Gallai toriadau Prifysgol Aberystwyth fod yn 'ergyd ofnadwy' i'r dref

Mae Maer Aberystwyth, Emlyn Jones, yn poeni am effaith economaidd y toriadau ar yr ardal leol
- Cyhoeddwyd
Mae Maer Aberystwyth wedi dweud y gallai torri 150 o swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth fod yn "ergyd ofnadwy" i'r dref a'r gymuned.
Ddydd Mercher cyhoeddodd y brifysgol fwriad i arbed £16m wrth "ailstrwythuro" a "chynyddu effeithlonrwydd".
Yn ôl Emlyn Jones, mae'r cyhoeddiad wedi bod yn "sioc" ac yn "siom" ac mae'n bryderus am yr effaith economaidd posib.
Dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Jon Timmis, y bydd y brifysgol yn cyflogi llai o staff ar ôl ailstrwythuro. Ni roddodd ffigwr ar gyfer unrhyw ddiswyddiadau posib.
'Cael gwared ar 150 o swyddi o Brifysgol Aberystwyth yn golled anferth'
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
'Hyd at 200 o swyddi' dan fygythiad ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Cyhoeddwyd10 Mai 2024
Penodi Is-ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
Esboniodd Mr Jones fod y brifysgol "yn gyflogwr mor bwysig a mor fawr yn y dre ac yn yr ardal ehangach".
"Mae'r toriadau yn brifo, ac wrth gwrs dim yn unig ar y dref a'r gwariant yna, ond y staff hefyd o ran safbwynt dynol... mae'r ergyd fwyaf trwm i'r staff sy'n cael eu heffeithio," meddai.
"O ran y myfyrwyr, sy'n rhan fawr o'r economi a'r trosiant lleol, mae dal angen mwy o fyfyrwyr i ddod.
"Ond, wrth gwrs yn Aberystwyth mae ganddon ni fwy na jest prifysgol sydd yn uchel ei pharch, mae gynnon ni dref anhygoel hefyd i fod yn fyfyriwr ynddo."
'Falle fydd y dref yn dirywio ymhellach'
Mae Gwerfyl Owen Harding, o Gemaes ger Machynlleth, yn landlord i fyfyrwyr yn y dref.
"Mae e'n un o'r sefydliadau yn Aberystwyth sydd gyda lot o swyddi da, o le mae'r swyddi yna yn mynd i ddod i bobl leol? A hefyd yr economi oherwydd llai o staff, falle llai o stiwdants," meddai.
"Mae gynnon ni dai stiwdants yn Aberystwyth ac wrth gwrs mae gennym ni stiwdants fewn ar hyn o bryd.
"Heb stiwdants, fydden ni'n gorfod newid nhw falle i ddim tai stiwdants ac wedyn bydd llai o bobl yn yr ardal, llai o bres yn dod mewn i'r economi a falle fydd y dref yn dirywio ymhellach."

Ni fyddai Aberystwyth yr un peth heb y brifysgol, meddai Sion Jones
Mae gan Sion Jones, sy'n dod yn wreiddiol o Aberystwyth, bryderon hefyd: "Mae e'n lot o arian ac mae pobl leol yn mynd i bryderu fod swyddi nhw falle yn mynd i gael eu cymryd i ffwrdd.
"Mae e'n beth mawr i'r dref fi'n meddwl.
"Mae'r holl dref wedi ei sefydlu o gwmpas y brifysgol a heb y brifysgol fyse Aber ddim yr un peth."
Roedd Martin Leett o Aberystwyth hefyd yn bryderus am yr effaith ar y farchnad swyddi: "Os bydd pobl yn edrych am jobs, 150 o bobl yn edrych am jobs yn yr ardal, s'dim lot o jobs ar gael ar hyn o bryd."
'Adolygiad o'r holl unedau academaidd'
Mae'r Brifysgol yn cyflogi 1,819 o bobl ar hyn o bryd - staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol.
Mae undeb yr UCU yn dweud y bydd yr ailstrwythuro'n "targedu" staff academaidd, ac yn honni y gallai'r swyddi fydd yn mynd fod hyd at draean o'r staff academaidd.
Dywedodd y brifysgol y byddai'r ailstrwythuro diweddaraf yn arwain at ostyngiadau sylweddol mewn costau cynnal, a'u gobaith yw cyflawni'r arbedion erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2027/28.
Rhoddon nhw gadarnhad hefyd bod adolygiad o adrannau anacademaidd eisoes wedi digwydd ac y bydd "cylch nesaf y broses yn cynnwys adolygiad o'r holl unedau academaidd".

"Mae wir yn teimlo fel bod y brifysgol yn cael ei gwanhau," meddai Dr Emma Sheppard
Yn ôl Dr Emma Sheppard, o gangen Aberystwyth Undeb UCU Cymru, mae "enaid y dref" yn dod o gael prifysgol yno, ac mae'n rhybuddio am yr effaith ehangach ar yr economi leol.
"Mae 'na bryder mawr... yn y dref ac yn ehangach hefyd," meddai.
"Mae cymaint o enaid y dref yn dod o gael prifysgol yma, a'r holl bethau eilradd, y tafarndai, y siopau, pethau felly yn cael eu cynnal o gael poblogaeth o fyfyrwyr sy'n dod mewn yn gyson... felly mae am gael effaith fawr, a dyna beth ni fwya' crac amdano."
Ychwanegodd eu bod hefyd yn anhapus am y bygythiad i swyddi a'r straen posibl ar staff yn sgil yr ailstrwythuro.
"Ni'n grac oherwydd yn amlwg mae'n swyddi ni dan fygythiad, a'n bywoliaeth ni dan fygythiad, ond hefyd [yn teimlo'n] drist oherwydd mae hon yn brifysgol wych, yn lle gwych i weithio, ac yn lle gwych i fyw.
"Mae wir yn teimlo fel bod y brifysgol yn cael ei gwanhau, felly mae 'na dristwch hefyd ymhlith fy nghydweithwyr."
Mae undeb yr UCU yn galw am gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "sefyllfa ariannol y sector addysg uwch yn heriol tu hwnt, ac mae'n bosibl y bydd rhai prifysgolion, fel sefydliadau hunanlywodraethol, yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i warchod eu cynaliadwyedd ariannol".
Ychwanegodd eu llefarydd: "Ry'n ni'n cydnabod y pryder y bydd llawer o fyfyrwyr a staff Aberystwyth yn ei deimlo, ac yn disgwyl i brifysgolion weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar unrhyw gynlluniau ailstrwythuro."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.