Oriel: Rheiffordd Talyllyn yn 75 oed

Bill TrinderFfynhonnell y llun, Rheilffordd Talyllyn
Disgrifiad o’r llun,

Bill Trinder yn torri'r tâp am y tro cyntaf unwaith cafodd y rheilffordd ei adnewyddu ym Mai 1951

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

75 mlynedd yn ôl fe gafodd rheilffordd gadwraethol gyntaf y byd ei chreu yn Nhalyllyn ger Tywyn.

Diolch i waith gwirfoddolwyr brwdfrydig oedd yn awyddus i gadw'r rheilffordd yn fyw, dechreuodd y gwaith o adnewyddu'r llinell rhwng Tywyn ac Abergynolwyn.

Un o'r gwirfoddolwyr hynny oedd yn mwynhau dod i lawr i helpu oedd Y Parch W Awdry. Yr oedd wedi rhyfeddu gymaint ar yr ardal a'r trenau, fe ysgrifennodd straeon Tomos y Tanc ar gefn ymweld â Thalyllyn.

Dyma luniau o'r rheilffordd a'r trenau dros y blynyddoedd.

Hen drenau o CorrisFfynhonnell y llun, Rheilffordd Talyllyn
Disgrifiad o’r llun,

Hen drenau o Corris yn cyrraedd yn Nhywyn yn 1953

Parch Wilbert AwdryFfynhonnell y llun, David Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Y Parch Wilbert Awdry yn Nhalyllyn. Roedd y rheilffordd yn ysbrydoliaeth i'w straeon am Tomos y Tanc.

Rheilffordd cyn ei adnewydduFfynhonnell y llun, S.Bragg
Disgrifiad o’r llun,

Y rheilffordd yn 1948 cyn iddi gael ei adnewyddu a'i agor i'r cyhoedd

Locomotif Rhif 3Ffynhonnell y llun, Luke Ryan
Disgrifiad o’r llun,

Locomotif Rhif 3, Sir Haydn a'r olygfa o'r rheilffordd

DouglasFfynhonnell y llun, David Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Locomotif Rhif 6 'Douglas'

Locomotif Rhif 4 'Edward Thomas' yn barod i dynnu cerbydauFfynhonnell y llun, David Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Locomotif Rhif 4 'Edward Thomas' yn barod i dynnu cerbydau

DolgochFfynhonnell y llun, Rheilffordd Talyllyn
Disgrifiad o’r llun,

Locomotif Rhif 1 yn nesau at Ddolgoch yn 1941

Locomotif rhif 7Ffynhonnell y llun, Ian Drummond
Disgrifiad o’r llun,

Locomotif Rhif 7 Tom Rolt yng ngorsaf Tywyn yn 2015

RhydyrononFfynhonnell y llun, Luke Ryan
Disgrifiad o’r llun,

Trên rhif 1 vintage yn Rhydyronen

Trên Sir Haydn rhif 3Ffynhonnell y llun, Ian Drummond
Disgrifiad o’r llun,

Trên Sir Haydn rhif 3 yn Nant Gwernol yn 2018

Rheilffordd Talyllyn 1895Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Talyllyn
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau cynharaf y rheilffordd yn Nhalyllyn ar hen safle gorsaf y Brenin yn Nhywyn tua 1895

Trên y CoroniFfynhonnell y llun, J.J. Davis
Disgrifiad o’r llun,

Trên y coroni yn 1953

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig