Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu Plaid Cymru am wthio annibyniaeth

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

"Felly fy neges i Rhun ap Iorweth heddiw ydy - i fwrw ymlaen gyda llywodraethu," meddai Darren Millar

  • Cyhoeddwyd

Mewn araith ddydd Sul, mi fydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud wrth Brif Weinidog Cymru i fwrw ymlaen gyda llywodraethu, yn hytrach na chanolbwyntio ar y posibilrwydd o annibyniaeth.

Yn y gynhadledd Geidwadol yn Birmingham, mae disgwyl i Darren Millar ddweud bod "Prydain angen Badenoch" a chadarnhau bod ei blaid yn gefnogol o'r DU.

Daw hyn ar ôl i Rhun ap Iorwerth alw am "fargen newydd" i Gymru gyda Llywodraeth y DU mewn cynhadledd Plaid Cymru a dweud nad oes "troi yn ôl" ar y daith annibyniaeth.

Bydd Mr Millar yn dweud yn ei araith bod ei blaid wedi ymrwymo i gadw'r DU gyda'i gilydd ac y dylai etifeddiaeth gael ei ddefnyddio i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

Mi ddychwelodd Darren Millar i Senedd fwy (96 aelod) ar ôl yr etholiad fis Mai, yn un o saith AS Ceidwadol - naw yn llai na'r Senedd gynt.

Roedd arolygon barn ar wahanol adegau yn ystod yr ymgyrch etholiadol wedi awgrymu y gallai'r blaid wynebu peidio cael unrhyw Aelodau Seneddol, yn rhannol oherwydd y cynnydd ym mhoblogrwydd Reform yng Nghymru.

Mewn copi o araith Darren Millar, sydd wedi cael ei weld gan BBC Cymru, mae'n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar drwsio gwasanaethau cyhoeddus ac amddiffyn y berthynas rhwng pedair gwlad y DU - gan ddweud na fydd ei blaid "fyth yn caniatáu" i'r undeb gael ei thorri.

"Bydd cynllun i dynnu llen rhwng Cymru a gweddill y DU yn achosi mwy o niwed nag o les i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol," meddai.

Mae'n pwyntio bys at restrau aros y GIG sy'n codi, honiadau bod busnesau Cymreig wedi parhau i gael amser caled ers i Blaid Cymru ddod i bŵer, a bod Rhun ap Iorwerth wedi penderfynu gwneud ffrindiau gyda'r SNP a Sinn Fein yn hytrach - gan gyfeirio at y cyfarfod diweddar yng Nghaerdydd rhwng arweinwyr y tair gwlad.

"Yna mi lofnododd gytundeb i hyrwyddo chwalu ein DU," meddai.

"Mi gafodd yr holl jambori ei fanteisio arno gan weinidog tramor Vladimir Putin, Sergei Lavrov, a wnaeth siarad yn llawen am y posibilrwydd o refferendwmau annibyniaeth ledled y DU.

Y DU yn 'fwy na threfniant gwleidyddol'

"Felly fy neges i Rhun ap Iorweth heddiw ydy - i fwrw ymlaen gyda'r llywodraethu," meddai Darren Millar.

"Mi ddywedodd wrth bleidleiswyr fis Mai nad oedd etholiad y Senedd yn ymwneud ag annibyniaeth.

"Naill ai nad oedd wedi derbyn neges ei hun, neu mi ddewisodd dwyllo pobl yn fwriadol."

Disgrifiodd Mr Millar y DU fel rhywbeth sy'n "fwy na threfniant gwleidyddol", gan ddweud bod pob gwlad wedi helpu i ddatblygu diwydiannau, diddymu'r fasnach gaethwasiaeth, rhyddhau Ewrop a llunio'r byd modern.

"Rydyn ni'n deulu o genhedloedd. Ers canrifoedd, mae pobl Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi byw, gweithio a masnachu gyda'i gilydd.

"Wrth gwrs, mae rhai ar yr adain chwith yn dweud y dylen ni ymddiheuro neu deimlo cywilydd am ein hanes.

"Ond dwi'n dweud ei fod yn etifeddiaeth y dylen ni fod yn falch ohoni, ac y dylen ni ei defnyddio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.