Sioeau amaethyddol angen datblygu er mwyn goroesi - Llywydd Sioe Môn

Tom Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Jones, llywydd Primin Môn eleni, wedi bod yn ymweld â'r Sioe ers 70 o flynyddoedd

GanNia Thomas
BBC Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i sioeau amaethyddol – fel pob busnes arall – newid a datblygu er mwyn goroesi, yn ôl llywydd Primin Môn eleni.

Yn ôl Tom Jones, sy'n gyn-is lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, "dydi aros yn eich unfan ddim yn opsiwn" i ddigwyddiadau o'r fath.

"Os 'da chi'n meddwl mai fel hyn mae hi wedi digwydd ac fel hyn mae hi i fod, wnaiff y fformiwla yna ddim gweithio. Neith hi ddim gweithio i fferm a neith hi ddim gweithio i sioe. Mae'n rhaid i chi ddatblygu a symud ymlaen."

Mae Sioe Môn yn cael ei chynnal ym Mona, ger Gwalchmai ar 11 a 12 Awst.

Mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Tom Jones fod y penderfyniad i brynu safle parhaol i'r sioe 'nôl yn y 1970au wedi bod yn weledigaeth amhrisiadwy.

Esboniodd fod y maes ar gael nid yn unig i'r Primin, ond ar gyfer digwyddiadau eraill hefyd - fel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

"Mi oedd Eisteddfod yr Urdd yma yn ddiweddar ac roedd yr ymwelwyr yn gweld gwerth safle fel hyn i ddigwyddiad mawr," meddai.

"Mae'n rhaid i chi wneud y sioe yn ddeniadol i bobl y tu allan i'r diwydiant. Ar ddiwedd y dydd sioe amaethyddol ydi hi.

"Wrth gwrs ma' pobl tu allan i'r diwydiant yn mwynhau gweld anifeiliaid, ond oherwydd y safle mi ydan ni'n gallu rhoi digwyddiadau y tu allan i amserlen y sioe.

"Ychydig wythnosau nôl roedd 'na ddigwyddiad mawr efo pobl yn cadw cŵn - mae'n rhaid i'r gymdeithas barhau i ddatblygu gwneud hynny, sydd y tu allan i orchwyl amaethyddiaeth, ond wedyn yn ffynhonnell incwm i'r safle er mwyn datblygu."

Mared Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mared Edwards, maen nhw wedi ceisio ymateb i adborth gan ymwelwyr â sioeau blaenorol

Un datblygiad newydd sbon yn Sioe Môn eleni fydd pabell synhwyraidd – gofod fydd yn rhoi cyfle i blant ac oedolion gael saib o brysurdeb a sŵn y maes.

Syniad y llysgennad Mared Edwards oedd y babell, a hynny er mwyn gwneud y digwyddiad yn fwy hygyrch.

"Mae sawl peth wedi ysgogi'r syniad eleni. Ar ôl y sioe bob blwyddyn 'dan ni'n gofyn i bobl adael i ni wybod be sydd ar goll, sut allwn ni wella petha'," meddai Mared.

"Mae sawl un wedi dweud nad oedd 'na ardal ar gyfer plant ac oedolion gydag anghenion ychwanegol i gael seibiant.

"Fel sioe 'dan ni isio sicrhau fod pawb yn gallu dod yma i fwynhau."

Yn ôl Mared, fe fydd 'na staff o Ganolfan Addysg y Bont yn Llangefni yn gweithio yn y babell a bydd cwmni o Sir Caer yn gosod pabell synhwyraidd gyflawn yno.

'Uchafbwynt gwyliau'r haf'

Ychwanegodd Tom Jones ei fod yn cofio ymweld â'r sioe – ar safle gwahanol – 70 mlynedd yn ôl fel plentyn.

"Roedd fy nhad yn cadw gwartheg duon Cymreig ac yn mynd â nhw i'r sioe i'w dangos. Uchafbwynt gwyliau'r haf oedd dod i'r sioe.

"Mae'r blynyddoedd wedi hedfan ond wnaeth y bachgen saith oed 'rioed ddychmygu y byddai'n Llywydd y Primin."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig