Maggie O'Farrell: 'Eisteddfodau yn rhan fawr o fi'n dod yn awdures'

- Cyhoeddwyd
O ennill nifer o wobrau am ei nofelau i enwebiad Oscar, mae gyrfa Maggie O'Farrell wedi bod yn un disglair.
A dros y flwyddyn ddiwethaf mae ei gwaith wedi dod i'r brig wrth i'r ffilm Hamnet sy'n seiliedig ar ei nofel am fywyd teuluol William Shakespeare ennill nifer o wobrau.
Er ei bod wedi ei geni yn Iwerddon a bellach yn byw yng Nghaeredin, cafodd yr awdures fagwraeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bu'n siarad ar Radio Wales Breakfast am ddylanwad Cymru ar ei bywyd a'i gyrfa, sy' wedi cynnwys ysgrifennu nofelau fel The hand that first held mine a The Marriage Portrait.
Meddai: "Un peth dwi'n cofio'n glir iawn, yn arbennig am fy addysg ysgol cynradd yng Nghymru, yw fod na bwyslais mawr ar y celfyddydau a diwylliant a 'nes i ddim mewn gwirionedd werthfawrogi hynny nes i fi symud i ffwrdd.
"O'n i jest yn meddwl mai dyna oedd yn digwydd mewn ysgolion."
Aeth Maggie i Ysgol Gynradd Hencastell ac yna am dair mlynedd bu'n mynychu Ysgol Brynteg.
Meddai am ddylanwad yr addysg: "Bob bore oedden ni'n canu emynau am amser hir ac roedden ni'n cael ein hannog i ysgrifennu barddoniaeth ac i adrodd straeon.
"Ac mi gafon ni eisteddfodau ysgol bob blwyddyn lle'r oedd pawb yn canu ac yn chwarae offerynnau.
"Ac mae hynny wedi bod yn rhan fawr o fi'n dod yn awdures, dwi'n siŵr."

Ffilm Hamnet gyda Jessie Buckley
Felly ydy Maggie, sy' wedi gweld ei gyrfa'n gweddnewid yn dilyn llwyddiant y ffilm Hamnet, yn ystyried ei hun yn rhannol Gymreig?
Meddai: "Cefais i fy ngeni yn Iwerddon a symudon ni i Ben-y-bont ar Ogwr pan o'n i'n blentyn ifanc. Cefais fy mhlentyndod i gyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
"Ac yna symudon ni i'r Alban pan o'n i tua 13 neu 14 oed. Felly mae 'na ran ohona i sy'n Gymreig yn sicr."
Gyda chynlluniau ar y gweill i wneud ffilm o'i nofel diweddaraf, Land, am Iwerddon, mae Maggie yn amlwg wedi ei dylanwadu gan ei gwreiddiau.
Meddai: "Ti'n methu ysgrifennu am Iwerddon yn y 19eg ganrif heb gynnwys dau beth sef y newyn a rheolaeth trefedigaethol Prydain.
"Roedd y newyn yn eistedd reit yng nghanol y ganrif gyda'r dylanwad tywyll yma. Ac mi oedd Iwerddon ar y pryd yn wladfa.
"Dwi'n siŵr fydd y llyfr yn teimlo'n berthnasol yng Nghymru achos mae gan Gymru, fel Iwerddon, y diwylliant hynafol paganaidd yma ac hefyd llên gwerin fel Iwerddon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd28 Mai
