Galw am enwau lleoedd Cymraeg yn unig ar fapiau Ordnans

Mae enwau Saesneg answyddogol fel 'Soup Dragon Cave' (Porth Ruffydd) yn cael ei gynnwys ar gronfa ddata'r Arolwg Ordnans
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd o Wynedd wedi mynegi "pryder dwfn ac angerddol" ynghylch colli enwau lleoedd Cymraeg ar fapiau.
Mae'r Cynghorydd Einir Williams yn galw ar yr Arolwg Ordnans i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn unig.
Mae'r cynghorydd sy'n cynrychioli ward Gerlan ar Gyngor Gwynedd hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr asiantaeth mapio Brydeinig yn "parchu ac yn amddiffyn" enwau Cymraeg hanesyddol.
Mae hi'n bwriadu codi'r mater yn ystod cyfarfod llawn nesaf y cyngor, ddydd Iau, Mai 14.

Pleidleisiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddefnyddio Yr Wyddfa, yn hytrach na Snowdon, ac Eryri, yn hytrach na Snowdonia, ym mhob cyfathrebiad swyddogol ym mis Tachwedd, 2022
Honnodd y cynghorydd bod polisi presennol yr Arolwg Ordnans yn arwain at ddileu, tanseilio ac anwybyddu enwau lleoedd Cymraeg sydd wedi bod yn rhan o'n tirwedd ers canrifoedd.
"Ar hyn o bryd mae mapiau'r Arolwg Ordnans yn disodli enwau Cymraeg hanesyddol â rhai Saesneg nad oes ganddynt sail na thraddodiad, e.e. The Mushroom Garden ar gyfer Coed Cerrig y Frân, Heather Terrace Path ar gyfer Llwybr Gwregys."
Ychwanegodd: "Creodd gosod enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg yr argraff bod yr enwau Cymraeg yn ddewisol neu'n eilradd, e.e. Cwm Cneifion / Nameless Cwm, Llyn Tegid / Bala Lake, Snowdon / Yr Wyddfa.
Pleidleisiodd awdurdod Parc Eryri i ddefnyddio Yr Wyddfa, yn hytrach na Snowdon, ac Eryri, yn hytrach na Snowdonia, ym mhob cyfathrebiad swyddogol ym mis Tachwedd, 2022.

Mae Porth Dafarch ar Ynys Cybi, yn cael ei alw'n 'Smoggy Point' gan rai
"Mae'r cyngor hwn yn beirniadu'r arferion hyn, gan eu bod yn cyfrannu'n uniongyrchol at golli enwau Cymraeg, ac felly'n tanseilio ein hiaith, ein hanes a'n hunaniaeth genedlaethol," meddai Einir Williams.
"Pan fydd yr Arolwg Ordnans yn mabwysiadu enw Saesneg, mae'n ymddangos ar wefannau, arwyddion, cyhoeddiadau, a'r cyfryngau ac o ganlyniad, mae'r enw Cymraeg yn cael ei wthio o'r neilltu.
"Mae hyn yn digwydd hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc, sy'n aml yn cael eu harwain i gredu mai'r enw Saesneg yw'r enw safonol.
"Dyma sut mae iaith yn cael ei gwanhau, nid mewn un ergyd, ond mewn mil o gamau bach.
"Mae enwau lleoedd Cymraeg yn rhan o'n DNA diwylliannol. Maent yn adrodd hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd. Nid oes gan neb yr hawl i'w dileu na'u disodli."

"Nid mater o fapiau yn unig yw hyn", meddai Einir Williams, Mae'n fater o hunaniaeth, parch a chyfiawnder diwylliannol"
Mae Einir Williams felly'n galw ar y cyngor i gytuno i "ysgrifennu at yr Arolwg Ordnans i alw arnynt i roi terfyn ar y polisi niweidiol presennol, ac i fabwysiadu egwyddor glir a syml a defnyddio enwau lleoedd tirwedd Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru."
"Nid mater o fapiau yn unig yw hyn. Mae'n fater o hunaniaeth, parch a chyfiawnder diwylliannol," ychwanegodd.
Dywedodd yr Arolwg Ordnans bod yna gynnydd yn nifer yr enwau Cymraeg a'u bod, er enghraifft, wedi cefnogi gwaith diweddar o fabwysiadu enwau lleoedd Cymraeg ar gyfer llynnoedd yn Eryri.

'Cader' Idris yw'r enw'n lleol, nid Cadair Idris
Dywedodd llefarydd ar ran yr Arolwg Ordnans eu bod "wedi ymrwymo i gadw fersiynau awdurdodol o enwau lleoedd o fewn eu mapio lle maent yn cael eu defnyddio o ddydd i ddydd".
"Mae cynrychiolaeth gywir o enwau lleoedd, gan gynnwys enwau dwyieithog os yw'r ddau'n cael eu defnyddio, yn hanfodol ar gyfer cyflwyno cynhyrchion mapio o ansawdd uchel i'r cyhoedd a chefnogi'r llywodraeth a'r gwasanaethau brys.
"Ni all Arolwg Ordnans benderfynu ar ei ben ei hun i newid enw."
"Fel arfer, mae unrhyw newidiadau prin a wnawn yn dod o ganlyniad i newidiadau a wneir gan gyrff awdurdodol neu pan fydd enw'n peidio cael ei ddefnyddio ac enw arall yn dod yn ei le.
"Rydym yn parhau i weld cynnydd yn nifer yr enwau Cymraeg, ac wedi cefnogi gwaith diweddar i fabwysiadu nifer o enwau lleoedd Cymraeg safonol ar gyfer llynnoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gan sicrhau eu bod yn cael eu cadw yn ein cronfa ddata.
"Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a pharciau cenedlaethol i nodi beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r iaith Gymraeg yn ein mapio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror

- Cyhoeddwyd8 Mai 2024

- Cyhoeddwyd30 Medi 2025

- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
