Galw am newid polisïau cynllunio i ateb anghenion cymunedau

Mae rhai cymunedau yn poeni y bydd gorddatblygu yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi galw ar lywodraeth newydd Cymru i gyflwyno newidiadau mawr i'r drefn gynllunio er mwyn creu polisïau sydd yn ateb anghenion cymunedau.
Yn ôl prif weithredwr y mudiad mae "lot fawr o waith" i'w wneud ym maes tai a chynllunio.
Dywedodd Dylan Bryn Roberts bod angen "edrych ar yr holl gyfundrefn gwlad a thref" a'i "haddasu i anghenion Cymru".
Mae Plaid Cymru yn bwriadu codi 20,000 o dai cymdeithasol newydd erbyn 2030, ac wedi addo sefydlu corff datblygu cenedlaethol newydd o'r enw Unnos i gyflymu'r broses o'u darparu.
Dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am dai, Siân Gwenllian, bod "angen i'r cymunedau fod yn fwy o ran o'r broses" o lunio cynlluniau datblygu.

Yn ôl Dylan Bryn Roberts, mae'n allweddol mai pobl leol sy'n cael blaenoriaeth wrth osod tai cymdeithasol
Yn ôl Dylan Bryn Roberts mae cynlluniau datblygu lleol - y fframwaith sydd yn cael ei gosod er mwyn datblygu siroedd dros gyfnod o amser - wedi gosod targedau o ran codi tai sydd yn "ormodol o ran niferoedd" oherwydd gostyngiad mewn poblogaeth mewn rhai ardaloedd.
Mae'n dweud y dylai'r cynlluniau fod yn "adeiladu tai ar gyfer anghenion a thwf y gymuned sydd yn byw yn y sir yna".
Mae hefyd yn galw ar y llywodraeth i sicrhau mai pobl leol sydd yn cael y flaenoriaeth ar gyfer tai cymdeithasol newydd.
Mae'r llywodraeth Plaid Cymru yn bwriadu ceisio codi 20,000 o dai cymdeithasol newydd erbyn diwedd tymor y Senedd bresennol yn 2030.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) wedi rhybuddio y bydd angen cynyddu gwariant cyfalaf yn sylweddol i gyrraedd y targed, er bod disgwyl i wariant cyfalaf ostwng mewn termau real yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Yn ôl cymdeithas dai Barcud, mae 95% o'r aelwydydd ar ystâd Tai Heol Fferm Fila yn cynnwys rhywun sy'n siarad Cymraeg
Ym mhentref Crymych mae cymdeithas dai Barcud newydd gwblhau ystâd newydd Heol Fferm Fila, ond mae hi wedi cymryd 13 mlynedd i gyrraedd y nod.
Mae 41 o gartrefi effeithlon o ran ynni wedi cael eu hadeiladu ar gost o £9m, gyda 20 o gartrefi cymdeithasol ar rent a 21 cartref arall yn perthyn i gynllun rhan-berchnogaeth Llywodraeth Cymru.
Yn ôl cwmni Barcud, mae 95% o'r aelwydydd yn cynnwys rhywun sydd yn siarad Cymraeg, ac mae yna bolisi gosod lleol.
"Bues i yn edrych am sbel fach ond wedd dim byd lot ar y farchnad," meddai Liam Harries, sy'n rhentu tŷ ar yr ystâd gyda'i deulu ifanc.
"Mae'n eitha' galed i gael dy hunan ar y property ladder. Mae rhywbeth fel hyn wedi dod lan nawr ac roedd e'n arbennig i ni.
"Mae e wedi helpu lot o bobl lleol eraill fi'n 'nabod hefyd.
"We' ni yn stryglan o'r blaen achos doedd dim lot o dai yn yr ardal, ond we' ni yn gwybod bod lot o fois ifanc mo'yn aros yn lleol, ond wedd dim tai i gael.
"Ynglŷn â gwneud cais i fynd am un o'r tai, wedd eitha' lot o wybodaeth roedd rhaid rhoi mewn.
"Bod ni yn dod o'r ardal lleol, pa mor hir o' ni wedi bod yn byw yn yr ardal - wedd lot o bethe fel 'na yn good i wneud yn siŵr bod nhw yn cadw pobl lleol mewn."

Mae Liam Harries yn dweud bod datblygiad Heol Fferm Fila wedi bod yn "arbennig" iddo ef a'i deulu ifanc
Yn ôl Dylan Bryn Roberts o Dyfodol i'r Iaith, mae'n allweddol mai pobl leol sydd yn cael blaenoriaeth wrth osod tai cymdeithasol.
"Heb amheuaeth," meddai.
"Un o'n pryderon ni fel mudiad ydy oherwydd y gyfundrefn bresennol, mae'n ddeddfwriaeth Brydeinig neu Cymru a Lloegr, ac felly mae modd i bobl, os ydyn nhw'n dod yma ar wyliau ac mewn tŷ cymdeithasol yn Lloegr, mae deddf yn caniatáu iddyn nhw gael tŷ yn yr ardal yma os mai dyna eu dymuniad.
"Mae hynny yn golygu fod pobl leol, sydd wedi bod yn disgwyl ers tro byd, yn mynd yn is yn y rhestr o ran blaenoriaeth.
"Mae pobl yn dod ar draws achosion sydd yn digwydd mewn cymunedau cefn gwlad o bobl sydd yn dod o'r dinasoedd yn Lloegr.
"Mae ganddyn nhw broblemau cymdeithasol ac yn y blaen, ac mae hynny yn achosi drwgdeimlad a gwrthdaro ar ben y dimensiwn ieithyddol."

Mae heriau amgylcheddol ac ariannol i adeiladu tai cymdeithasol, yn ôl Keith Henson
Yn ôl Keith Henson, sydd yn gweithio fel hwylusydd tai gwledig i gwmni Barcud, mae yna heriau amgylcheddol ac ariannol er mwyn darparu digon o dai cymdeithasol.
Mae oedi wedi bod gyda nifer o gynlluniau tai fforddiadwy oherwydd llygredd ffosffadau yn afonydd Cymru.
"Yr heriau sydd wedi bod wrth gwrs yw ffosffadau, sydd wedi bod yn dipyn o her ar draws gorllewin Cymru," meddai.
"Mae tipyn o her gyda chynllunio, a gobeithio gyda gweld rheolaeth newydd yn y Senedd y byddwn ni yn gweld mwy o gyfleon mewn ardaloedd gwledig.
"Mae angen sicrhau bod yna ffynhonnell arian dal yn bodoli o ran y grant tai cymdeithasol a sicrhau bod gwell system gynllunio, yn enwedig i ardaloedd gwledig, achos yn aml fan 'ny ni yn gweld yr heriau.
"Hynny yw, bod y cynllun datblygu lleol wedi cael ei benderfynu gyda llywodraeth lawr yng Nghaerdydd."
Targedau ffosffad yn 'parlysu'r broses o godi tai'
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2022
Sêl bendith i ddatblygiad tai Crymych
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
Cynllun tai yn 'hybu mewnlifiad'
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
Ychwanegodd Mr Henson fod cynllun rhan-berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfleon o ran cyllido tai cymdeithasol.
"Efallai bod angen edrych ar esiampl Heol Fferm Fila.
"Mae pobl leol wedi cael cyfle i brynu tai, ac wrth ddefnyddio system fel 'na mae'r arian sydd yn cael ei dalu 'nôl yn cael ei ailgylchu i adeiladu mwy o dai.
"Mae angen i ni fod yn fwy smart o ran edrych ar ba fath o gynlluniau ariannol sydd ar gael."

Dywedodd Siân Gwenllian mai "pobl leol ydi'r heliw o bobl sydd yn byw yn y 'stadau tai cymdeithasol" mewn ardaloedd gwledig
Dywedodd y gweinidog llywodraeth leol, tai a chynllunio, Siân Gwenllian, bod "cynlluniau datblygu lleol angen edrych arnyn nhw'n fanwl".
"Mae angen i'r cymunedau fod yn fwy o ran o'r broses o greu cynlluniau datblygu lleol," meddai.
"Mae fy ffocws i ar adeiladu a chynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol - yn fan'na mae'r ateb ar gyfer diwallu y problemau sydd yn y system tai.
"Mewn ardaloedd gwledig 'da ni'n sôn efallai am glystyrau bach iawn o dai cymdeithasol, a pan 'da chi'n edrych ar yr ystadegau, pobl leol ydi'r heliw o bobl sydd yn byw yn y 'stadau tai cymdeithasol."
Ychwanegodd nad oes modd iddyn nhw roi "gwarant" y bydd pobl leol yn cael blaenoriaeth, "ond yn sicr mi ydan ni yn gwybod fod creu cyflenwad digonol o dai cymdeithasol yn ffordd o helpu pobl leol i ffeindio cartref".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.