O leiaf 20 mlynedd o garchar i ddyn am lofruddio bachgen 17 oed

Yn ystod yr achos fe ddywedodd Georgie Mears (chwith) ei fod yn "ofnadwy o sori" ac nad oedd yn bwriadu lladd Tristan Kerr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 20 mlynedd a hanner yn y carchar am lofruddio bachgen 17 oed yn Sir Caerffili.
Bu farw Tristan Kerr o Abertridwr, Caerffili, ym mis Chwefror eleni ar ôl cael ei drywanu drwy ei galon a'i ysgyfaint.
Fe ruthrodd Georgie Mears, 19 oed, i mewn i fflat yn Stryd Lower Francis, Abertridwr ar 5 Chwefror ac ymosod ar Tristan gyda chyllell "zombie" a oedd wedi'i chuddio yn ei drowsus.
Bydd yn rhaid i Mears wneud cais am barôl cyn iddo gael ei ryddhau – ond fe fydd ar drwydded weddill ei oes.

Cafodd Tristan Kerr ei ddisgrifio gan ei deulu fel "mab, cefnder, brawd, nai, ŵyr a ffrind annwyl iawn"
Cafodd dyn arall, Conor Palfrey, 25 oed, hefyd o Abertridwr, ddedfryd o 16 mlynedd o garchar am ddynladdiad.
Palfrey oedd wedi trefnu'r ymosodiad ar Tristan Kerr.
Yn ogystal â'i ddedfryd o garchar, bydd yn gorfod byw dan amodau llym trwydded am bum mlynedd ar ôl ei ryddhau.
Dywedodd y barnwr, Ms Ustus Stacey ei bod hi'n teimlo bod yn rhaid rhoi dedfryd estynedig er mwyn amddiffyn y cyhoedd.
"Fe wnaethoch chi drefnu ymosodiad mewn gwaed oer ar rywun oedd yn meddwl ei fod o'n un o'ch ffrindiau," meddai'r barnwr wrth Palfrey.

Cafodd lluniau CCTV yn dangos y munudau cyn y digwyddiad eu dangos yn ystod yr achos
Roedd Georgie Mears yn 18 oed adeg y digwyddiad, ac fe gyfaddefodd iddo drywanu Kerr yn ystod ffrae, ond roedd yn gwadu llofruddiaeth gan honni ei fod yn amddiffyn ei hun.
Dywedodd wrth Lys y Goron Casnewydd yn ystod yr achos ei fod yn "ofnadwy o sori, doeddwn i ddim yn bwriadu ei ladd".
Dywedodd Mears ei fod yno i ddosbarthu dau fag o getamin gwerth £25 yr un i Tristan Kerr.

Llun CCTV yn dangos Tristan Kerr ar ôl iddo gael ei drywanu
Cafodd fersiwn Mears o'r digwyddiad ei herio gan Conah Davies, a oedd yn y fflat gyda Tristan Kerr ac a geisiodd ei helpu ar ôl iddo gwympo.
Dywedodd Mr Davies fod Mears wedi rhuthro i'r ystafell fyw gan "drywanu" Tristan Kerr a bod Palfrey yna hefyd gyda ffon bren fel arf.
Daeth archwiliad fforensig o siaced Tristan Kerr o hyd i dri thoriad neu glwyf ar wahân.

Lluniau'r heddlu o Georgie Mears yn cael ei arestio gan swyddogion arfog
'Ni fydd unrhyw gosb yn dadwneud y boen'
Dywedodd teulu Tristan mewn datganiad ei fod yn "dod â golau, chwerthin a hapusrwydd i bob ystafell yr oedd yn cerdded i mewn iddi".
"Roedd ganddo gymaint o gariad i'w roi, a chymaint o freuddwydion ac uchelgeisiau o'i flaen, na fydd byth yn cael eu cyflawni.
"Ni fydd canlyniad unrhyw ddedfryd byth yn un cadarnhaol, oherwydd mae'r ddedfryd oes eisoes wedi ei roi i Tristan a'n teulu.
"Ni fydd unrhyw gosb, waeth pa mor ddifrifol, byth yn dod ag ef yn ôl, nac yn dadwneud y boen, a'r dinistr, y mae ei golli wedi ei achosi.
"... Mae wedi mynd yn llawer rhy fuan, wedi ei ddwyn o oes o gyfleoedd. Rydym yn ei garu y tu hwnt i eiriau, ac yn ei golli yn fwy nag y bydd byth yn ei wybod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd28 Hydref

- Cyhoeddwyd27 Hydref
