Gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion

Roedd y car yn teithio ar yr A44 tua'r dwyrain i gyfeiriad Goginan pan adawodd y ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngheredigion ddydd Mawrth.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar yr A44 rhwng Capel Bangor a Goginan tua 18:10.
Un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad - Volskwagen Golf gwyn - a dywedodd yr heddlu fod y car wedi gadael y ffordd tra'n teithio tua'r dwyrain.
Cafodd y gyrrwr - yr unig berson oedd yn y cerbyd ar y pryd - ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam allai fod o ddefnydd i'r heddlu yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu.