'Troi cannoedd i ffwrdd os na chawn gyllid ychwanegol' - colegau

Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Wythnos diwethaf, dywedodd Prifysgol Aberystwyth y bydden nhw'n gwneud arbedion pellach a fyddai'n golygu llai o staff

GanGwydion EdwardsaBethan Lewis
  • Cyhoeddwyd

Gallai cannoedd o fyfyrwyr gael eu "troi i ffwrdd" o golegau, os nad oes newidiadau'n cael eu gwneud i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, yn ôl penaethiaid addysg bellach.

Maen nhw'n rhybuddio y bydd yn arwain at sefyllfa drychinebus, ar ôl i adroddiad nodi faint o bobl ifanc yn y DU sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.

Ddydd Mawrth datgelodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones, gynlluniau gwariant ar gyfer 2027-28, oedd yn cynnwys £851m ar gyfer Medr - y sefydliad sy'n ariannu addysg a hyfforddiant i bobl dros 16 oed.

Byddai'r cytundeb hwnnw yn golygu toriadau i addysg bellach, meddai Colegau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.

David Hagendyk (2023)
Disgrifiad o’r llun,

"Fis Medi nesa', byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd gennym filoedd o ddysgwyr na fydd yn cael eu hariannu," medd David Hagendyk

Dywedodd David Hagendyk, prif weithredwr Colegau Cymru, nad ydy colegau addysg bellach yn derbyn digon o gyllid i dalu am eu holl ddysgwyr ar hyn o bryd a bod y galw am lefydd yn cynyddu.

"Yng Nghymru eleni, rydym yn ariannu 5,000 o ddysgwyr heb unrhyw gefnogaeth o gwbl gan Lywodraeth Cymru.

"Fis Medi nesa', byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd gennym filoedd o ddysgwyr na fydd yn cael eu hariannu, a channoedd o ddysgwyr yn cael eu troi i ffwrdd o'r coleg os na chawn ni'r cyllid ychwanegol yna."

Mae colegau wedi rhybuddio yn y gorffennol nad oes ganddyn nhw ddigon o gyllid i ateb y galw sydd yna am rai cyrsiau - yn enwedig rhaglenni ar lefel mynediad mewn meysydd fel adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol.

Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Elin Jones ddydd Mawrth y byddai trafodaethau'n digwydd ynghylch cefnogaeth i'r "sectorau pwysig yma"

Yr un diwrnod â chyhoeddi cyllideb ddrafft y llywodraeth, cafodd adroddiad sylweddol ar gyfleoedd i bobl ifanc ei gyhoeddi yn San Steffan.

Mae'r argymhellion yn adroddiad y cyn-weinidog Llafur Alan Milburn, yn cynnwys mwy o gefnogaeth gwaith i bobl sydd o dan 25 oed, newid y system budd-daliadau, a rhoi hawl gyfreithiol i bobl ifanc gael llwybr at addysg, hyfforddiant, neu waith.

Yn dilyn adroddiad Milburn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydden nhw'n ariannu llefydd mewn colegau yn llawn i bawb rhwng 16 ac 18 oed yn Lloegr am 2027-28.

"Ar un llaw mae gennym adolygiad Milburn, oedd yn becyn cynhwysfawr o gynigion a diwygiadau hirdymor.

"Ar y llaw arall, roedd gennych chi Lywodraeth Cymru na wnaeth gymryd y cyfle yn y pen draw," meddai Mr Hagendyk.

'Pwysau' ar gyllideb Medr

Dywedodd llefarydd ar ran Medr: "Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, a bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth bennu cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

"Mae cyllideb ddrafft Medr ar gyfer 2027-28 yn aros yr un fath mewn termau arian parod. Rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr a phartneriaid i ddeall goblygiadau'r gyllideb ddrafft a'u rheoli.

"Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu cyfleoedd i ddysgwyr a chefnogi system addysg drydyddol ac ymchwil sy'n parhau i gyflawni'r hyn sydd ei angen ar Gymru."

Yn siarad yn Siambr y Senedd ddydd Mawrth mi wnaeth Elin Jones gydnabod bod yno "bwysau" ar gyllideb Medr, sydd hefyd yn ariannu prifysgolion.

Awgrymodd y byddai trafodaethau'n digwydd ynghylch cefnogaeth i'r "sectorau pwysig yma".

Roedd setliad y gyllideb ddrafft ar gyfer Medr yn 2027-28 yn golygu toriad o 0.9% wrth ystyried chwyddiant gyda chwtogi pellach ar gyfer 2028-29.

Dywedodd Prifysgolion Cymru fod sefydliadau'n wynebu'r "amgylchiadau ariannol mwyaf heriol o fewn cof", sy'n golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd i dorri costau.

Wythnos diwethaf, dywedodd Prifysgol Aberystwyth y bydden nhw'n gwneud arbedion pellach a fyddai'n golygu cyflogi llai o staff.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.