Y wrach o Ynys Môn sy'n dathlu Hirddydd Haf

Mhara StarlingFfynhonnell y llun, Mhara Staling
Disgrifiad o’r llun,

Mhara y tu allan i'r gromlech ym Mryn Celli Ddu

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Un o'r dyddiau pwysicaf yng nghalendr Mhara Starling yw 21 Mehefin, diwrnod Hirddydd Haf sef y diwrnod hiraf o oleuni'r haul rhwng gwawr a machlud.

Mae Mhara yn swynwraig, yn wrach, yn awdur ac yn Dderwydd ac mi fydd hi'n un o gannoedd o bobl a fydd yn cwrdd ym Mryn Celli Ddu i ddathlu'r hirddydd dros y Sul.

Mae Mhara'n byw ar Ynys Môn ac mae hi'n teimlo mai dyma'r lle perffaith iddi fod, mor agos at lefydd naturiol sydd mor bwysig i gredoau'r Derwyddon.

Dywedodd Mhara: "Mae dau ddyddiad hynod bwysig yn ein calendr ni, sef Hirddydd Haf a Hirddydd y Gaeaf sy'n digwydd ym mis Rhagfyr ac mae'r ddau ddiwrnod i ddathlu'r haul.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ddydd Sul, i gael cwrdd â phobl i ddathlu'r byd naturiol sydd mor hudolus," meddai.

Bryn Celli Ddu
Disgrifiad o’r llun,

Dros y blynyddoedd mae cannoedd o bobl wedi bod yn mynychu safle siambr gladdu Bryn Celli Ddu ar gyfer Hirddydd Haf

Mae hen draddodiadau hefyd yn bwysig i Mhara; pan oedd yn ifanc roedd hi wedi darllen yn helaeth am chwedloniaeth Cymru a'r traddodiadau paganaidd.

Mae hynny'n cyd-fynd hefyd gyda'i gwaith fel swynydd, rhywbeth mae hi'n falch ohono ac sydd yn dod â chysur i sawl person.

Roedd y swynwyr yn draddodiadol yn rhan fawr o'r gymuned, ac yn helpu pobl drwy greu swynion i amddiffyn tai a ffermydd rhag unrhyw ddrwg.

Mae hyn yn parhau heddiw, gyda phobl yn dod at Mhara gyda'u trafferthion ac mae hithau wedyn yn creu swyn i geisio lleddfu unrhyw bryderon.

"Mae 'na lot o bobl yn dod ata i efo problemau. Mae'r math o broblemau hynny yn amrywio. Fe all rhai feddwl bod ysbrydion drwg yn eu tai y maen nhw eisiau ymadael â nhw.

"Beth fyddai'n gwneud wedyn ydi creu swyn allan o berlysiau dwi'n eu tyfu fy hun.

"Dwi hefyd yn darllen dail te ac yn defnyddio'r pethau naturiol yna sydd mor bwysig i ni. Mae lot o bobl yn dod ata i am ddarlleniadau tarot hefyd neu i glywed rhywbeth gan ysbrydion eu teulu sydd 'di croesi drosodd," meddai.

O ran meistroli'r grefft o swyno a darllen dail te, mae Mhara yn ddiolchgar i'r rhai sydd wedi'i mentora dros y blynyddoedd ac i'r cyrsiau mae hi wedi bod arnynt.

Mhara gyda'r llyfrau mae hi wedi'i cyhoeddiFfynhonnell y llun, Mhara Starling
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mhara yn awdur sydd wedi cyhoeddi sawl cyfrol

Safle hynod o bwysig i'r Derwyddon ar Ynys Môn yw'r siambr neolithig ym Mryn Celli Ddu.

"Ers pum mil o flynyddoedd mae pobl wedi dod i'r safle yma ar Hirddydd Haf ac mae o dal i weithio; siambr gladdu ia, ond mae 'na gymaint mwy 'dan ni ddim yn gwybod.

"Mi fydd yn rhaid i mi godi'n gynnar iawn, fyddai'n mynd lawr i weld yr haul yn codi tua phedwar y bore, ac mi fydd y lle yn llawn.

"Nid yn unig yn llawn o Dderwyddon, ond mae'n braf gweld pobl yn dod draw i weld yr hyn sy'n digwydd ac i ddysgu am ein traddodiadau ni.

"Be sy'n bwysig i gofio ydi fod y Derwyddon cyfoes yn wahanol iawn i'r rhai traddodiadol o oes yr haearn.

"Mae gennym ni ein traddodiadau ein hunain 'wan a fydd hi'n braf gweld cymaint yno i weld golau'r haul yn pelydru'r siambr gladdu," meddai.

Mae Mhara yn aelod o Urdd Derwyddon Môn ac mae disgwyl i bobl deithio o bell iawn i fod yn rhan o'r seremoni ddydd Sul.

"Mae gennym ni aelodau ar draws y byd ac mi fydd 'na rai yn dod o dramor dwi'n siŵr fel sydd yna'n dod i'n cynhadledd flynyddol ni pob mis Tachwedd.

"Mae'n hyfryd meddwl am bawb yn dod at ei gilydd i ddathlu'r mynyddoedd, afonydd y tir a phopeth naturiol sydd gennym ni.

"Dwi'n edrych ymlaen at y ddefod ym Mryn Celli Ddu sydd yn un gyhoeddus.

"Wedyn, mi fydd y dathliadau'n parhau gyda seremonïau ychydig yn fwy preifat efo'r Derwyddon. Mi fydd hi'n braf iawn gweld pawb eto," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol