Deisebau i 'glywed barn y bobl' - a ddylid caniatáu newid lliw Melin Llynon?

Cafodd Melin Llynon ei phaentio'n liwiau'r Urdd ym mis Mai, ychydig wythnosau cyn i Ynys Môn gynnal Eisteddfod flynyddol y mudiad ieuenctid
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog Melin Llynon ar Ynys Môn yn cyfaddef ei fod wedi torri'r rheolau ar ôl paentio'r adeilad rhestredig - yr unig felin weithredol sydd ar ôl yng Nghymru.
Ym mis Mai fe benderfynodd Richard Holt i baentio'r felin i gyd-fynd â lliwiau Urdd Gobaith Cymru, gan fod Eisteddfod y mudiad ieuenctid ar fin cael ei chynnal ar yr ynys.
Ond mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ei orchymyn i ailbaentio'r adeilad yn wyn cyn gynted â phosibl gan nad yw wedi cael caniatâd i newid yr adeilad rhestredig.
Roedd Mr Holt yn bwriadu ailbaentio'r felin yn ôl i'w lliw gwyn gwreiddiol yn syth ar ôl yr Eisteddfod, ond cafodd ei synnu gan ymateb croesawgar ymwelwyr a phobl leol i'r Felin a'i chot drilliw o baent - felly mae'n cyflwyno deisebau i glywed barn y bobl.
"O'dd 'Steddfod yr Urdd ar Ynys Môn am y tro cynta' mewn 22 mlynedd," meddai Mr Holt.
"Ac yn draddodiadol mae melinau dros y canrifoedd yn cael eu haddurno i nodi achlysuron pwysig."
Mae'n cyfaddef iddo baentio'r adeilad heb hyd yn oed ystyried gwneud cais am ganiatâd.
"'Nes i ddim cweit sylwi bod 'na reolau mor serious, a mae'n ddrwg iawn gen i i Gyngor Ynys Môn.
"Y bwriad yn wreiddiol oedd i baentio fo'n ôl yn wyn, a mi oeddwn i'n fodlon g'neud hynny'n syth ar ôl y 'Steddfod.
"Ond roeddwn i wedi fy syfrdanu gan yr ymateb positif i'r lliwiau newydd, cannoedd wedi dweud eu bod nhw'n licio fo… ond dwi'n dallt bod newid y lliwiau 'chydig bach out there."

Mae Richard Holt yn credu y gall cadw'r lliwiau helpu'r felin i aros ar agor
Ychwanegodd Mr Holt ei fod yn "sylweddoli mai ond g'neud eu gwaith ma' nhw [y cyngor] a dwi'n gwybod 'mod i wedi torri'r rheolau" ond esboniodd fod yr esgid yn gwasgu ar y busnes ar hyn o bryd.
"Dwi yn stryglo ac mae'r gaeaf yn annodd, ond mae paentio'r felin wedi denu mwy o ymwelwyr yma ac wedi helpu fi i dalu'r bills, gan gynnwys bil i Gyngor Ynys Môn."
Esboniodd bod Melin Llynon "mewn lle mor anial, ac anodd i'w ffeindio" gan nad yw'n agos at ffordd yr A55 ond bod y lliwiau newydd wedi sbarduno mwy o ddiddordeb.
"Ma' 'na ddyletswydd arna'i i sicrhau dyfodol y felin ar gyfer y genhedlaeth nesa'," meddai.
Mae Richard nawr wedi llunio dwy ddeiseb – un i bobl lofnodi o blaid cadw'r lliwiau coch, gwyn a gwyrdd ac un arall i bobl sydd am i'r felin ddychwelyd i'w lliw gwyn gwreiddiol.
"'Dan ni am roi'r cyfle i bobl roi eu barn ac wedyn cyflwyno'r deisebau i Gyngor Ynys Môn," meddai.

Dyma liw arferol y felin
Ychwanegodd Mr Holt y bydd y ddwy ddeiseb ar gael i'w llofnodi yn y felin drwy gydol yr haf. Nid yw'r deisebau ar gael i'w llofnodi ar-lein ar hyn o bryd.
Mae hefyd yn dweud ei fod wedi darganfod bod y paent y mae wedi ei ddefnyddio yn baent sy'n gallu anadlu ac felly yn golygu llai o risg i'r adeilad rhestredig.
"Y ddau pwyntiau pwysig maen nhw [y cyngor] yn trio ffeindio allan ydi, yn gynta' y math o baent 'dan ni wedi bod yn ei ddefnyddio a 'dan ni 'di defnyddio un haen o baent, ac wedi edrych ar spec y paent a darganfod ei fod yn baent sy'n anadlu ac felly ddim yn niweidiol i'r adeilad, ac ma'r Cyngor yn edrych fewn i hynny.
"Yr ail fater yw: a ydw i wedi newid cymeriad y felin? Dwi'n dadlau nad ydw i wedi gwneud hynny oherwydd roedd 'na draddodiad mawr dros y canrifoedd o addurno melinoedd i nodi achlysuron arbennig, a dwi'n siwr y bydde'r melinydd cynta' fan hyn yn ôl yn 1776 wedi paentio'r felin yn goch, gwyn a gwyrdd pe bai paent o'r fath ar gael!"
'Dwi'n deall pam bod 'na reolau'
Mae Mr Holt hefyd yn pwysleisio y bydd yn gwneud ei orau i geisio sicrhau dyfodol y felin.
"Dwi'n deall yn iawn pam bod 'na reolau i'w cael... ond dwi 'di g'neud gymaint galla'i i gynnal y felin yma… Os dwi ddim yn g'neud pethau fel hyn, yna mi fydda i'n g'neud colled.
"Dwi ddim isio bod y boi sydd am newid bob adeilad hanesyddol i fod yn lliwgar a ballu, ond mae hwn yn helpu Melin Llynon para o leia' blwyddyn arall.
"Yn y pen draw, dim ond gwneud yr hyn sydd orau i ddyfodol y felin ydw i eisiau.
"Ar ôl gweld y manteision i dwristiaeth dros yr haf hwn â'm llygaid fy hun, bydda i'n bersonol yn llofnodi'r ddeiseb i gadw'r lliwiau.
"Ond peidiwch â gadael i fi ddylanwadu ar eich penderfyniad!"
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn y byddai unrhyw gais yn y dyfodol am ganiatâd adeilad rhestredig yn cael ei benderfynu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, polisi cynllunio a dyletswyddau'r Cyngor i ddiogelu'r amgylchedd hanesyddol.
Byddai sylwadau a chyflwyniadau gan y cyhoedd yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses. Fodd bynnag, yn achos adeilad rhestredig mae ystyriaethau treftadaeth yn cario pwysau sylweddol ac ni fyddai cefnogaeth gyhoeddus yn unig yn gallu penderfynu canlyniad y cais.
Cafodd y Felin ei hadeiladu yn 1776 a 250 o flynyddoedd yn ddiweddarach amser a ddengys sut fydd y melin gwynt yn parhau i edrych.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.