Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.
Dim ond mwynau hydawdd mae planhigion yn gallu eu hamsugno (rhai sy’n gallu hydoddi mewn dŵr). Maent yn amsugno mwynau wedi’u hydoddi mewn hydoddiant o’r pridd drwy eu cell wreiddflewCell arbenigol sy’n cynyddu arwynebedd arwyneb epidermis y gwreiddyn er mwyn gwella mewnlifiad dŵr a mwynau.. Fodd bynnag, mae crynodiad mwynau yn y pridd yn isel iawn.
Cludiant actif – Haen uwch yn unig
Dydy mwynau ddim yn gallu cael eu hamsugno drwy gyfrwng osmosis oherwydd dim ond symudiad dŵr yw hyn. Dydyn nhw ddim yn gallu cael eu hamsugno drwy gyfrwng trylediadSymudiad gronynnau (moleciwlau neu ïonau) o ardal o grynodiad uwch i ardal o grynodiad is., oherwydd mae crynodiad y mwynau yn isel iawn. Yn lle hynny, mae’r planhigyn yn defnyddio cludiant actif.
Mae gan y celloedd gwreiddflew brotinau cludo yn eu cellbilenni. Mae’r rhain yn casglu’r ïonau mwynol ac yn eu symud nhw ar draws y bilen i mewn i’r gell yn erbyn y graddiant crynodiadY graddiant crynodiad ydy'r gwahaniaeth yn y crynodiad rhwng dwy ardal gyfagos. Bydd gronynnau'n symud i lawr y graddiant crynodiad o ardal o grynodiad uchel i ardal o grynodiad isel..
Oherwydd bod cludiant actif yn symud ïonau yn erbyn graddfa crynodiad i fewn i’r celloedd gwreiddflew, bydd angen egni. Darperir yr egni ar ffurf ATP (adenosin triffosffad).
Figure caption,
Mae osmosis yn achosi i ddŵr basio i’r celloedd gwreiddflew, drwy gortecs y gwreiddyn ac i’r tiwbiau sylem