Episode details

Available for 30 days
Mae hi'n ganrif a hanner eleni ers marwolaeth Elen Egryn, y ddynes gyntaf i gyhoeddi llyfr yn yr iaith Gymraeg. Manon Steffan Ros sy'n dilyn ôl troed y bardd o Lanegryn, a gweld sut mae gwaddol Elen yn parhau heddiw. Mae cyn lleied o wybodaeth yn hysbys am Elen Egryn - nid oes hyd yn oed llun ohoni wedi goroesi. Dyma ymgais i dynnu llun ohoni gyda geiriau, felly, a gwneud yn iawn am y blynyddoedd maith y mae'r ffigwr blaenllaw hwn wedi'u treulio'n angof.
Programme Website