Cynyddu dedfryd gweithiwr iechyd am droseddau rhyw mewn ysbyty

Mae dedfryd wreiddiol Ieuan Crump o naw mlynedd o garchar wedi cael ei chynyddu i 12 mlynedd dan glo
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llys Apêl wedi cynyddu dedfryd gweithiwr iechyd wnaeth ymosod yn rhywiol ar ddau glaf yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbrân.
Ym mis Rhagfyr 2025 cafodd Ieuan Crump, 28 o Gilfach yng Nghaerffili, ddedfryd o naw mlynedd o garchar.
Ond cafodd yr achos ei gyfeirio at y Twrnai Cyffredinol o dan y cynllun sy'n ystyried a ydy dedfrydau yn rhy drugarog.
Penderfynodd tri barnwr yn y Llys Apêl y dylid cynyddu hyd y ddedfryd i 12 mlynedd.
Roedd Crump yn gweithio fel cynorthwyydd meddygol, tra'n hyfforddi i fod yn nyrs, pan ymosododd ar ddwy ddynes yn Ysbyty'r Faenor ym mis Awst 2021.
Fe ymosododd yn rhywiol arnyn nhw, tra'n cymryd arno ei fod yn cynnal archwiliad meddygol, wrth i'r menywod orwedd mewn poen, gydag un ohonyn nhw newydd gael llawdriniaeth.
Yn ystod rhai o'r ymosodiadau, doedd Crump ddim yn gwisgo menyg.

Roedd Ieuan Crump yn gweithio o dan hyfforddiant yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbrân ar y pryd
Yn yr achos llys yn 2025, cafwyd Crump yn euog o chwe chyhuddiad o ymosodiad rhyw, a thri o ymosodiad drwy dreiddiad.
Wrth ei ddedfrydu, clywodd y llys bod troseddau Crump wedi cael effaith ddifrifol ar ei ddioddefwyr, gydag un yn dweud iddi geisio lladd ei hun deirgwaith, a'r llall wedi cael diagnosis o gyflwr PTSD.
Yn y gwrandawiad yn y Llys Apêl, roedd cynrychiolydd y Twrnai Cyffredinol yn dadlau nad oedd y barnwr yn yr achos gwreiddiol wedi cyflwyno'r addasiadau cywir i'r ddedfryd, gan ystyried yn llawn y tor-ymddiriedaeth difrifol oedd ynghlwm â'r troseddau.
Wrth amddiffyn, dywedodd Marian Lewis ei bod o'r farn mai'r barnwr yn yr achos gwreiddiol oedd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y ddedfryd, a bod troseddau Crump yn achos o "weld cyfle" yn hytrach na bod wedi eu targedu.
Ar ôl ystyried, penderfynodd y tri barnwr bod y ddedfryd wreiddiol yn "rhy drugarog", a bod yn rhaid i'r "ddedfryd yn ei chyfanrwydd adlewyrchu difrifoldeb y troseddau".
Gan ddiddymu'r ddedfryd wreiddiol, cafodd dedfryd newydd o 12 mlynedd ei chyflwyno - saith mlynedd am y troseddau yn erbyn y dioddefwr cyntaf, a phump am yr ail.
Fe ymddangosodd Crump yn y llys drwy gyswllt fideo o Garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond ni fu'n siarad yn y llys.
Os ydy cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2025
