Dwy gadair 'gelfydd' â chysylltiad arbennig i'w dangos yn Yr Ysgwrn

Dyma'r tro cyntaf erioed i'r ddwy gadair gael eu dangos ochr yn ochr (y Gadair Ddu ar y dde)
- Cyhoeddwyd
Bydd dwy gadair sydd â chysylltiad arbennig yn cael eu harddangos yn Yr Ysgwrn - cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd - tan yr hydref.
Wedi'u llunio gan y crefftwr a'r ffoadur o Wlad Belg, Eugene Van Fleteren, bydd Cadair Genedlaethol 1918 yn cael ei rhoi ym mharlwr y ffermdy am gyfnod.
Y rheswm am hynny ydy mai'r un dyn wnaeth greu'r Gadair Ddu enwog y flwyddyn gynt, pan gafodd gorchudd du ei roi drosti am fod yr enillydd, Hedd Wyn - Ellis Humphrey Evans, yn swyddogol - wedi marw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
John Thomas Jôb - neu J T Jôb - oedd enillydd 1918, a dyma'r tro cyntaf erioed i'r ddwy gadair gael eu dangos ochr yn ochr.
Mae'r arddangosfa yn agor ar 1 Mehefin ac yn aros yno tan yr hydref, gan archwilio themâu rhyfel, colled, heddwch a chofio.
Dywedodd ŵyr J T Jôb, Dafydd Jôb, mai braf iawn ydy "g'neud y cysylltiad rhwng y ddwy gadair".

"O'dd Dad yn d'eud fod Fleteren yn arbennig o werthfawrogol o'r croeso oedd o wedi ei gael fel ffoadur yng Nghymru," meddai Dafydd Jôb
Tan yn ddiweddar, ychydig iawn o bobl oedd yn ymwybodol o fodolaeth ail gadair genedlaethol gan Eugene Van Fleteren.
Roedd yn ffoadur rhyfel o Mechelen yng Ngwlad Belg, a symudodd i Benbedw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn sefydlu gweithdy dodrefn llwyddiannus.
Yn ystod y rhyfel daeth dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg i Gymru.
Cafodd cadair 1918 ei dyfarnu i J T Jôb - gweinidog, bardd ac emynydd o Landybïe, Sir Gaerfyrddin - am ei awdl fuddugol Eu Nêr a Folant yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd.
Y tro hwnnw oedd y trydydd gwaith iddo ennill y gadair, ac roedd hefyd wedi ennill y goron.

'Enaf' oedd ffugenw J T Jôb wrth gystadlu am y gadair yn 1918
Daeth y cysylltiad i'r amlwg ar ôl i Dafydd Jôb ymweld â'r Ysgwrn a dweud wrthyn nhw fod y gadair wedi aros o fewn y teulu.
Doedd bron neb yn ymwybodol fod Mr Van Fleteren wedi saernïo ail gadair genedlaethol.
Dywedodd Dafydd wrth Cymru Fyw ei fod yn "gwybod erioed mai Fleteren oedd 'di creu'r gadair", gan fod ei dad wedi egluro'r hanes iddo ers talwm.
Trwy hap a damwain y sylwodd Dafydd mai'r un saer oedd wedi creu'r Gadair Ddu hefyd, wrth ymweld â'r Ysgwrn rai blynyddoedd yn ôl.

J T Jôb yn cael ei gadeirio yn 1918
"O'dd Dad wedi d'eud fod Fleteren yn arbennig o werthfawrogol o'r croeso oedd o wedi ei gael fel ffoadur yng Nghymru," meddai Dafydd.
Esboniodd Dafydd fod creu'r cadeiriau "bron fel diolchgarwch am y croeso hwnnw a gafodd o mewn ffordd".
"Pan es i i'r Ysgwrn - pan weles i'r gadair - o'dd yr elfennau o debygrwydd yn amlwg, er bo' nhw'n wahanol.
"Mae 'na elfen debyg yn y steil, mae'r gwaith cerfio yn gelfydd iawn, mae 'na ddraig ar bob braich ar y ddwy gadair.
"Mae yno batrymau Celtaidd ac mae'r geiriau 'y gwir yn erbyn y byd' ar y ddwy, mewn ffordd arbennig iawn."
Gerald Williams, nai Hedd Wyn, wedi marw yn 92 oed
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2021
Opera newydd gan Gruff Rhys am Hedd Wyn yn 'ddigwyddiad pwysig'
- Cyhoeddwyd17 Mai
Banc HSBC yn gwrthod siec y 'Parchedig' o Fangor
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024
Mae'n braf iawn cael "g'neud y cysylltiad rhwng y ddwy gadair", meddai Dafydd, gan ychwanegu ei fod hefyd yn falch o allu rhoi sylw i gadair ei "dad-cu".
"'Enaf' oedd ffugenw fy nhad-cu yn yr Eisteddfod honno yn 1918, a dyna wnaeth o enwi ei fab - fy nhad - Enaf Morrice Jôb," meddai Dafydd.
"Collodd ei wraig gynta' a thri phlentyn tuag adeg Streic Fawr y Penrhyn ac roedd o'n weinidog ym Methesda ac wedi wynebu gofid mawr yn sgil y streic.
"Ac wedyn ailbriodi yn 1915 a ganed merch a bu hithau farw hefyd ychydig ddyddiau oed, ac wedyn geni fy nhad.
"O'dd fy nhad-cu yn 50 oed erbyn hyn [pan enillodd y gadair yn 1918] ac roedd yn fendith, a gafodd o droad yn ei fywyd ar ôl yr holl golledion."
Ychwanegodd Dafydd ei bod hi'n ddiwedd ar y Rhyfel Mawr hefyd y flwyddyn honno, ac "felly'n clymu popeth hefo'i gilydd - blwyddyn arbennig iawn iddo".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.