Dirgelwch yn parhau am farwolaeth dyn oedd ar goll am 20 mlynedd

Roedd Russell Scozzi wedi bod ar goll ers Mai 2002
- Cyhoeddwyd
Mae'r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth dyn a gafodd ei ganfod 20 mlynedd ar ôl mynd ar goll yn parhau'n ddirgelwch, clywodd cwest.
Cafodd gweddillion corff Russell Scozzi, oedd yn 44 oed pan aeth ar goll yn 2002, eu darganfod gan ddyn oedd yn chwynnu ei ardd yn y Mwmbwls ym mis Ebrill 2022.
Cafodd Mr Scozzi, dylunydd graffeg, ei weld olaf yng ngorsaf fysiau'r Quadrant yn Abertawe, ym misoedd Mawrth a Mai 2002.
Bu farw dyn o ganlyniad i nifer o doriadau i'w esgyrn, ond mae'r ffordd y digwyddodd hynny yn parhau i fod yn ddirgelwch.
Clywodd y cwest yn Neuadd y Ddinas Abertawe bod yn rhaid ei adnabod trwy ddefnyddio cofnodion deintyddol.
Canfod gweddillion corff dyn sydd wedi bod ar goll ers 2002
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023
Dywedodd y Ditectif Sarjant Sara Herbert yn y gwrandawiad bod yr ymchwiliad wedi dilyn sawl trywydd dros y blynyddoedd, gan gynnwys y posibilrwydd bod Mr Scozzi wedi cael ei herwgipio gan werthwyr cyffuriau.
"Ni chafodd unrhyw beth ei ganfod i gefnogi'r ddamcaniaeth ei fod wedi cael ei herwgipio," meddai, gan ychwanegu mai "sibrydion a dyfalu oedd y cyfan".
Roedd gan Mr Scozzi radd, ac roedd yn medru siarad Ffrangeg a Sbaeneg.
Bu dramor yn gweithio fel dyluniwr graffeg ac yna fel rhaglennwr cyfrifiaduron ym maes hysbysebu. Roedd wedi priodi ac wedi cael mab a merch.
Clywodd y cwest ei fod wedi mynd yn gaeth i gocên a heroin a bod ganddo ddyledion o tua £16,000.
Dywedodd rhai oedd yn ei adnabod wrth yr heddlu ei bod hi'n bosib bod dau werthwr cyffuriau o Fryste, yr oedd pres yn ddyledus iddynt, wedi ei herwgipio.
Ni ddaeth yr heddlu o hyd i unrhyw dystiolaeth o hynny.
'Cyfle i'w alaru'n iawn'
Dywedodd ei chwaer, Danielle Scozzi-Owens, fod y golled wedi "llorio" y teulu.
Ddwy flynedd ar ôl iddo ddiflannu, dywedodd hi wrth y BBC fod cael aelod o'r teulu ar goll yn gwaethygu wrth i amser fynd yn ei flaen.
"Mae'n anodd disgrifio'r ansicrwydd.
"Rydych chi'n meddwl bob dydd ei fod ar fin ymddangos. Mae pob diwrnod yn mynd yn anoddach," meddai.
Rhoddodd Ms Scozzi-Owens deyrnged iddo pan gafodd ei weddillion eu canfod, gan ddweud ei bod yn cydymdeimlo gyda'i blant "sydd wedi tyfu i fyny heb eu tad a heb wybod erioed yn iawn beth ddigwyddodd iddo".
"Ro'n i'n caru Russell. Fy mrawd mawr oedd e' a ro'n i bob amser yn edrych i fyny ato pan oeddwn i'n tyfu fyny.
"O'r diwedd, gallwn ni gael y cyfle i alaru amdano'n iawn."
'Anffodus nad oes modd cael rhagor o atebion'
Dywedodd Uwch-grwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Aled Gruffydd, fod nifer o ddamcaniaethau ynghylch sut y bu farw Mr Scozzi.
Y cyntaf oedd ei fod mewn dyled ac wedi dod a'i fywyd i ben, meddai.
Yr ail oedd bod "niwed wedi'i achosi gan unigolion eraill," meddai, gan ychwanegu mai'r trydydd oedd ei fod wedi "cymryd gorddos o gyffuriau".
Oherwydd y diffyg tystiolaeth fforensig neu dystiolaeth arall, cofnododd y crwner gasgliad agored.
Dywedodd wrth deulu Mr Scozzi: "Mae'n anffodus nad oes modd cael rhagor o atebion."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.