Angen i'r Llywydd fod yn 'uchelgeisiol a gweld pob cyfle i gryfhau'r Senedd'

Fe ddaeth Elin Jones yn Llywydd y Senedd yn 2016 ac mae wedi treulio deg mlynedd yn cadw trefn ar aelodau'r Siambr
- Cyhoeddwyd
Mae Elin Jones yn paratoi i drosglwyddo'r awenau i Lywydd newydd Senedd Cymru.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, bu'n sôn am y broses o benodi person newydd i'w holynu.
"Fe fyddai'n gweld yn ystod yr oriau nesaf 'ma a oes yna enwau sydd â diddordeb i fod yn Llywydd ac yn ddirprwy Lywydd ac yna fe fyddai'n gallu galw cyfarfod cyntaf o'r Senedd ar gyfer yfory.
"Y weithred gyntaf yw ethol Llywydd a dirprwy i'r Senedd ac yna ar ôl cwblhau hynny, symud ymlaen i ethol Prif Weinidog newydd Cymru, ac felly, os fydd popeth mewn lle yn ystod y bore yma, mi fyddaf yn medru galw'r cyfarfod yna ar gyfer amser cinio fory."
Wrth gynnig cyngor i'r darpar Lywydd newydd, dywedodd fod angen iddynt "dorri eu trywydd eu hunain, i fod yn uchelgeisiol dros y Senedd, i fod eisiau gweld pob cyfle i gryfhau'r Senedd ac i wneud yn siŵr fod pawb yn bihafio o fewn y Senedd.
"Os chi'n gallu cyflawni hynna'i gyd, yna fe fydd y cyfnod yn un cyffrous iawn i'r Llywydd newydd."
Fe ddaeth Elin Jones yn Llywydd yn 2016 ac mae wedi treulio degawd yn cadw trefn ar aelodau'r Siambr.
Cafodd Elin Jones ei hethol i'r Cynulliad cyntaf yn 1999, fel aelod Plaid Cymru dros Geredigion - a hi a Lynne Neagle AS yw'r unig aelodau gwreiddiol a fydd yn seithfed tymor y Senedd.
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi cadarnhau y byddai'n hoffi bod yn Llywydd nesaf y Senedd.
Mae Aelod Llafur Huw Irranca-Davies hefyd wedi cynnig ei enw i olynu Elin Jones fel Llywydd.
Dywedodd y cyn-ddirprwy Brif Weinidog fod ei "brofiad hir a dwfn" yn y Senedd ac yn San Steffan wedi "rhoi'r ystod o sgiliau a'r gallu i ymgymryd â'r rôl bwysig".
Mae angen cadarnhau Llywydd newydd cyn y gall y Senedd ethol Prif Weinidog newydd.
Mae hynny'n debygol o ddigwydd ddydd Mawrth.

Dywed Elin Jones fod y "llwyddiant i Blaid Cymru yn anhygoel ac mor weledol hefyd - y 43 aelod yna ar risiau'r Senedd!"
Soniodd Elin Jones hefyd am y cyffro o weld llwyddiant Plaid Cymru yn yr etholiad a'r cyfrifoldeb nawr i lywodraethu'n llwyddiannus
"Mae wedi bod yn ganlyniad arbennig iawn i Blaid Cymru ac mae 'na gyfle nawr i Blaid Cymru fynd ati i ffurfio Llywodraeth i Gymru ac mae hynny yn gam sylweddol mawr i'r blaid ond i'r wlad hefyd.
"Ni'n teimlo bod rhywbeth wedi newid ar dir Cymru i fod yn rhoi'r gefnogaeth yna i Blaid Cymru yr wythnos ddiwethaf, ac fe fydd y disgwyliadau'n uchel iawn o'r llywodraeth hynny pan ddaw hi a chyfrifoldeb ar ysgwyddau holl aelodau Plaid Cymru yn y Senedd i fyw lan i'r cyfrifioldeb yna."
Mae 'na gyffro mawr yn y wlad, meddai.
"Roedd 'na gyffro rhyfeddol yn 1999... am fod aelodau Senedd Cymru yn cael eu hethol am y tro cyntaf, ond bendant, mae'r un buzz, yr un newid i'w deimlo ar waith eto, ac mae'r llwyddiant i Blaid Cymru yn anhygoel ac mor weledol hefyd - y 43 aelod yna ar risiau'r Senedd!"

Gyda'r etholaethau wedi newid erbyn hyn, mae Elin Jones yn un o chwech aelod (tri ar ran Plaid Cymru) a fydd yn cynrychioli Ceredigion Penfro.
Mae'n dweud bod gwaith ymarferol i'w wneud i sicrhau bod yr aelodau etholedig yn trafod sut i gynrychioli'u hetholaeth yn effeithiol.
"Un o'r pethau pwysig i'w wneud ydy gwneud yn siwr bod dim gormod o ddyblygu yn digwydd, o ran gwaith, o ran ymateb i etholwyr, fod etholwyr yn dod yn weddol gyfarwydd yn weddol o gyflym sut mae cysylltu ag aelodau Plaid Cymru o fewn yr etholaeth yna, eu bod nhw'n cysylltu efo'r aelod priodol ar gyfer pa bynnag waith - naill ai yn eu hardaloedd neu yn y meysydd mae nhw eisiau arbenigo arno.
"Mae cyfrifoldeb bydden i'n dweud ar y chwe aelod ym mhob etholaeth nawr i fod yn trafod sut mae'r gweithio'n mynd i ddigwydd mewn ffordd sy'n gwneud hyn mor glir a hwylus i'r etholwyr, dyna sy bwysicf."
"Barod i wneud unrhyw beth"
Pan yn cael ei gofyn a fyddai'n hoffi rôl yng nghabinet newydd Plaid Cymru, mae'n dweud mai "Rhun ap Iorwerth, yn debygol iawn fydd Prif Weinidog nesaf Cymru a fe fydd yn penderfynu ar aelodau'r cabinet.
"Bydden i yn barod i wneud unrhyw beth sydd ei angen i fi 'neud i Blaid Cymru yn ystod y bedair blynedd nesaf 'ma.
"Bydden i'n dweud bod llwyddiant llywodraeth Plaid Cymru yn dibynnu nid yn unig ar aelodau Blaid Cymru sydd yn y Cabinet yna, ond yr aelodau hynny fydd yn y Senedd yn cefnogi gwaith y Llywodraeth yna.
"Felly fydd yna 43 aelod â rôl i chwarae yn Llywodraeth Blaid Cymru dros y blynyddoedd i ddod, a bydda i yn chwarae pa bynnag rôl fydd Rhun ap Iorwerth eisiau fi chwarae."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd11 Mai 2016

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
