Negeseuon y pleidiau ar ddiwrnod ola'r ymgyrchu cyn yr etholiad

- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru wedi bod yn ymgyrchu mewn ymgais i gyfleu eu negeseuon i'r cyhoedd am y tro olaf cyn etholiad y Senedd ddydd Iau.
Bu'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn cloi ei hymgyrch dros y Blaid Lafur, ac fe aeth i Ddoc Penfro er mwyn cynnal y digwyddiad.
I Abergele aeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, tra bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, wedi bod yn ardal Llanfair-ym-muallt a Llandrindod.
Penderfynodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fynychu digwyddiad yn Llandudno, ac roedd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, yn cael cwmni arweinydd y blaid ar lefel y DU, Zack Polanski, yng Nghaerdydd.
Doedd arweinwyr Reform ddim yn ymgyrchu ddydd Mercher ar ôl i Nigel Farage gynnal eu rali olaf nhw gydag arweinydd y blaid yng Nghymru, Dan Thomas, ym Merthyr Tudful nos Fawrth.

Mae'r un pryderon yn codi yn ardaloedd gwledig Brycheiniog ac yng nghymunedau diwydiannol y de, meddai Jane Dodds
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, oedd mewn rhan o etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd ym Mhowys - ardal sydd wedi bod yn gadarnle i'r blaid - dydy maint yr etholaeth newydd ddim yn rhwystr, am ei bod eisoes wedi cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru o dan y drefn flaenorol.
Dywedodd bod "yr un pryderon yn codi" yn ardaloedd gwledig Brycheiniog ac yng nghymunedau diwydiannol y de.
Y flaenoriaeth iddi hi yw cyflwyno gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal "cyn gynted â phosib", yn ogystal â gwneud mwy i ddiogelu afonydd a'r arfordir.
Wrth fynd o ddrws i ddrws, roedd hi'n pwysleisio ei gwelliannau i gostau byw gyda'r cynllun tocyn bws am £1 i bobl ifanc.
Er ei bod wedi arfer â gweithio ar ei phen ei hun yn y Senedd, dywedodd y byddai ail dymor yn rhoi cyfle iddi "wneud mwy" dros etholwyr.

Gweld amcanion y Gwyrddion yn cael eu cyflawni fydd pris eu cefnogaeth, meddai Anthony Slaughter
Pwysleisiodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, fod "cydweithredu a chydweithio yn ein DNA".
Dydy'r neges yna ddim yn syndod gan eu bod wedi bod yn agored iawn am eu hawydd i gydweithio â phlaid arall er mwyn atal Reform rhag dod i rym.
"Byddwn bob amser yn siarad â phobl o'r un anian lle mae meysydd o dir cyffredin," meddai.
"Gan fod yr argyfyngau sy'n ein hwynebu mor heriol, mae'n rhaid i ni gymryd camau brys.
"Ond rydw i hefyd wedi dweud nad yw ein cefnogaeth i unrhyw lywodraeth Gymreig yn y dyfodol... yn dod heb gost.
"Dydyn ni ddim am gefnogi rhywun dim ond oherwydd mai nid Reform ydyn nhw.
"Mae gyda ni amcanion Gwyrdd - ac mae angen i ni weld ein hamcanion yn cael eu cyflawni - dyna fydd pris ein cefnogaeth."

"Mae Cymru ar groesffordd," meddai Rhun ap Iorwerth
Mae Cymru'n "sefyll ar groesffordd" meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
"Mae arweinwyr y pleidiau eraill yn ymweld â Chymru... mae arweinydd Plaid Cymru yng Nghymru bob un dydd," meddai.
Ychwanegodd bod yr "opsiwn arall i Gymru'n cynrychioli rhaniad" ac mai dim ond Plaid sy'n gallu curo Reform.
Cyfeiriodd hefyd at y ffaith bod rhai o blacardiau Plaid Cymru wedi cael eu "fandaleiddio a'u dinistrio" nos Fawrth, gan ddweud bod yna "eraill sy'n trio ein dinistrio ni".

Mae Darren Millar yn pwysleisio y bydd ei blaid yn rhan hanfodol o benderfynu sut caiff Cymru ei rhedeg
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, fod ei blaid am fod yn ei chanol hi o ran penderfynu sut y bydd Cymru'n cael ei rhedeg - gan awgrymu efallai eu bod yn barod yn meddwl am bwy i gefnogi wedi'r etholiad.
Ond dywedodd nad yw'r etholiad rhwng dwy blaid yn unig, gan honni y gallai'r Torïaid ennill "o leiaf un sedd ym mhob etholaeth yng Nghymru" - canlyniad y byddai llawer o Geidwadwyr wrth eu boddau ag ef.
Ychwanegodd Mr Millar: "Fydd dim newid yn y Senedd heb i'r Ceidwadwyr Cymreig fod yn ei chanol hi, achos does yr un blaid am ennill mwyafrif.
"Felly os ydyn nhw [etholwyr] am gael newid yng Nghymru, os ydyn nhw eisiau trethi isel a dod â gwastraff y llywodraeth i ben, ac os ydyn nhw am drwsio ein gwasanaethau cyhoeddus, yna bydd yn rhaid iddyn nhw bleidleisio dros y Ceidwadwyr."

Ni ddylai pleidleiswyr ddefnyddio'u pleidlais fel un brotest, meddai Eluned Morgan
Mae arweinydd Llafur yng Nghymru, Eluned Morgan yn annog pleidleiswyr i beidio â gweld etholiad y Senedd fel cyfle i fwrw "pleidlais brotest".
Gwnaeth y sylw pan ofynnwyd iddi pa effaith yr oedd arweinyddiaeth Syr Keir Starmer yn San Steffan wedi'i chael ar ymgyrch Llafur Cymru.
Roedd yn cydnabod fod yr ymgyrch wedi bod yn "heriol", ond yn ychwanegu ei bod yn gobeithio bod pobl wedi clywed "neges gadarnhaol" ei phlaid.
Mae'n mynnu hefyd, oherwydd y system bleidleisio newydd, nad yw hi am fod yn ras rhwng dwy blaid yn unig.

Fe gynhaliodd Reform rali ym Merthyr Tudful nos Fawrth fel eu digwyddiad olaf yn yr ymgyrch cyn yr etholiad ddydd Iau
Doedd arweinydd Reform ddim yn ymgyrchu ddydd Mercher ar ôl cynnal eu digwyddiad olaf nhw nos Fawrth ym Merthyr Tudful.
Yno, dywedodd yr arweinydd yng Nghymru, Dan Thomas, ei fod yn credu y gallai pleidleiswyr roi mwyafrif i Reform yn yr etholiad.
Roedd hefyd yn cytuno'n "llwyr" â llefarydd materion cartref Reform, Zia Yusuf, pan ddywedodd mai yr ardaloedd ble mae gan y Gwyrddion lawer o gefnogaeth fyddai'n cael blaenoriaeth ar gyfer canolfannau cadw mudwyr o dan lywodraeth Reform UK, oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd fel cefnogaeth y blaid i "ffiniau agored".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill

- Cyhoeddwyd15 Ebrill
