Dros 150 yn galw am ddiogelu meddygfa sy'n 'llinell fywyd hanfodol'

Bu dros 150 o bobl yn y cyfarfod cyhoeddus yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant nos Iau
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 150 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant nos Iau i drafod dyfodol y feddygfa leol.
Mae'r practis meddygol sy'n rhedeg y feddygfa wedi gwneud cais i'r bwrdd iechyd lleol i'w chau, oherwydd - yn ôl y practis - dyw'r model ariannu presennol ddim yn ddigonol i'w chadw ar agor.
Trefnodd cyngor cymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant y cyfarfod cyhoeddus i gefnogi'r feddygfa ac i alw am gyllid ychwanegol i'w chadw ar agor.
Disgrifiodd cadeirydd y cyngor cymuned y feddygfa fel "llinell fywyd hanfodol" i'r pentref a'r ardal ehangach, gan ychwanegu y byddai'r "effaith ar y gymuned gyfan yn ddifrifol iawn" pe bai'n cau.

Mae meddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn rhan o bractis Grŵp Llanfyllin, sydd â meddygfeydd yn Llanfyllin a Llandysilio, neu Four Crosses, ger y Trallwng.
Mae'n gwasanaethu cyfanswm o tua 11,500 o gleifion, gyda dros 2,000 ohonyn nhw yn Llanrhaeadr.
Mae'r feddygfa yn dosbarthu meddyginiaeth hefyd gan nad oes fferyllfa yn yr ardal - y llynedd cafodd dros 8,000 o bresgripsiynau eu dosbarthu o Lanrhaeadr.
Mae'r meddygfeydd yn Llanfyllin a Llandysilio dros chwe a 13 milltir i ffwrdd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn y drefn honno.
'Heriau enfawr'
Dywedodd Juliet Sagar, rheolwr y practis: "Dyw'r fformiwla cyllido ledled Cymru ddim yn cydnabod yn ddigonol y costau sy'n gysylltiedig ag ariannu tair meddygfa sy'n gweithredu mewn ardal o'r maint sydd gennym ni.
"460 milltir sgwâr a chleifion ar draws yr ardal gyfan, heb unrhyw ddarparwr gwasanaeth meddygol arall yn yr ardal.
"Ni sy'n darparu'r holl wasanaethau meddygol. Does dim hyd yn oed fferyllfa yn ein hardal ni. Ry'n ni'n wynebu heriau enfawr."

"Ces i wasanaeth ardderchog," meddai Sian Jones am ei hymweliad diweddar i'r feddygfa
Dywedodd Sarah Lewis, cadeirydd cyngor cymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant, fod gan y pentref boblogaeth sy'n heneiddio a bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal yn "gyfyngedig iawn".
"Mae cyfran uchel o'n trigolion yn yr oedran ymddeol, ac felly mae cysylltiadau trafnidiaeth yn hollbwysig," meddai Sarah Lewis.
Ychwanegodd: "Mae'r rhain yn bryderon gwirioneddol i bobl. 'Sut ydw i'n mynd i gael fy meddyginiaeth? Alla i ddim gyrru.
'Sut y cawn ni ein gweld?'
"Sut ydw i'n mynd i gael mynediad at y meddyg a gwasanaethau iechyd?" Meddai Ms Lewis.
"Yn y pen draw, ry'n ni'n chwilio am ofal iechyd sylfaenol yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar gyfer ein holl gleifion."
Dywedodd Mrs Lewis fod y meddygfeydd yn Llanfyllin a Llandysilio eisoes yn gweithredu ar gapasiti llawn.
"Felly sut y cawn ni - y 2,000 o drigolion sydd â chysylltiad uniongyrchol â Llanrhaeadr-ym-Mochnant - ein gweld?"

"Dyw hi ddim yn rhwydd os nad y'ch chi'n dreifio i gyrraedd Llanfyllin - does 'na ddim llawer o dransport yno," meddai John Evans
Roedd cefnogaeth y bobl leol i'r feddygfa yn amlwg yn ystod y cyfarfod.
Dywedodd Sian Jones o Ben-y-bont-fawr ei bod wedi gorfod ymweld â'r feddygfa yn Llandysilio yn ddiweddar: "Dwi wedi gwneud trip 32 milltir yna ac yn ôl - ces i wasanaeth ardderchog ond dwi wedi gorfod trafeilio i gael hynny.
"Mae 'na fysus oes, ond does dim llawer, ac i fynd i Lanfyllin byddai'n rhaid i chi aros oriau cyn medru dod 'nôl."
Yn ôl John Evans, sy'n byw ar gyrion Llanrhaeadr, "dyw hi ddim yn rhwydd os nad y'ch chi'n dreifio i gyrraedd Llanfyllin - does 'na ddim llawer o dransport yno".
Deiseb â 2,800 llofnod
Yn gynharach eleni, roedd deiseb oedd yn galw am gadw meddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar agor wedi denu bron i 2,800 o lofnodion.
Yn ôl y ddeiseb, y rheswm dros y broblem ariannu yw penderfyniad y bwrdd iechyd lleol i ddod â chyllid ychwanegol ar gyfer y practis gwledig i ben.
Ers colli'r Gwarant Isafswm Incwm Practis yn 2015, roedd meddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant wedi cael cymorth drwy gyllid ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) er mwyn darparu "gwasanaethau meddygol a gwasanaethau dosbarthu meddyginiaeth o gangen yn yr ardal fawr, unigryw ac anghysbell hon yng Ngogledd Powys", yn ôl y ddeiseb.
Mae'r cyllid ychwanegol wedi dod i ben erbyn hyn.

Galwodd y ddeiseb am adfer y cyllid i gefnogi'r "unig ddarparwyr gofal sylfaenol a gwasanaethau dosbarthu meddyginiaeth mewn ardal o 460 milltir sgwâr" ac i gadw'r tri safle ar agor "er mwyn sicrhau mynediad at ofal iechyd i bawb yn yr ardal eang ac unigryw hon o Bowys".
Mae'r ddeiseb yn nodi bod bygythiad uniongyrchol i feddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a, pe bai'n cau, byddai hynny'n effeithio ar gynaliadwyedd hirdymor Practis Grŵp Llanfyllin yn ei gyfanrwydd.
Clywodd y cyfarfod cyhoeddus gan wleidyddion o Blaid Cymru, Llafur, Reform UK, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd cefnogaeth unfrydol i alwad am gyllid ar frys i gadw'r feddygfa ar agor hyd nes bod model ariannu newydd mewn lle.
'Meddwl lot fawr i'r gymuned'
Dywedodd Ann Klages, clerc y cyngor cymuned, ei bod hi wrth ei bodd gyda nifer y bobl oedd wedi dod i'r cyfarfod.
"Mae'n dangos bod y feddygfa yn meddwl lot fawr i'r gymuned.
"O'dd gennym ni banel yma, a'r neges ar ddiwedd y noson oedd bod angen arian ychwanegol ar frys gan y llywodraeth neu gan y bwrdd iechyd i wneud yn siŵr bod y bobl leol yn cael chwarae teg.
"Roedd pawb ar y panel wedi cytuno i gydweithio i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ei fod yn ystyried cais gan y practis i gau'r feddygfa yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto.
Ychwanegodd fod y model ariannu ar gyfer meddygfeydd yn cael ei bennu'n genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac nid yn lleol gan fyrddau iechyd.
Fel rhan o'r broses, mae'r bwrdd iechyd yn cynnal cyfnod o ymgysylltu â chleifion i ddysgu mwy am sut maen nhw'n defnyddio'r feddygfa a sut y gallai cau'r safle effeithio arnynt, yn ogystal â gweld a fyddai unrhyw broblemau ganddynt o ran mynychu meddygfeydd yn Llanfyllin neu Landysilio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n briodol iddo wneud sylw ar yr adeg yma.
Mae'r cyfnod ymgysylltu yn parhau tan 30 Medi ac mae disgwyl penderfyniad ynglŷn â dyfodol meddygfa Llanrhaeadr ym Mochnant cyn diwedd y flwyddyn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.