bydd y diweddaraf yn sicrhau mai dyma fydd ei 12fed tymor yn chwarae i Spurs, ar ôl symud yno o glwb Abertawe yn haf 2014.

Bu'n chwaraewr allweddol i'r clwb dros y blynyddoedd ac maent yn gweld gwerth i'w arweinyddiaeth yn ystod tymor cyntaf Roberto de Zerbi fel rheolwr yno.

Torrodd Davies ei ffêr fis Ionawr a wnaeth gyfyngu ei ymddangosiadau i Tottenham a Chymru hefyd.

Mae wedi chwarae 363 o gemau i'r clwb (gan gynnwys pob cystadleuaeth), gan sgorio 10 gôl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.