Dyn wedi mynd â'i wraig sâl adref o'r ysbyty dros 'ofnau diogelwch'

Hunlun pen ac ysgwyddau o Julia ac Alan Dutton yn yr awyr agored gyda gwyrddni a rhaeadr yn y cefndirFfynhonnell y llun, Alan Dutton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Julia Dutton wybod yn ddiweddar bod ganddi diwmor yng ngwaelod yr ymennydd sy'n ddiniwed, ond fe all fod yn rhaid iddi gael llawdriniaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae gŵr dynes a gafodd ddiagnosis tiwmor chwarren bitẅidol (pituitary gland) yn dweud ei fod wedi ei symud o'r ysbyty a gofalu amdani gartref gan fod y staff "yn rhy brysur" ac roedd yn poeni am ei diogelwch.

Roedd Alan Dutton, 60, wedi mynd â'i wraig Julia, 63, sydd hefyd â gorbryder difrifol, i Ysbyty Maelor Wrecsam am ei bod wedi dadhydradu, ac mae'n dweud ei fod wedi dod o hyd iddi mewn maes parcio gyda phibell yn dal mewn gwythïen.

Eisteddodd wrth ei gwely wedi hynny am 28 awr cyn mynd â hi adref am ei fod yn "ofni gormod" i'w gadael yno ar ei phen ei hun, gan ddweud bod awr wedi mynd heibio heb i'r un aelod o staff ddod i'w gweld.

Dywed y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am yr ysbyty na allen nhw drafod achos Mrs Dutton ond eu bod yn annog cleifion i roi gwybod os nad ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi cael gofal da er mwyn deall ble mae angen "cryfhau gwasanaethau".

Dywed Mr Dutton, o bentref Burton ger Wrecsam, i'w wraig gael gwybod ddechrau Gorffennaf fod ganddi diwmor diniwed (benign) a chafodd ei chyfeirio at Ysbyty Walton, Lerpwl ar gyfer llawdriniaeth bosib.

Mae un o symptomau'r cyflwr, meddai, yn amharu ar ei gallu i wybod pa bryd mae angen bwyta ac yfed, gan arwain at sawl ymweliad i'r adran frys.

Ond mae Mr Dutton yn amharod bellach i fynd â hi i'r adran frys leol wedi iddi allu crwydro yn ddiweddar tra yng nghanol cael triniaeth, a chael ei gadael, fwy neu lai, ar ei phen ei hun yn yr uned penderfyniadau clinigol.

"Ffoniodd [Julia] fi i ddweud 'dwi wedi cael drip, dwi'n dod adref'," meddai Mr Dutton.

"Neidiais i'r car, gyrru i'r ysbyty a dod o hyd iddi'n sefyll y tu allan i A&E gyda'i bag yn barod i fynd adra."

Ond pan welodd bod tiwb yn dal ynddi, roedd yn glir nad oedd wedi cael ei rhyddhau'n swyddogol i fynd adref.

"Wnes i siarad gyda'r nyrsys a dweud... 'Gallech chi ddim gadael i glaf bregus gerdded allan.. mae hi dan eich gofal. Dydy hyn ddim yn ddigon da."

Arwydd ger prif fynediad Ysbyty Maelor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alan Dutton iddo ddod o hyd i'w wraig ym maes parcio Ysbyty Maelor er ei bod yng nghanol cael ei thrin

Mae Mr Dutton yn honni bod y staff "heb wneud llawer" oni bai am fynd â hi'n ôl i'r ystafell driniaeth a'i hailgysylltu â hylifau.

Cafodd ei symud i'r Uned Penderfyniadau Clinigol ac fe arhosodd Mr Dutton wrth ei hochr drwy'r nos a than gyda'r nos y diwrnod canlynol.

Dywed ei fod yn ofni unwaith yn rhagor nad oedd yn cael ei monitro'n briodol, gyda chyfnodau hir heb i aelod o staff ddod i'w gweld.

"Doedd dim digon o nyrsys, cymorthyddion gofal iechyd na gwlâu," meddai. "Roedd Julia, fel cleifion eraill, ar droli yr holl amser."

Teimla mai rheolaeth annigonol oedd i gyfri am y sefyllfa, yn hytrach na'r aelodau staff, oedd yn ymweld fel pe bae nhw "mewn cylch cythreulig na allen nhw, mae'n ymddangos, ddod allan ohono".

Gynted ag y llwyddodd Mrs Dutton i fwyta ychydig y diwrnod canlynol, dywed Mr Dutton iddo benderfynu "i'w chael hi allan" o'r ysbyty, er bod bwriad i gynnal profion ychydig ddyddiau'n ddiweddarach".

Alan a Julia Dutton yn eistedd mewn man cysgodol o bren gyda choed yn y cefndirFfynhonnell y llun, Alan Dutton

Dywed Mr Dutton fod sicrhau bod ei wraig yn bwyta ac yn yfed gartref "yn her 24 awr y dydd", a bod y posibilrwydd o orfod mynd eto i adran ddamweiniau ac achosion brys sydd dan bwysau "yn destun pryder".

Ond mae'n dweud bod dim ffordd arall o gael gofal brys arbenigol, er i rai clinigwyr gytuno ag ef nad dyna'r lle mwyaf priodol iddi fod.

Mae'n canmol y timau endocrinoleg ac iechyd meddwl sy'n rhoi gofal i'w wraig fel claf allanol, ond mae'n teimlo bod yna ogwydd o fewn y system bresennol sy'n golygu bod cleifion yn aml yn gorfod mynd trwy adran frys i gael mynediad at ofal.

Mae Mr Dutton nawr yn bwriadu cwyno'n swyddogol i'r bwrdd ynghylch rheolaeth Ysbyty Maelor, prinder staff a gwlâu a phryderon dros ddiogelwch cleifion.

Ond mae'n ddiolchgar i staff yr ysbyty "sydd wir yn gweithio dan amgylchiadau anodd iawn".

"Maen nhw'n gwneud popeth y gallen nhw - y broblem yw'r system maen nhw'n gweithio ynddi."

Arwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd y gogledd, wedi bod dan fesurau arbennig ers naw mlynedd.

Yn ddiweddar fe gafodd y bwrdd "gyfle olaf" i wella gwasanaethau gan y Gweinidog Iechyd newydd, Mabon ap Gwynfor, ac y byddai grŵp annibynnol yn archwilio i broblemau'r bwrdd gyda'r nod o gyhoeddi adroddiad erbyn diwedd Hydref.

Mewn ymateb i bryderon Mr Dutton, dywedodd Prif Swyddog Gweithredu'r bwrdd Tehmeena Ajmal na allai drafod yr achos unigol, ond yn gyffredinol "ein prif flaenoriaeth" yw sicrhau fod bod pob claf yn teimlo eu bod wedi cael gofal da.

"Mae'n ddrwg iawn gennyf os yw unrhyw un yn teimlo nad dyna oedd eu profiad," meddai.

"Rydym eisiau i gleifion drafod gyda ni a dweud wrthym ble maen nhw'n teimlo y gellid fod wedi gwella'r gofal.

"Rydym yn nodi pob cysylltiad sy'n ein helpu i ddeall ble gallwn ni gryfhau gwasanaethau, pan fo angen hynny, ac / neu ganfod datrysiadau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.