'Profiad amhrisiadwy' lansio sengl newydd CFfI Cymru

Will Hughes ar faes yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Will Hughes - aelod hŷn y flwyddyn CFfI Cymru - bod y "gân yma yn un arbennig, sy'n siwtio"

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru Fyw Yn gohebu oMaes Eisteddfod yr Urdd
  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru wedi lansio sengl fel rhan o ddathliadau'r mudiad yn 90 oed.

Fe ddaeth tua 50 o aelodau'r mudiad ynghyd i recordio eu fersiwn nhw o gân Bwncath, Fel Hyn 'da ni Fod.

Dyma'r ail sengl iddyn nhw eu rhyddhau, ac fe gafodd ei lansio ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn yn wythnos yma.

Dywedodd prif weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones, y bu'n "brofiad amhrisiadwy iawn" i'r aelodau.

'Cyfle arbennig'

Dywedodd Will Hughes, aelod hŷn y flwyddyn gyda'r mudiad, fod bod yn rhan o'r prosiect wedi bod yn "gyfle arbennig".

"Mae'n fersiwn ni o'r gân o Fel Hyn 'da ni Fod gan Bwncath, ac mae'r trefniant wedi cael ei wneud gan Lisa Angharad."

Wrth sôn bod y mudiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni, dywedodd ei fod yn "gyfle arbennig i gydweithio gyda BBC Radio Cymru er mwyn dathlu'r achlysur".

Dyma'r ail sengl i'r mudiad ryddhau, ar ôl iddyn nhw recordio fersiwn o Bydd Wych gan Rhys Gwynfor yn 2020, a dywedodd ei bod yn "braf gallu gwneud e unwaith eto".

Dywedodd fod y "broses recordio yn hynod o ddifyr i rywun sydd ddim yn llawer o ganwr a bod yn onest".

"Roedd e'n ddifyr gweld sut oedd rhywun yn mynd ati i recordio mewn stiwdio."

Dywedodd fod y cyfle yn "agored i unrhyw aelod o'r mudiad i roi eu henwau" ac y bu hi'n "braf gweld aelodaeth o bob sir yn dod 'mlaen i gymryd rhan".

Cân newydd CFfI Cymru yn cael ei chwarae am y tro cyntaf

Ifan Jones Evans yn cyflwyno'n fyw o faes Eisteddfod yr Urdd ar BBC Radio Cymru

Cafodd y gân ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Eisteddfod yr Urdd 2026 ar Radio Cymru brynhawn Mercher.

Dywedodd Will ei fod wedi "clywed dim byd" cyn hynny - "dim ond beth nes i glywed tra ein bod ni'n recordio".

"Mae'r gân yma yn un arbennig, sy'n siwtio... 'fel 'ma ydyn ni, a fel 'ma fyddwn ni!

"Fel mudiad 'da ni'n gwneud cymaint o wahanol elfennau, mae 'na rywbeth at ddant pawb, a ma' gallu paratoi rhywbeth fel 'ma, cydweithio efo pobl o bob oedran, o bob sir, yn gyfle arbennig i ni gael y cyfleoedd newydd 'ma ac i ddangos doniau'r mudiad yn ehangach."

Mari Owen ar faes yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hwn yn gyfle newydd i Mari Owen o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol

Roedd y sengl yma yn brofiad cwbl newydd i nifer o'r mudiad.

Un sydd ddim fel arfer yn cymryd rhan mewn cystadlaethau corawl yw Mari Owen o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol.

Dywedodd ei fod yn "brofiad rili neis a dwi'n siŵr bod 'na rywun o bob sir yna yn cynrychioli".

"Ma' hwn yn wahanol i fi, fel arfer jysd y meim dwi'n gwneud, so oedd canu yn wahanol iawn.

"Nes i rili enjoio fo, oedd o fel bod mewn côr bach.

"Oedd o'n rili braf cyfarfod gwahanol bobl o bob cwr o Gymru hefyd."

Fflur (dde)Ffynhonnell y llun, CFFI CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Fflur (ar y dde) gyda'i chwaer a'i ffrind

Un sy'n hen gyfarwydd â chanu ar lwyfannau eisteddfodau'r ffermwyr ifanc yw Fflur Davies o Sir Gâr.

Dywedodd: "Roedd hi'n brofiad hollol fythgofiadwy i gael y cyfle i recordio yn stiwdio Sain.

"Mae mudiad y ffermwyr ifanc yn rhan ganolog o'm mywyd ac wedi rhoi gymaint o gyfleoedd i mi, felly roedd cael fy ngofyn i ganu gyda fy chwaer ar y sengl yn fraint enfawr.

"Braf oedd bod yng nghwmni cyd-aelodau ar draws Cymru i fod yn rhan o'r prosiect arbennig yma.

"Roedd clywed y sengl ar y radio yn anhygoel ac rwy'n gobeithio bydd pawb yn mwynhau gwrando arni a cheisio codi ymwybyddiaeth o'r mudiad arbennig yma."

Mared Rand Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mared Rand Jones fod "gwneud e flwyddyn y 90 wedi bod yn sbesial iawn"

Dywedodd Mared Rand Jones, prif weithredwr Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, ei bod wedi "joio mas draw yn gwylio pawb yn cael y profiad a jyst bod yn stiwdio Sain".

Ychwanegodd fod yr holl broses wedi bod yn "brofiad amhrisiadwy iawn i'r aelodau".

"Mae'r cydweithio [rhwng y mudiad a Radio Cymru] wedi bod yn ffantastig a ma' hwn wedi bod yn rhywbeth ni wedi bod eisiau gwneud ers blynydde'.

"Mae 'neud e flwyddyn y 90 wedi bod yn sbesial iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.