Trais yn ysgolion Cymru'n 'argyfwng iechyd a diogelwch cyhoeddus'

Mewn arolwg o 10,000 o athrawon, dywedodd bron i dri chwarter o athrawon o Gymru eu bod yn ystyried newid swydd
- Cyhoeddwyd
Mae undeb athrawon yn galw am fframwaith cenedlaethol i gofnodi trais yn ysgolion Cymru.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o athrawon o Gymru wedi ystyried gadael eu swydd nag yn unrhyw le arall yn y DU, yn ôl ffigyrau NASUWT.
Mewn arolwg o 10,000 o athrawon, dywedodd bron i dri chwarter o athrawon o Gymru eu bod yn ystyried newid swydd - o'i gymharu â 68.3% yn Lloegr.
Un o'r problemau ar hyn o bryd yw bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cofnodi ac yn ymateb i achosion o drais mewn ysgolion yn wahanol, meddai'r undeb.
Dywedodd Matt Wrack, Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT bod athrawon yng Nghymru'n teimlo eu bod yn "peryglu eu lles corfforol a meddyliol wrth gerdded i mewn i'r ysgol bob bore" ac yn "ddi-rym i ddelio ag ymddygiad peryglus disgyblion".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "unrhyw fath o drais neu gam-drin yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol" a'u bod am weithio i ddatblygu fframwaith sy'n "cynnwys sicrhau bod achosion yn cael eu trin, eu cofnodi a'u hadrodd yn gyson".
Clywed am ddynion ifanc a'r manosphere 'wedi torri nghalon i' - Sara Manchipp
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Oes safle posibl ar gyfer pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd?
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Gobaith y bydd athrawon yn cael cynnydd cyflog tebyg i Loegr
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Mae'r system bresennol yn creu risgiau diangen i staff a disgyblion, mae'r undeb yn dadlau, ac mae diffyg casglu data cyson a chywir yn cuddio graddfa ac effaith problemau ymddygiad disgyblion ar athrawon a disgyblion eraill.
Dywedodd un athro ei bod yn "nerfus i adael y dosbarth" oherwydd bod disgyblion yn gweiddi arni a'n gwneud sylwadau am ei hedrychiad.
Dywedodd un arall ei bod wedi cael ei "gwthio ddwywaith mewn 10 munud" gan ddisgybl pan oedd 38 wythnos yn feichiog.
Ychwanegodd sawl athro arall eu bod yn cael eu cam-drin yn gorfforol ac ar lafar yn ddyddiol.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT, Matt Wrack: "Mae'r straen, y pryder ac weithiau'r anaf corfforol y mae athrawon yn ei ddioddef oherwydd camdriniaeth gan ddisgyblion yn eu gorfodi i ystyried gadael y proffesiwn.
"Rhaid i unrhyw strategaeth genedlaethol fynd i'r afael â thrais mewn ysgolion a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau ymddygiad disgyblion: tlodi, anghydraddoldeb, diffyg difrifol o wasanaethau iechyd meddwl a chymorth i bobl ifanc, a lledaeniad ffyrnig o wybodaeth ffug ar draws cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein."
'Hanfodol cael fframwaith ar lefel genedlaethol'
Dywedodd Swyddog Cenedlaethol Cymru, Neil Butler, bod yr undeb wedi'i "synnu o ddarganfod nad yw pob [awdurdod lleol] yn cofnodi gwybodaeth gyson am y mathau o gamdriniaeth y mae athrawon yn eu dioddef, na nifer y digwyddiadau sy'n digwydd mewn ysgolion".
"Gan fod disgyblion yn gallu symud ar draws siroedd, mae'n hanfodol bod unrhyw fframwaith newydd yn gweithredu ar lefel genedlaethol i sicrhau y gall ysgolion gael mynediad at ddata disgyblion cyn gynted ag y bo angen."
Ychwanegodd bod yn "rhaid i'r llywodraeth weithredu nawr mewn ymateb i'r hyn sydd, yn ein barn ni, yn argyfwng iechyd a diogelwch cyhoeddus."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am "weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu fframwaith sy'n cysylltu ymddygiad, presenoldeb a llesiant a fydd yn cynnwys sicrhau bod achosion yn cael eu trin, eu cofnodi a'u hadrodd yn gyson".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.