Manon Steffan Ros: Trio 'nabod Elen Egryn, y bardd pwysig, anghofiedig

Manon Steffan Ros
Disgrifiad o’r llun,

Cynigiodd Manon yr enw 'Llys Elen Egryn' ar gyfer blociau newydd o fflatiau yn Nhywyn

GanManon Steffan Ros
  • Cyhoeddwyd

Mae'r awdur a chyflwynydd rhaglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru, Manon Steffan Ros, wedi bod yn mynd ar drywydd un o feirdd Bro Dysynni sydd wedi cael ei hanghofio.

Dydd Gwener ar drothwy un o'r hafau poethaf i mi 'nabod. Rydw i'n crwydro mynwent Eglwys Llanegryn, y glaw yn bygwth, ac rydw i'n chwilio am fedd rhieni un o'r ffigyrau pwysicaf yn hanes barddoniaeth yng Nghymru.

Un o'r ffigyrau pwysicaf, ond mae'n bosib iawn nad ydych chi wedi clywed amdani erioed.

Ganed Elin Evans yn Llanegryn, Bro Dysynni, yn 1807, a hi oedd y fenyw gyntaf i gyhoeddi casgliad o gerddi yn y Gymraeg. Mae hi'n cael ei hadnabod gyda'i henw barddol, Elen Egryn.

Ond prin iawn mae hi'n cael ei hadnabod o gwbl. A dweud y gwir, mae chwiliad sydyn ar google yn datgelu mai pytiog iawn ydi'r diddordeb ynddi.

Yn ddiweddar, mi gefais recordio rhaglen arbennig o Llwyfan i BBC Radio Cymru; rhaglen sy'n swnio ychydig yn wahanol i'r lleill y bûm i yn eu cyflwyno. Taith bersonol ydi hon, lle dw i'n cael ymchwilio ychydig yn fwy am fywyd Elen. Yn cael ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol, a siarad efo beirdd cyfredol. Rhyw ail-gyflwyno Elen i'r byd, a thrio dallt mwy.

Ceridwen Lloyd Morgan a Manon Steffan Ros
Disgrifiad o’r llun,

Manon gyda Ceridwen Lloyd Morgan; roedd hi'n un o'r rhai tu ôl i benderfyniad Gwasg Honno i ailgyhoeddi cyfrol Elen, Telyn Egryn, yn 1998

Ond mi esgorodd y rhaglen radio ar obsesiwn braidd, a f'arweiniodd i dreulio oriau lu ar wefannau hel achau a gwefannau hanesyddol, yn chwilio am Elen. Yn trio dod i 'nabod rhywun oedd wedi hen fynd.

Ro'n i'n hen gyfarwydd efo'r cerddi, a minnau'n eu darllen yn aml, yn gwirioni efo nhw. Rydw i wedi eu clywed nhw'n cael eu difrio ddigon o weithiau gan ysgolheigion a gwybodusion digon sych; maen nhw'n perthyn yn bendant i arferion barddonol blodeuog y cyfnod.

Ond maen nhw'n ddewr, ac yn hardd, yn sôn am bynciau fel galar, iselder, unigrwydd. Pynciau sy'n digon anodd eu trafod rŵan, yn y cyfnod "goleuedig" yma.

A fedra i ddim peidio â barnu'r rhai sy'n disytyru gwaith Elen mor hawdd; tybed a fyddai pobol mor ddi-hid petai hi'n ddyn?

"I fi, mae gwaith Elen Egryn mor bwysig ac mor rymus"

Ar drywydd Elen Egryn: Llwyfan gyda Manon Steffan Ros

Ro'n i isio llun o Elen.

Dyna i chi beth od, a minnau wedi ei gwerthfawrogi, ac wedi mwynhau ei gwaith, ers cyhyd.

Ar goeden deulu disgynyddion ei brawd, deuthum o hyd o ffotograff o'i brawd, a syllu arno am hir. Ei lygaid o'n crychu yn wyneb ryw haul oedd wedi hen fachlud, yn syllu'n syth drwy'r camera a'r blynyddoedd.

Ac yna, llun o dad Elen, ei ben a'i farf yn wyn, ei ben yn gwyro'r mymryn lleiaf i un ochr. Mae 'na ryw debygrwydd yn llygaid treiddgar y tad a'r mab, a meddyliais innau, wedyn, tybed oedd hynny gan Elen hefyd?

Ond mae hi'n anodd hel gwybodaeth ar ferched na briododd; dydy teulu ddim mor debygol o gadw papurau modryb ag ydyn nhw efo rhiant neu nain neu daid.

A dyma fi, mewn mynwent a hithau'n dechrau pigo bwrw, yn chwilio am fedd rhieni bardd sydd bron iawn â chael ei hanghofio.

Dw i ddim am ddatgelu gormod am yr hyn y dois i wybod am Elen ar fy nhaith.

Ond mi fedra i rannu yn gwbl onest 'mod i ddim yn chwilio am lun bellach. Rydw i'n ei 'nabod hi'n ddigon da heb orfod ei gweld.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.