Canslo sioe Llannerch-y-medd yn sgil pryder am ffliw ceffylau

- Cyhoeddwyd
Pwyllgor Sioe Geffylau a Chŵn Llannerch-y-medd yw'r diweddara i ganslo'r digwyddiad oherwydd pryder am ledaeniad ffliw ceffylau.
Roedd y sioe i fod i gael ei chynnal ddydd Sadawrn 20 Mehefin.
Ers dechrau Ebrill mae cynnydd wedi bod yn y nifer o achosion gyda 101 ar draws y Deyrnas Unedig wedi eu cofnodi.
O blith rheini mae 17 yng Nghymru - yn bennaf yn y de a'r gorllewin - a chyngor milfeddygon i berchnogion a bridwyr yw i frechu eu ceffylau cyn eu symud neu eu dangos.
Yn ôl Sioe Frenhinol Cymru mi fydd yr adran geffylau yn parhau eleni ond bydd yn rhaid i geffylau gael eu brechu yn erbyn y ffliw.
Mewn datganiad dywedodd Sioe Llannerch-y-medd bod canslo'r digwyddiad yn "benderfyniad anodd" ond gwnaethpwyd felly er "lles anifeiliaid a phryderon yn ymwneud â ffliw ceffylau".

Dywedodd Ann Holland, sydd wedi bod yn arddangos ei cheffylau yn Sioe Llannerch-y-medd ers yn ifanc, ei bod yn "siomedig iawn"
Mae'r ffliw yn gallu effeithio ar ysgyfaint ceffylau gan achosi peswch, twymyn a llesgedd gan achosi dioddefaint er nad yw fel arfer yn salwch angheuol.
Mae Ann Holland o Fridfa Min Môn wedi bod yn arddangos ei cheffylau yn Sioe Llannerch-y-medd ers yn ifanc ac yn dweud fod y penderfyniad yn un siomedig.
"Llannerch-y-medd ydy fy sioe ffefryn i, dwi 'di bod yn mynd yno ers tua diwedd y 70'au," meddai.
"Da ni wedi dangos yna dros y blynyddoedd, mae'r ferch wedi dangos ac mi gollais fy mhartner yn 2009 ac ma'i gyfeillion wedi dod at ei gilydd ac mae 'na gwpan fawr [er cof amdano]... dwi'n siomedig iawn."
Gan gydnabod yr heriau a'r peryg all ddod yn sgil effaith ffliw ceffylau dywedodd mai'r "bobl sy'n rhedeg y sioe sydd efo'r wybodaeth ac mae'r penderfyniad yn eu dwylo nhw".
"Maen nhw'n rhoi o'u hamser ac mae'n job ddiddiolch dwi'n gwybod fy hun."
'Brechu yw'r modd gorau i amddiffyn eich ceffyl'
Yn ôl Tîm Gwyliadwriaeth Clefydau Heintus Ceffylau mae 101 o achosion o'r haint wedi eu cofnodi ar draws y Deyrnas Unedig.
O rheiny mi oedd 17 yng Nghymru mewn wyth awdurdod lleol – Caerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Caerdydd, Penfro, Mynwy, Rhondda Cynnon Taf, a Phen-y bont.
Mae'r tîm yn annog perchnogion i fod ar eu gwyliadwriaeth gan ddweud fod y niferoedd o achosion siŵr o fod yn uwch na'r hyn sydd cael eu cofnodi.
Ategu hynny mae'r milfeddyg o Abertawe, Ifan Lloyd sy'n dweud fod brechu yn flaenoriaeth.
"Allan o'r achosion gafodd eu cofnodi yn y Deyrnas Unedig eleni, mae dros 67% wedi cael eu cofnodi mewn ceffylau sydd heb eu brechu," meddai.
"Brechu yw'r modd gorau i amddiffyn eich ceffyl rhag y ffliw - dyw e ddim 100% ond mae'r dystiolaeth yn dangos fod y ceffylau sy'n ei gael ar ôl cael eu brechu ddim yn mynd mor sâl ac yn llawer llai tebygol o ymledu'r feirws i rai eraill."

"Mae'r dystiolaeth yn dangos fod y ceffylau sy'n ei gael ar ôl cael eu brechu ddim yn mynd mor sâl ac yn llawer llai tebygol o ymledu'r feirws," meddai Ifan Lloyd
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Sioe Amaethyddol Pontargothi yn Sir Gaerfyrddin na fydd adran geffylau yn y sioe ddiwedd Mai oherwydd yr haint.
Yn ôl llefarydd ar ran y Sioe Frenhinol mi fydd yr adran geffylau yn parhau i gael ei chynnal fel y bwriadwyd.
"Ers 2019 mae Cymdeithas Amaethyddol y Sioe Frenhinol wedi gwneud hi'n orfodol i bob ceffyl sy'n dod i'r sioe gael ei frechu yn erbyn ffliw ceffylau," meddai.
"Mi fyddwn, wrth gwrs, yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn agos a chefnogi dangoswyr sy'n paratoi at y sioe ym mis Gorffennaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.